Newyddion

Diwrnod ym mywyd…yr Adran Gwisgoedd Teithiol

7 Ebrill 2022

Yn dilyn y cipolwg a gawsom ar Adran Wisgoedd Opera Cenedlaethol Cymru, yn awr rydym am gael golwg ar waith yr Adran Gwisgoedd Teithiol.

Pan fydd Tymor newydd ar fin dechrau, bydd Judith Russell – Rheolwr Gwisgoedd Teithiol WNO – a’i thîm o dri yn symud y raciau dillad o’r adran lle cânt eu gwneud i gefn llwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd – proses sy’n cymryd bore cyfan i’w chwblhau ar gyfer pob opera. Gall hyn gynnwys 20 o raciau dillad ac 80 neu fwy o hetiau, ynghyd ag amrywiaeth gemwaith ac eitemau ategol. Hefyd, bydd offer yn cael eu cludo o’n storfeydd (ac yna’n mynd ar daith gyda’r Cwmni) – yn cynnwys peiriannau golchi dillad, peiriannau sychu dillad, heyrn smwddio, peiriannau stemio a pheiriannau gwnïo, bocs poeth (math o gwpwrdd eirio ar olwynion) a phecynnau trwsio – popeth dan haul i gadw gwisgoedd yr opera mor safonol â phosibl.

Mewn rhai theatrau, mae’n amhosibl mynd â’r cistiau dillad arbennig (y caiff y gwisgoedd eu cludo ynddyn nhw) i mewn i’r adeilad, felly rhaid tynnu’r holl eitemau allan o’r cistiau fesul un a’u cario i mewn. Gall hyn olygu cerdded i fyny pedair rhes o risiau! Y peth hanfodol yn hyn o beth yw rhoi trefn ar y logisteg – rhywbeth y mae Judith yn fedrus iawn ynddo ar ôl 12 mlynedd yn y swydd.

Bydd y gwisgoedd yn cael eu cludo i’r ystafell wisgo berthnasol a bydd yr holl eitemau’n cael eu gosod yn y drefn y byddant yn cael eu gwisgo. Os bydd mwy nag un aelod o’r cast yn rhannu ystafell, caiff cynllun ei lunio er mwyn dangos pa rannau o’r ystafell a gaiff eu neilltuo ar gyfer gwahanol aelodau’r cast. Gan y gall hyd at ddeg o bobl rannu ystafell, a gan fod cynllun ystafelloedd gwisgo pob lleoliad yn wahanol, mae hi’n eithriadol o bwysig i’r holl eitemau unigol gael eu labelu. O bob ochr i’r llwyfan, caiff mannau arbennig eu dynodi’n ystafelloedd ‘newid cyflym’.

Mae Judith a’i thîm yn defnyddio cynllun gwisgoedd i drefnu beth yn union fydd yn mynd i ble, a phryd, ac ar gyfer pwy – yn llythrennol, maen nhw’n cynllunio teithiau’r holl wisgoedd – er mwyn i bopeth fod yn barod ar gyfer pob artist. Bydd angen i’r eitemau a gludir ymaith gael eu symud a’u storio neu eu rhoi’n ôl mewn lle arbennig ar gyfer eu defnyddio’n ddiweddarach. Caiff y cynlluniau hyn eu diweddaru’n gyson, a hefyd cânt eu defnyddio gan y gwisgwyr. Ym mhob lleoliad rydym yn defnyddio hyd at 18 o wisgwyr lleol ar gyfer pob opera, a’u gwaith yw cynorthwyo’r artistiaid i newid i’w gwisgoedd. Bydd Judith yn rhoi gwybod i’r gwisgwyr â phwy y byddan nhw’n gweithio, a bydd ein Cynorthwywyr Gwisgoedd yn mynd trwy’r cynlluniau gwisgoedd perthnasol gyda nhw er mwyn sicrhau y bydd y gwisgoedd iawn yn cael eu gwisgo ar yr adegau iawn.

Mae cylch gwaith yr adran Gwisgoedd Teithiol yn golygu gofalu am y gwisgoedd hefyd – y gwaith trwsio a’r gwaith golchi. Rhaid i bob dilledyn gael ei olchi ar ôl pob perfformiad er mwyn sicrhau y bydd yn barod ar gyfer y sioe nesaf – ac os bydd gwaed ar y gwisgoedd (meddyliwch am Sweeney Todd neu Madam Butterfly), yna bydd yn hanfodol i’r dillad gael eu golchi’n syth er mwyn cael gwared â’r gwaed ffug cyn iddo adael staen!

Ar ôl i’r perfformiadau ddod i ben, mae hi’n hanfodol i’r holl eitemau gael eu casglu ynghyd a’u parcio yn barod i’w cludo i’r lleoliad nesaf – ac mae labelu popeth yn talu ar ei ganfed yn ystod y broses hon. Serch hynny, bydd Judith a’i thîm wastad yn archwilio cefn y llwyfan cyn gadael, rhag ofn anghofio eitem fel clustlysau neu hyd yn oed, gael ei adael ar ôl.