Mewn rali Geidwadol yn Bedford yn 1957, datganodd y Prif Weinidog newydd, Harold Macmillan, nad oedd Prydeinwyr ‘erioed wedi’i chael gystal’, ac yn ein cynhyrchiad newydd, Blaze of Glory!, cafodd nifer o'n cymeriadau wir flwyddyn wych. Wedi’n hysbrydoli gan y digwyddiadau hanesyddol yn ein hopera newydd, bu i ni edrych yn ôl ar y byd yn 1957, i weld pa ddigwyddiadau eraill a ddigwyddodd.
Yn fyd-eang, yn 1957 gwelwyd cyflymiad y ras ofod rhwng yr Unol Daleithiau America a'r Undeb Sofietaidd. Gan gymryd y camau cyflymaf tuag at ddianc rhag atmosffer y Ddaear, llwyddodd yr Undeb Sofietaidd i anfon Sputnik I i'r gofod gan ddod y lloeren gyntaf o waith dyn yn orbit. Yn fuan wedyn, anfonwyd y ci Laika yn llwyddiannus i'r gofod ar fwrdd y Sputnik II gan ddod yr anifail cyntaf i gylchdroi’r blaned.
Yn nes at dir cadarn, cafodd sioe gerdd Leonard Bernstein a Stephen Sondheim, West Side Story, ei pherfformiad cyntaf ar Broadway ym mis Medi 1957. Wrth ail-ddychmygu stori fythol Shakespeare am gariad, Romeo and Juliet, gosodwyd y cariadon ifanc ar ochr arall y criw a rhaniadau ethnig yn Ochr Ddwyreiniol Dinas Efrog Newydd yn yr 1950au. Ers hynny, fe aeth West Side Story ymlaen i fwynhau poblogrwydd eithriadol, ar y llwyfan ac ar gyfer addasiad ffilm 1961.
Dim ond y flwyddyn cyn hynny, yn 1956, roedd opereta gomig Bernstein, Candide, wedi ei pherfformio’r tro cyntaf ar Broadway. Bydd cynhyrchiad WNO o Candide yn cael ei berfformio yn Haf 2023 mewn lleoliadau ledled Cymru a Lloegr.
Bu i ddod o America i Gymru brofi yn anodd i rai yn 1957, wrth i basbort Paul Robeson gael ei atafaelu yn ystod cyfnod McCarthyaeth yn yr Unol Daleithiau. Llwyddodd Robeson, a oedd wedi chwarae rhan yr arwr yn set ffilm 1940 yng Nghymru, The Proud Valley , ac wedi perfformio yng Nghymru nifer o weithiau, i gysylltu ag Eisteddfod y Glowyr ym Mhafiliwn y Grand Porthcawl a chyflwyno perfformiad ar draws y cebl ffôn trawsatlantig. Mae’r anerchiad yn cael sylw yng nghynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru, Blaze of Glory! Roedd Cymru hefyd yn rhan o’i helbul gwleidyddol ei hun ar y pryd, wrth i lywodraeth San Steffan bleidleisio y dylai Mesur Tryweryn ddod yn gyfraith. Rhoddodd y mesur hwn ganiatâd i Lerpwl adeiladu cronfa ddŵr yng nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn yn y broses. Yn ystod y bleidlais yn y Senedd, pleidleisiodd 35 o’r 36 cynrychiolydd Cymraeg yn erbyn y mesur, ac ymatalodd un. Oherwydd yr adlach i'r penderfyniadau hyn, cafodd Cymru ei weinidog gwladol ei hun yn llywodraeth San Steffan am y tro cyntaf.
Wedi'i osod ym 1957, mae cynhyrchiad newydd WNO, Blaze of Glory!yn archwilio bywyd mewn tref yn Ne Cymru, fel yn dilyn trychineb a chau ar fin digwydd, daw y glowyr gyda'i gilydd i ffurfio clwb Glee i adfer y gymuned i'r hyn yr oedd cynt. Mae Blaze of Glory! yn mynd ar daith i Milton Keynes, Bryste, Birmingham a Southampton y Gwanwyn hwn.