
The Flying Dutchman Wagner
Archived: 2025/2026Trosolwg
Eneidiau coll a rwymwyd gan y môr
Mae llong iasol yn crwydro'r môr diddiwedd, eang, unig a didostur. Mae ei chapten dan felltith i hwylio'n dragwyddol nes y caiff ei achub gan gariad pur.
Senta, a gafodd ei swyno gan hanes dirgelwch y Flying Dutchman a gondemniwyd i hwylio am byth, yw ei unig obaith o gael ei achub. Mae ei dyhead i ffoi yn ymblethu ffawd y ddau mewn ffyrdd na allai'r un ohonynt eu rhagweld.
Mae'r cynhyrchiad gafaelgar hwn o The Flying Dutchman yn ymchwilio i boen dwfn unigrwydd a'r gobaith bregus o gysylltiad dynol. Y môr, a ysbrydolwyd gan brydferthwch hynod arfordir Cymru, yw canfas yr opera, sydd hefyd yn orfodaeth ac yn garchar i'w chymeriadau. Daw offeryniaethau Wagner, o'r agorawd fyddarol i'r ariâu atgofus, yn ganolbwynt y stori, gan ddeffro pŵer y môr a'ch gadael i ymgolli yn ei swyn.

Archebwch rhaglen




Prif Gyllid gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Cefnogir gan Dunard Fund

Pricing
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Almaeneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Synopsis
Act I
Mae Daland, masnachwr morwrol, wedi ei chwythu oddi ar y trywydd cywir gan storm enbyd. O’r diwedd, mae’r perygl wedi mynd heibio, ac mae’r criw yn mynd i’w gwlâu. Mae llong arall yn ymddangos o’r dirgel ac yn docio ochr yn ochr â hi. Mae’r llong yn eiddo i’r Flying Dutchman, morwr anfarwol sydd wedi’i dynghedu I grwydro’n aflonydd dros y moroedd, gan ddod i’r lan bob saith mlynedd i ddod o hyd I wraig sy’n gallu ei ryddhau o’i felltith. Mae’r Flying Dutchman yn brwydro’n chwerw yn erbyn y môr, ei feistr tragwyddol, a’r angen sy’n cynnig gobaith na all, yn ei farn ef, fyth ei wireddu. Wrth i’r dydd wawrio, mae Daland yn darganfod llong ryfedd gerllaw. Mae’n holi’r Dutchman, sy’n datgelu i fod yn eithriadol o gefnog ac yn cynnig talu ffortiwn yn gyfnewid am letygarwch Daland ar y tir. Pan mae Daland yn datgelu bod ganddo ferch, mae’r Dutchman yn gofyn am iddo ei chael yn wraig. Wedi cryn bwyso a mesur, mae Daland yn falch o gael cydsynio gyda mab-yng-nghyfraith mor gefnog ac mae’n gwahodd y Dutchman i’w ddilyn i’w gartref.
Act II
Yn ôl yn y pentref, mae’r menywod yn gweithio o dan oruchwyliaeth Mary, ond mae Senta, merch Daland, yn gwrthod ymuno. Mae wedi ymgolli llawer gormod yn ei hobsesiwn gyda stori’r Dutchman sy’n ei hysbrydoli gydag angerdd dwfn. Mae Senta’n canu baled y Flying Dutchman i’r menywod eraill. Mae’r faled yn cyfleu sut y bu i’r Dutchman, pan oedd yn brwydro yn erbyn storm i hwylio o amgylch penrhyn dyngu na fyddai fyth yn ildio hyd dragwyddoldeb. Cymerodd y diafol ef ar ei air, a dyma oedd ei felltith, a melltith ei long a’i chriw. Fodd bynnag, fe wnaeth angen ganiatáu iddo gael un cynnig bach ar adferei hun: bob saith mlynedd gall fwrw angor a chwilio am wraig. Os yw’n gallu dod o hyd ifenyw fydd yn ffyddlon iddo hyd farwolaeth, bydd yn gallu cael ei ryddhau o’i felltith. Ar ddiwedd y faled, mae Senta’n dweud mai hi ddylai’r un fod i achub y Dutchman o’i ffawd - er mawr syndod ac arswyd i’r menywod oedd wedi ymgynnull. Does gan gariad cyntaf Senta, Erik ddim syniad sut i dorri i mewn i fyd preifat, llawn obsesiwn Senta, ac mae’n ofni y bydd ei thad yn ei anwybyddu ac yn mynd am fabyng- nghyffraith mwy mawreddog. Mae Daland yn dychwelyd adref gyda’r dieithryn llawn dirgelwch. Mae Senta’n cymryd ato’n syth, a buan y mae Daland yn gadael llonydd i’r ddau. Mae Senta a’r Dutchman yn rhyfeddu fel y mae’r naill yn cyd-fynd â dyheadau dyfnaf y llall. Mae’r Dutchman yn ceisio rhybuddio Senta o ganlyniadau cyswllt mor rhyfedd, ac o bwysigrwydd ei diweirdeb llwyr, ond mae Senta yn datgan ei bod yn barod ar gyfer pob aberth sy’n angenrheidiol i’w achub. Mae Daland yn eu gwahodd i ymuno gyda’r dathliadau cyrraedd gartref gyda dathliad o’u priodas.
Act III
Mae criw Daland yn dathlu. Mae’r menywod am rannu’r dathliadau gyda chriw’r Dutchman. Pan nad ydynt yn gallu cael unrhyw ymateb gan griw od o dawel y Dutchman, mae’r menywod yn penderfynu y byddai’n well gadael llonydd iddynt. Mae criw Daland yn dod yn gynyddol herfeiddiol, hyd nes bod y lleisiau annaearol criw’r Dutchman yn eu trechu. Mae Erik wedi’i syfrdanu wrth glywed am benderfyniad Senta ac yn ymbil arni i gofio am ei haddewidion iddo ef. Mae’r Dutchman,sy’n gwylio hyn i gyd, yn cymryd yn ganiataol y bydd yn cael ei fradychu unwaith eto, ac mae’n penderfynu gadael cyn i Senta ddod rhy agos at bethau. Fodd bynnag, mae hi’n barod i’w ddilyn hyd farwolaeth, ac mae ei hymrwymiad o’r diwedd yn ddigonol iryddhau ei felltith.