Newyddion

Canllaw i Le vin herbé

2 Gorffennaf 2020

Mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Le Vin herbé yn ôl ar OperaVision i chi ei wylio. Os fethoch chi'r cyfle i wylio ein perfformiad yn 2017, y tebyg yw nad yw hon yn opera y byddech chi'n dod 'ar ei thraws' ar hap. Nid oes cerddoriaeth y byddwch yn ei hadnabod o ffurfiau eraill ar ddiwylliant poblogaidd - mae'n ddarn na chaiff ei berfformio'n aml, a gafodd ei ysgrifennu fel oratorio seciwlar (e.e. dim set, gwisgoedd na symudiadau) ac nid fel opera lawn. Er, yn amlwg, mae'r stori'n adnabyddus tu hwnt...

Mae Le Vin herbé gan Frank Martin yn adrodd stori Tristan ac Isolde, fel y gwna opera fwy cyfarwydd Wagner; ond yn wahanol i Wagner, bu i Martin ddychwelyd at y chwedl ganoloesol wrth ei ysgrifennu. Roedd chwedl Tristan yn boblogaidd iawn yn yr oesoedd canol, ac yn ddiweddarach cafodd ei hymgorffori yn y chwedl Arthuraidd yn y 13eg ganrif, gan honni bod y Brenin Marc a Tristan ei hun yn Farchogion y Bwrdd Crwn. Dywedir hefyd mai Tristan ac Iseult oedd yr ysbrydoliaeth y tu cefn i Lancelot a Guinevere.

Yn seiliedig ar dair rhan o Le Roman de Tristan et Iseut gan Joseph Bédier (oes, mae sawl fersiwn o'r holl enwau, yn cynnwys Isolde, ond mae Martin yn defnyddio Iseult): Le philtre, Le forêt du Morois, a La Mort, yn ogystal â chyflwyniad a diweddglo. Bu i Bédier ymchwilio i darddiad y fersiynau gwahanol o'r chwedl a ledaenodd ar draws y byd, gyda nifer o gysylltiadau amlwg â hanesion Celtaidd yn benodol, a dyma y bu iddo ganolbwyntio arnynt - edrychwch ar y tri phrif gymeriad yn unig: Brenin Marc, Cernyw; ei nai Tristan; ac Iseult, merch Brenin Iwerddon. Yna, gweler taith Tristan i Lydaw lle mae'n priodi Iseult arall, y Dwylo Gwynion. Holl diroedd Celtaidd.

Gweler mai'r brif thema yw trasiedi cariad gwaharddedig, a achosir gan ddiod hud, sy'n arwain at farwolaeth a galar hollgynhwysol. Hyd yn hyn, mae'n operatig tu hwnt. Fodd bynnag, wedi hepgor fersiynau eraill o'r chwedl, mae dehongliadau Bédier a Martin yn mynd yn ôl at naratif sy'n cael ei berfformio, cyferbyniad llwyr i ddull (a llwyfannu) epig a melodramatig Tristan und Isolde gan Wagner. Drwy lynu at hyn, ysgrifennwyd y darn ar gyfer corws o 12 (i gyfeiliant saith offeryn llinynnol a phiano) yn chwarae rôl sy'n dyddio'n ôl i'r corws Groegaidd - e.e. adroddwyr y stori, yn ôl traddodiad.

Yn ein cynhyrchiad, mae Corws WNO, sy'n cynnwys dros 30 o gantorion, ar y llwyfan, gyda nifer ohonynt yn chwarae rolau - gan gamu i mewn ac allan o'r corws fel adroddwr y stori, i wneud hynny. Cenir y prif rolau gan Tom Randle (Tristan), Caitlin Hulcup (Iseult Deg) a Catheryn Wyn-Rogers (mam Iseult); gan dorri ar osodiad gwreiddiol y gwaith. James Southall sy'n ymuno â saith aelod Cerddorfa WNO a'r pianydd, yng nghanol y llwyfan, ar set syml sy'n pwysleisio ar hanes adrodd stori drwy berfformio. Fel y dywedodd y dylunydd, April Dalton: 'Nid oedd yn rhaid i ni honni ein bod ni ar gwch yn rhuthro at Gernyw gyda Martin, roedd yn amlwg ein bod ni'n profi ail-berfformiad neu ail-adroddiad o'r digwyddiad hwn.'

Bu i gynhyrchiad y cyfarwyddwr, Polly Graham, dderbyn adolygiadau pum seren a chlod enfawr gan feirniaid, yn ogystal â gwerthfawrogiad gan gynulleidfaoedd wrth i ni berfformio'r cynhyrchiad fel rhan o'n Tymor y Gwanwyn 2017, a nawr, gallwch ei wylio eto o gysur eich cartref.