Newyddion

Blas o'r favelas

20 Ionawr 2020

Pan oedd y Cyfarwyddwr, Jo Davies, a'r Cyfarwyddwr Symudiadau, Denni Sayers, eisiau dod â blas o ddawns De America i gynhyrchiad WNO o Carmen, nid oeddent yn disgwyl darganfod arbenigwr mor agos at adref. Mae'r ddawnswraig, Josie Sinnadurai, sydd wedi perfformio ledled y byd, yn dod o Aberhonddu yn ne Cymru - dim ond 50 milltir o gartref WNO ym Mae Caerdydd.

Mae dawns yn rhan bwysig iawn o ddweud stori yn y cynhyrchiad hwn, ac ynghyd â'r pencampwr Dawns Neuadd a Lladin, Carmine de Amicis, mae Josie yn dod â'i phrofiad dawnsio Flamenco a chyfoes i'r Cwmni. Mae'r ddau yn ymddangos trwy gydol yr opera, yn perfformio dawnsfeydd syfrdanol a hefyd yn ymddangos mewn amryw o ffurfiau gwahanol wrth i'r opera ddatblygu. Aethom i siarad â Josie ynghylch ei phrofiad o berfformio yn y cynhyrchiad.

Wrth ichi dyfu i fyny yn Aberhonddu, pryd oedd y tro cyntaf ichi ddarganfod eich brwdfrydedd dros ddawns?
'Nid wyf yn cofio'r stori hon, roeddwn yn rhy ifanc, ond mae fy rhieni'n dweud eu bod nhw wedi mynd â fi i wylio sioe Flamenco yn Llundain pan oeddwn i tua thair blwydd oed. Roeddwn i'n gwingo yn fy sedd yn torri fy mol eisiau cael ar fy nhraed a dawnsio ymysg y seddi, felly meddylion nhw 'wel, mae hi'n amlwg yn hoff o hyn' a dechreuais fynd i wersi Flamenco. Dechreuais ballet yn fuan iawn wedi hynny.’

Felly, mae Flamenco wedi eich ysbrydoli chi ers oeddech chi'n ifanc iawn?
'Dyna oedd y rheswm pam fy mod wedi dechrau dawnsio, ac mae'n rhywbeth sydd wedi fy siwtio erioed. Gallaf fod yn eithaf pengaled ac yn ddi-flewyn ar dafod weithiau, ac rwy'n meddwl bod hynny'n gweddu'r Flamenco oherwydd rhan fawr o'r perfformiad yw eich dull o wneud rhywbeth, nid yr hyn rydych yn ei wneud, felly mae'n rhaid ichi fod wedi'ch rhwymo'n llwyr i'r ddawns. Mae hefyd yn wahanol i'r rhan fwyaf o arddulliau dawns eraill oherwydd bod y gerddoriaeth o hyd wedi ei fyrfyfyrio rhywfaint, ac weithiau, y tro cyntaf ichi gyfarfod y cerddorion yw ychydig funudau cyn ichi fynd ar y llwyfan gyda'ch gilydd! Mae Flamenco yn pontio dawns a cherddoriaeth oherwydd rydym yn taro ein traed a churo ein dwylo wrth inni symud fel dawnswyr ac yn cyfathrebu gyda'n cerddorion ynghylch yr hyn rydym am ei wneud nesaf gan ddefnyddio cyfres o signalau sy'n gyfarwydd i bob artist Flamenco. Mae pob perfformiad yn wahanol.'

Sut beth yw perfformio yn Carmen?
'Mae'n wahanol iawn i'r rhan helaeth o'r gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Dydw i ddim yn dawnsio'r Flamenco yn y sioe hon gan ei bod wedi’i lleoli yn America Ladin, ac felly ni fyddai'n gwneud llawer o synnwyr inni ddawnsio'r Flamenco. Ond mae'n hwyl rhoi cynnig ar arddulliau dawns Lladin ac mae wedi rhoi cyfle imi ailgysylltu â fy hyfforddiant dawns ballet a chyfoes hefyd, oherwydd dyna mae Carmine (fy mhartner dawnsio yn WNO) a minnau yn ei wneud i gynhesu bob dydd.'

Beth yw eich hoff ran o'r opera?
'Wel, wrth gwrs, y ddawns fawr gyda Carmine ar ddechrau Act Dau, yn enwedig ar y diwedd un rhan mae'r gerddoriaeth yn cyflymu ac mae'n rhaid i ninnau gyflymu er mwyn dal i fyny gyda'r gerddoriaeth, wrth i Carmine fy nhroelli i rownd y llwyfan hyd nes i mi fethu gweld yn iawn erbyn inni orffen. Rwyf hefyd yn mwynhau'r olygfa ymladd yn Act Un. Cyfrinach fewnol fechan i chi - mae'n rhaid i mi wneud yr holl sgrechian yn ystod yr ymladd oherwydd bod angen i Carmen ofalu am ei llais, felly rwy'n meddwl ei fod o'n ddoniol fy mod i'n gweiddi nerth fy mhen tra mae hi'n hollol dawel.'

Sut fyddech chi'n annog rhywun sydd erioed wedi bod i'r opera o'r blaen i ddod i weld Carmen?
'Rwyf o hyd yn dweud wrth unrhyw un sy'n newydd i fyd opera i feddwl am y ffaith nad yw'r cantorion yn gwisgo meicroffon ac mae yno gerddorfa lawn rhwng y perfformwyr a'r gynulleidfa, ac yna gwrandewch ar y lefel o sŵn y llwyddant i’w greu. Mae'n rhagorol. Rwy'n meddwl fod y dehongliad hwn o Carmen yn benodol wedi ei wneud mewn ffordd mor realistig a chredadwy; nid yw Carmen yn ddynes sipsiwn gyfriniol sy'n ymddangos fel petai'n swyno trwy ei phwerau hyd a lledrith, ond yn hytrach yn ddynes sydd eisiau gwneud penderfyniadau annibynnol am ei bywyd ei hun mewn byd sydd wedi ei ddominyddu gan ddynion.

Mae Carmen ar daith tan 7 Mai.