Newyddion

Diwrnod ym Mywyd...Dramaturg WNO

25 Chwefror 2020

Fel rhan o'n cyfres rheolaidd, rydym yn cyflwyno Dramaturg Opera Cenedlaethol Cymru, Elin Jones, ac yn dysgu mwy am ei rôl yn y Cwmni.


Elin, i ddechrau arni a allwch chi egluro rôl Dramodydd yn WNO?
Gall swydd Dramodydd amrywio'n fawr o gwmni i gwmni, ond rwy'n ystyried fy swydd yn un sy'n cyfoethogi opera i'r gynulleidfa, boed hynny'n waith golygu uwchdeitlau i wella amseriad comig/dramatig, rhoi cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol mewn sgyrsiau cyn y perfformiad neu geisio dod o hyd i ffeithiau llai hysbys i'w cynnwys yn nodiadau'r rhaglen. Rwyf hefyd yn casglu bywgraffiadau a lluniau o'n hartistiaid gwadd ac rwy'n golygu ein rhaglenni Cymraeg. Diffiniodd y diweddar Nicholas John, Dramodydd yn English National Opera am amser maith, swydd Dramodydd fel 'cydwybod y tŷ opera'. 

Beth yw eich prif dasgau wrth i ni agosáu at ddechrau ein Tymor yng Nghaerdydd?
Rwy'n darllen - lot! Mae'n hynod bwysig i mi ddod i nabod yr operâu sydd ar y gweill yn drylwyr. Mae fy ymchwil yn helpu i siapio fy sgyrsiau cyn perfformiadau a chyda dewis cyfranogwyr i'n rhaglenni. Y Tymor hwn, comisiynais erthygl gan ein Hartist Cyswllt Harriet Eyley ar rannau "trowsus" ar gyfer The Marriage of Figaro. Er bod Verdi yn un o fy ffefrynnau, roedd Les vêpres siciliennes yn gwbl newydd i mi, yn ogystal â'r stori wir sydd wrth wraidd iddi. Byddaf hefyd yn astudio'r sgôr ac yn gwrando ar yr opera wrth i mi baratoi'r uwchdeitlau. Does fawr o neb yn sylweddoli bod yr uwchdeitlau yn cael eu gweithredu gan ddefnyddio Macbook a bod sgôr wedi'i labelu â rhifau ar gyfer bob llinell o'r testun. Rwy'n gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Staff ar bob cynhyrchiad i sicrhau ei fod o neu hi yn fodlon gyda nhw hefyd.

A oes y fath beth â 'diwrnod arferol?
Mae diwrnod arferol i mi yn dibynnu ar le'r ydym ni yn y Tymor. Fel arfer, nid wyf yn ymwneud â'r broses ymarfer tan i ni gyrraedd yr ymarferion llwyfan gyda'r Gerddorfa. Dyma'r ymarferion olaf cyn yr ymarferion gwisgoedd pan mae'r cast ar y llwyfan yn eu gwisgoedd. Dyma'r tro cyntaf i'r Gerddorfa gael ei chyflwyno yn ogystal â'r tro cyntaf i mi roi'r uwchdeitlau dan brawf.

Yr wythnos hon mae ein perfformiad olaf o The Marriage of Figaro yng Nghaerdydd, felly byddaf yn cynnal dwy sgwrs cyn y perfformiad. Yna rydym yn mynd am Landudno wythnos nesaf, felly rwyf wedi bod yn brysur yn cyfieithu fy sgyrsiau cyn y perfformiad, gan eu bod yn cael eu cynnal yn Gymraeg a Saesneg yno. Rwy'n edrych ymlaen at gael cyfle i gynnal sgyrsiau cyn perfformiadau yn Gymraeg yng Nghaerdydd Tymor nesaf.

Beth yw eich rôl pan fydd y Cwmni ar daith?
Fel rheol, rwyf wedi fy lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ond rwy'n treulio cryn dipyn o amser ar daith ledled y Deyrnas Unedig gyda'r Cwmni. Rwy'n cynnal sgyrsiau cyn perfformiadau ar gyfer bron bob perfformiad opera raddfa fawr. Teimlaf yn lwcus iawn o gael ymweld â theatrau arbennig ledled y wlad. Un o Ynys Môn ydw i yn wreiddiol, felly rwy'n mwynhau mynd i Landudno yn arbennig a chael dangos i fy nheulu fy ngwaith yn ystod y Tymor hwnnw. 

Beth yw'r peth gorau am eich swydd?
Y bobl - mae'r amrywiaeth yn fy swydd yn fy nghaniatáu i weithio gyda phobl ar draws y Cwmni. Mae'n wych dysgu am eu gwaith, a sut daeth opera mor agos at eu calon. Mae ein cynulleidfa yn arbennig iawn hefyd. Rwyf wedi dod i adnabod sawl cefnogwr brwd yng Nghaerdydd ac mewn sawl lleoliad ar daith; maent bob amser yn gwneud i mi deimlo'n gartrefol.