Gyda llai na mis i fynd hyd nes y bydd ein Tymor yr Hydref 2025 yn agor, mae pethau’n dechrau cynhesu yma yn Opera Cenedlaethol Cymru. P’un a ydych wedi bod yn dod am flynyddoedd, neu’n meddwl am weld eich opera gyntaf, mae gennym ddau gynhyrchiad gwahanol iawn a fydd yn eich diddanu, eich syfrdanu ac efallai yn gwneud i chi syrthio mewn cariad gydag opera.
O optimistiaeth fyd-eang Candide Bernstein i ddrama dorcalonnus Tosca Puccini, mae ein Tymor yr Hydref yn dangos sawl ochr i opera. Gall fod yn hyderus, ffraeth, rhamantus, dwys a phob amser yn fythgofiadwy.
Tosca
Yn ffefryn llwyr ym myd yr opera, mae Tosca wedi cael tipyn o daith. Wedi’i llunio’n wreiddiol fel drama pum act gan y dramodydd Ffrengig Victorien Sardou, fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf ym Mharis ym 1887. Ym 1900 y trawsnewidiodd Puccini, un o gyfansoddwyr mwyaf yr Eidal, ddrama Sardou i’r opera ddwys dair act yr ydym yn ei hadnabod heddiw.
Y plot
Wedi’i lleoli yn Rhufain ym 1800, mae Tosca yn canolbwyntio ar dri chymeriad: Floria Tosca, cantores enwog; Mario Cavaradossi, arlunydd angerddol; a Barwn Scarpia, pennaeth heddlu didostur Rhufain. Pan mae Angelotti, carcharor gwleidyddol sydd wedi dianc, yn cuddio mewn eglwys, mae Cavaradossi yn ei helpu, gan dynnu sylw dieisiau Scarpia, sy’n amheus o Mario ac wedi gwirioni hefo Tosca. Defnyddia Scarpia’r sefyllfa i ddal ei wrthwynebwyr, sy’n arwain at gêm angheuol o gariad, ffyddlondeb, a brad.
(Cewch ddarllen y crynodeb yn llawn yma.)
Clasuron Puccini
Mae Tosca yn llawn cerddoriaeth gynhyrfus o’r cychwyn, sy’n hawdd cysylltu â hi. Mae aria Tosca Vissi d’arte (Roeddwn yn byw am gelf) yn un o eiliadau enwocaf opera, tra bod E lucevan le stelle Cavaradossi (Ac roedd y sêr yn disgleirio) yn dor calon wedi’i gosod i gerddoriaeth. O’r Act I fawreddog Te Deum i’r deuawdau a’r gwrthdaro cyffrous, mae sgôr Puccini yn eich tynnu i mewn i’r ddrama ac nid yw’n gadael i chi fynd.
Gwrandewch i'n Tosca (Natalaya Romaniw) yn canu Vissi d'arte.
Candide
Os yw Tosca yn opera ar ei mwyaf dramatig, Candide yw ei chefnder disglair chwareus. Yn seiliedig ar nofel ddychanol Voltaire, mae’n gwneud hwyl ar ben athroniaeth, gwleidyddiaeth, ac optimistiaeth ddynol gyda hiwmor brathog. Daeth Leonard Bernstein â Candide i’r llwyfan ym 1956, gan greu opereta syfrdanol sy’n cymysgu gwychder clasurol gydag egni Broadway.
Y plot
Plentyn siawns y Barwn Thunder-ten-Tronck yw Candide, sy’n byw yng nghastell y Barwn yn Westphalia. Mae dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda Cunégonde, sy’n teimlo yr un fath, a chaiff y ddau eu hyfforddi gan Dr Pangloss, athronydd sy’n mynnu eu bod yn byw yn ‘y gorau o bob byd posibl.’ Ond pan ymosodir ar y castell, teflir Candide ar daith wib ledled cyfandiroedd, gan gwrdd â chymeriadau lliwgar, profi trychinebau parhaus, a chwestiynu a all optimistiaeth oroesi realiti.
(Darllenwch y crynodeb yn llawn yma)
Broadway yn cwrdd ag opereta
Mae sgôr Bernstein yn ffraeth, cynnes, a llawn amrywiaeth. Mae’r diweddglo sy’n codi calon, Make Our Garden Grow a doniolwch You Were Dead, You Know yn ddau o’r nifer o uchafbwyntiau cerddorol.
(Edrychwch ar ein pum hoff ddarn o Candide yma.)

Y profiad
Os nad ydych erioed wedi gwylio opera, y Tymor hwn yw’r amser perffaith i ddechrau. Mae Tosca yn adrodd stori yn afaelgar, gyda cherddoriaeth ysgubol, ramantaidd, tra bod Candide yn dod â chyffyrddiad ysgafnach, mwy doniol gyda digon o’r sglein Broadway. Bydd Tosca yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 14 Medi, tra bydd Candide yn agor ar 17 Medi. Gyda thocynnau’n cychwyn o £22, mae’r ddau berfformiad yn gyflwyniad hygyrch a pherffaith i’r opera.