Newyddion

Dal fyny gyda’n Hartistiaid Cyswllt 25/26: Owain Rowlands

3 Gorffennaf 2026

Mae rhaglen Artistiaid Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnig i raddedigion diweddar sydd wedi arbenigo mewn unrhyw faes perfformio neu astudiaethau lleisiol, i ddatblygu eu sgiliau perfformio a’u gyrfa mewn amgylchedd proffesiynol, dan arweiniad Hyfforddwr Datblygu Artistiaid Cyswllt WNO, y soprano fyd-enwog o Gymru, Rebecca Evans.

Ochr yn ochr â’n Hopera Ieuenctid, mae’n un o ddwy raglen o waith sy’n darparu cyfleoedd dysgu a pherfformio o ansawdd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid. Bob blwyddyn, mae ein hartistiaid cyswllt yn perfformio datganiad cartrefol i ddod â’u rhaglen i ben, lle maent yn perfformio detholiad o’u hoff repertoire.

Mae Owain Rowlands wedi bod yn un o’n Hartistiaid Cyswllt, ynghyd â Ross Fettes, ar gyfer 25/26. Wrth i’w gyfnod gyda ni ddod i ben, cawsom sgwrs ag ef am yr hyn mae ef wedi ei ddysgu o’r profiad, a’i obeithion ar gyfer y dyfodol.

Dywed wrthym sut y daethost yn ganwr opera, beth wnaeth dy ddenu at y gelfyddyd?

Dechreuais drwy ganu mewn Eisteddfodau, a chystadlu mewn cystadlaethau lleol, sirol a chenedlaethol am dros 20 mlynedd. Astudiais fathemateg a cherddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yna symudais i Lundain i astudio gradd meistr mewn perfformio yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yno, dechreuais garu opera a dydw i heb edrych yn ôl ers hynny.

Pam wnest ti ymgeisio ar gyfer rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO?

“Fel Cymro, bu gweithio yn Opera Cenedlaethol Cymru yn freuddwyd erioed. Roeddwn yn teimlo - ar ôl hyfforddi yn Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - mai hwn oedd y cam nesaf naturiol ar fy nhaith operatig.

Beth oedd y foment ddiffiniol o raglen Artistiaid Cyswllt WNO i ti?

Rwyf wedi mwynhau bob munud ohoni. Rwy’n gwybod ei fod yn swnio’n ystrydebol, ond rydym wedi cael cymaint o amrywiaeth o brofiadau. Rwyf wedi dysgu cymaint.

Cyflenwi yn Candide, rhan fach yn Tosca, corws a chyflenwi yn Blaze of Glory a’r corws ynThe Flying Dutchman, unawdydd ar y daith blwyddyn newydd Fiennaidd, opera plant, dosbarthiadau meistr, datganiadau... rydym wedi gwneud y cyfan!

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf am Ddatganiad Artistiaid Cyswllt WNO?

Cael y cyfle i ailymweld â repertoire o ganeuon a rhannu hyn gyda’r gynulleidfa mewn perfformiad llawer mwy agos atoch. Trwy gydol y Datganiad, rwy’n cael y cyfle i ddangos ochr ysgafnach i fy repertoire.

Beth all cynulleidfaoedd ei ddisgwyl o’r perfformiad?

Mae’n llawer mwy agos atoch na pherfformiad ar y llwyfan. Byddwn yn ailymweld ag ychydig o’n hoff repertoire, gan gynnwys rhai caneuon Ffrangeg a Chymraeg hefyd.

Sut mae bod yn rhan o’r rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO wedi dy helpu neu dy newid di fel perfformiwr?

Rwyf wedi dysgu llawer o’r rhaglen hon. Mae colegau’n wych, ond rydych chi’n dysgu cymaint mwy o fod ym myd opera a bod yn rhan o gynhyrchiad.

Rwyf wedi dysgu’n uniongyrchol gan gantorion, unawdwyr, arweinwyr a chyfarwyddwyr anhygoel, ac yn uniongyrchol gan aelodau’r côr fel rhan o Gorws WNO.

Beth wyt ti’n gobeithio amdano nesaf yn dy yrfa?

Buaswn wrth fy modd yn cymryd rhan mewn o wyliau haf yn y DU, dychwelyd i WNO yn y dyfodol, perfformio dramor a gweld lle bydd y daith yn fy arwain