Newyddion

Nadolig Clasurol

21 Rhagfyr 2023

Mae Nadolig a cherddoriaeth yn cyd-fynd â’i gilydd, ond os ydych chi wedi clywed mwy na digon o Mariah Carey, Wham a Shakin’ Stevens, gadewch i ni dorri ar y rhestrau chwarae nadoligaidd arferol gyda chaneuon Nadolig Clasurol. 

Torrodd hysbyseb Nadolig John Lewis eleni, a oedd yn destun brwdfrydedd mawr, yn rhydd o'i thraddodiad o ddefnyddio caneuon pop, ac yn lle hynny mae’n cynnwys cân wreiddiol gan y tenor clasurol Eidaleg Andrea Bocelli, o’r enw Festa sy’n golygu ‘Parti’ neu ‘Dathliad’. Nid yw cerddoriaeth Nadolig yn newydd i Andrea Bocelli, a ryddhaodd ei albwm Nadolig cyntaf, My Christmas, yn 2009. Roedd yr albwm yn cynnwys deuawdau gyda Mary J Blige a  Katherine Jenkins, yn ogystal â pherfformiad o Jingle Bells gyda’r ffefrynnau ffilmiau Nadolig, The Muppets. 

Ni fyddai Nadolig yn Nadolig heb glywed o leiaf un darn o The Nutcracker gan Tchaikovsky. Yn seiliedig ar stori ffantasi E T A Hoffmann, The Nutcracker and the Mouse King, mae bale nadoligaidd Tchaikovsky yn adrodd hanes merch sy’n dod yn ffrind i ‘Nutcracker’ sy’n dod yn fyw ar Noswyl Nadolig ac yn rhyfela yn erbyn y ‘Mouse King’ drygionus. Ar ôl y fuddugoliaeth, mae’r Nutcracker yn troi yn Dywysog ac yn mynd â’r ferch i wlad hudolus o felysion ac eira. The Nutcracker yw un o gyfansoddiadau enwocaf y cyfansoddwr ac mae’n cynnwys rhai o’i felodïau mwyaf cofiadwy, y mwyaf nodedig ohonynt yw Trepak (The Russian Dance), sydd wedi’i chynnwys mewn sawl ffilm Nadolig gan gynnwys The Santa Clause 3, Jingle All the Way a Home Alone 2. 

Rhyddhaodd y bas-bariton o Gymru, a hen ffrind i WNO, Syr Bryn Terfel, albwm Nadolig o'r enw Carols and Christmas Songs yn 2010. Mae’n cynnwys clasuron Nadolig, fel White Christmas, Have Yourself a Merry Little Christmas, y carolau O Holy Night ac Away in a Manger, a fersiwn o garol Gymraeg Caryl Parry Jones, Gŵyl Y Baban. Mae hefyd yn cynnwys y garol Nadolig hyfryd o Awstria, Still, Still, Still, a berfformiodd Corws WNO a Cherddorfa WNO yn 2020. 

Ni allwn gael Nadolig clasurol heb sôn am Christmas Oratorio Johann Sebastian Bach. Gyda chwe rhan, bwriedir ei pherfformio mewn gwasanaeth eglwys ar ddiwrnod gwledd yn ystod y cyfnod Nadolig. Mae’r rhan gyntaf, ar gyfer Dydd Nadolig, yn adrodd hanes geni’r Iesu; mae’r ail yn disgrifio cyfarchiad y bugeiliaid; mae'r trydydd yn adrodd hanes y bugeiliaid yn dotio; mae’r pedwerydd, ar gyfer Dydd Calan, yn adrodd hanes enwi Iesu; mae'r pumed ran yn cofio taith y Tri Gŵr Doeth, ac mae’r chweched ran sef y rhan olaf yn archwilio hanes addoli’r Doethion. 

Y Gwanwyn hwn byddwn yn perfformio opera olaf Britten, Death in Venice, ond oeddech chi’n gwybod y gwnaeth y cyfansoddwr Prydeinig hefyd ysgrifennu A Ceremony of Carols, cyfansoddiad corawl estynedig ar gyfer y Nadolig? Ar sail carolau a ysgrifennwyd yn y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif, cyfansoddodd Britten y seremoni hon yn 1942 ar ei daith yn ôl i Loegr ar ôl treulio tair blynedd yng ngogledd America. Mae strwythur y testun mewn wyth symudiad, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u hysgrifennu ar ffurf rowndiau neu ddarnau galw ac ymateb, gan gychwyn gyda  Procession, Hodie Christus natus est, ac yn cynnwys Wolcum Yole!, This Little Babe ac In Freezing Winter Night.