Er gwaethaf y noson agoriadol drafferthus, erbyn hyn mae La traviata ymhlith yr operâu a berfformir amlaf. Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd at stori’r rhamant drychinebus yr Hydref hwn yng nghynhyrchiad enwog David McVicar, gan fynd ar daith trwy Gymru a Lloegr.
Ar sail drama Alexandre Dumas, La Dame aux camélias, cyfansoddodd Verdi La traviata rhwng 1852 a 1853. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn theatr La Fenice, Fenis ar 6 Mawrth 1853. Cymysg oedd barn y gynulleidfa ynglŷn â’r perfformiad cyntaf, ac aeth Verdi ati i ddiwygio’r opera cyn yr ail berfformiad yn Teatro San Benedetto ym mis Mai 1854. Bu’r perfformiad hwnnw’n llwyddiant ysgubol, gan baratoi’r ffordd ar gyfer poblogrwydd parhaus La traviata hyd heddiw.
Mae’r stori’n dechrau ym mharti Violetta Valéry, y butain llys. Mae’r is-iarll Gastone yn dod â’i gyfaill, Alfredo, gydag ef i’r parti. Mae Alfredo wedi edmygu Violetta o bell ers amser maith, ac mae’n dweud wrthi sut mae’n teimlo. Ar ôl i’r parti gyrraedd y salon, mae Alfredo arwain yr enwog Brindisi, ‘Libiamo ne’ lieti calici’.
Wrth i’r dathliadau fynd yn eu blaen, mae Violetta yn dechrau teimlo’n benysgafn ac mae hi’n gofyn i’r gwesteion symud i’r ystafell nesaf. Mae Alfredo yn aros ar ôl gyda hi. Dywed Alfredo ei fod yn pryderu am iechyd bregus Violetta ac mae’n datgan ei gariad tuag ati. Ar y cychwyn, mae Violetta yn ei wrthod, ond mae ei deimladau yn ei chyffwrdd. A hithau’n ansicr ynglŷn â’i hemosiynau, mae Violetta yn penderfynu bod yn rhaid iddi fod yn rhydd bob amser ac mae Alfredo yn cerdded adref, gan ganu am gariad.
Ar ddechrau’r ail act, mae Alfredo a Violetta yn byw’n hapus gyda’i gilydd y tu allan i Baris. Mae Alfredo yn cychwyn am Baris, ond daw i wybod bod Violetta wedi bod yn gwerthu ei heiddo i ariannu eu ffordd o fyw, gan ei bod bellach wedi rhoi’r gorau i’w hen fywyd fel putain llys.
Y noson honno mae Giorgio, tad Alfredo, yn ymweld â Violetta, gan fynnu y dylai roi gorau i’w pherthynas gyda’i fab. Ar y cychwyn mae hi’n gwrthod ei gais, ac mae ei boneddigeiddrwydd yn synnu Giorgio. Ond yn y pen draw mae hi’n cytuno, felly mae hi’n gadael nodyn esboniadol i Alfredo. Ar ôl darllen y nodyn, mae Alfredo yn teimlo’n ddig ac yn penderfynu trafod y mater gyda Violetta, gan gredu ei bod wedi dychwelyd at y Barwn, ei chyn-garwr.
Yn y parti, mae Alfredo yn ennill llawer o arian oddi ar y Barwn wrth y bwrdd gamblo. Mae Violetta yn ofni y bydd y Barwn yn herio Alfredo i ymladd gornest, ac felly mae hi’n gofyn iddo adael. Ac yntau’n llawn dig ac wedi camddeall y sefyllfa, mae Alfredo yn mynnu bod Violetta yn cydnabod ei chariad tuag at ei wrthwynebydd. Mae Violetta yn gwneud hyn, a chyn gadael mae Alfredo yn taflu ei enillion ar y llawr wrth ei thraed, fel pe bai’n talu am ei gwasanaethau, gan ei thramgwyddo’n fawr.
Yn y diwedd, mae Giorgio yn dweud wrth ei fab ei fod wedi gofyn i Violetta ddod â’u perthynas i ben, gan ei annog i fynd ar ei hôl. Ond mae salwch Violetta wedi gwaethygu. Yn wir, mae hi ar ei gwely angau yn dioddef o dwbercwlosis. Mae Alfredo yn rhuthro ati ac mae’r ddau’n cyfaddef eu bod yn caru ei gilydd. Nid yw Alfredo yn siŵr a fydd Violetta yn gwella. Yn anffodus, mae hi’n marw yn ei freichiau ar ôl iddyn nhw ganu deuawd dyner gyda’i gilydd.
Dewch i weld opera dorcalonnus Verdi â’ch llygaid eich hun yr Hydref hwn gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Byddwn yn ymweld â Chaerdydd, Llandudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton rhwng 21 Medi a 22 Tachwedd.