Helpwch i gadw Cerddorfa WNO ar y Ffordd
Y mis Rhagfyr hwn, gall eich rhodd fynd ddwywaith mor bell - a helpu i warchod y gerddoriaeth sy’n ein hysbrydoli ni i gyd.
O 2-9 Rhagfyr, mae Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn Big Give Christmas Challenge - ymgyrch arian cyfatebol cenedlaethol lle mae pob rhodd a wneir ar-lein yn cael ei ddyblu.
Mae ein trelar teithiol wedi teithio dros 160,000 o filltiroedd dros y ddau ddegawd diwethaf ac mae nawr ar ddiwedd ei oes. Bydd eich cefnogaeth yn helpu i ni ei gyfnewid am drelar newydd sbec uchel sy’n fwy effeithlon yn amgylcheddol, gan sicrhau y gall Cerddorfa WNO barhau i ddod â cherddoriaeth i gynulleidfaoedd am flynyddoedd i ddod.
Y tu ôl i bob perfformiad mae taith pobl, offerynnau, gofal a chydlyniant. Mae mynd ar daith yn ein galluogi i ddod â cherddoriaeth o’r radd flaenaf i gymunedau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, ond mae’n broses gymhleth a chostus: mae offerynnau’n fregus, mae teithio’n flinedig, ac mae trafnidiaeth ddiogel yn hanfodol.
Pam fod eich rhodd yn bwysig
Mae Cerddorfa WNO wrth galon popeth a wnawn. Pan fyddwn yn mynd ar daith, rydym yn dod ag opera o’r radd flaenaf i lefydd newydd ac rydym yn dod â thalent, ymroddiad ac angerdd ein cerddorion gyda ni.
Mae eich rhodd yn ein helpu i:
- Gwarchod yr offerynnau sy’n cludo ein sain
- Cefnogi’r cerddorion sy’n dod â’n perfformiadau’n fyw
- Cyrraedd cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt na fyddai fel arall fyth wedi profi opera fyw o’r radd flaenaf
Byddai rhodd o £20 yn werth £45 i WNO, £100 gwerth £225, a £1,000 gwerth £2,250 diolch i arian cyfatebol a Rhodd Cymorth.
Sut i roi
- Cyfrannu rhodd ar-lein rhwng 2-9 Rhagfyr
- Defnyddiwch ein tudalen ddiogel Big Give: Cyfrannwch Nawr
- Bydd eich rhodd yn denu arian cyfatebol, gan ddyblu eich effaith
Lledaenwch y neges
Bob tro y byddwch chi’n rhannu, rydych chi’n helpu. Dywedwch wrth eich ffrindiau, teulu a phawb arall sy’n mwynhau cerddoriaeth a helpwch ni i gadw Cerddorfa WNO ar y ffordd.
Gyda Diolch i’n Cefnogwyr Big Give
Mae WNO yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth arian cyfatebol hael a ddarparwyd gan Arts for All, Martin Ryan, Dianne Morgan, a Roger Thomas, a’n Prif Ariannwr, Sefydliad Reed, gan alluogi pob rhodd i wneud dwywaith yr effaith.



