Mae Migrations, opera newydd sbon gan Opera Cenedlaethol Cymru, yn 'daith drwy fyd sy'n dangos y ffordd y mae pobl yn ymddwyn yn yr 21ain ganrif', eglura'r Cyfarwyddwr David Pountney, ac roedd dyddiadau gwreiddiol yr opera wedi'u hamseru i nodi 400 mlynedd ers ymadawiad y Mayflower. Digwyddiad sy'n plethu'n uniongyrchol â dwy o'r dinasoedd y mae WNO yn teithio iddynt: Plymouth a Southampton, y mae'r ddwy ddinas hyn wedi chwarae rhan hollbwysig yn nhaith y Pererinion.
Mae dau ddarn annibynnol yn ganolbwynt i bob act. Yn Act Un, cawn stori ffoaduriaid y byd sydd ohoni sy'n ceisio dygymod â realiti byw mewn gwlad arall, ac ymdopi ag iaith a diwylliant arall, ar ôl gadael eu gwlad eu hunain o reidrwydd. Yn Act Dau, edrychwn ar brofiadau'r rhai a ddewisodd gadael eu hen fywydau a symud yma i helpu'r GIG yn y DU, dim ond i wynebu rhagfarnau a hiliaeth yr 1960au.
Mae'r straeon sy'n cydblethu â'r rhain yn dilyn y pererinion ar y Mayflower; pobl y Genedl Gyntaf Grïaidd yn wynebu effeithiau cenedlaethau o fudwyr ar eu tir hanesyddol yng Nghanada; Pero, caethwas ym Mryste yn y 18fed ganrif, ac arferion mudol cynhenid adar.
Gan ddechrau ar y Mayflower; mae Migrations yn archwilio gobeithion a breuddwydion, ac ofnau a gofidiau, y gwladychwyr Ewropeaidd wrth iddynt fentro ar draws y dŵr i'r Byd Newydd a thuag at ryddid rhag erledigaeth grefyddol.
Yn gwylio eu taith mae haid o adar uwch eu pen ar eu mudo blynyddol - y daith sy'n ffurfio rhan o'u patrwm bywyd naturiol ond y mae arferion pobl yn cael effaith niweidiol arni.
Yna, mae'r sylw'n troi at y Diriogaeth Grïaidd yn 2019, a chlywn sgwrs rhwng mam a merch sydd newydd fod mewn protest yn erbyn yr ymelwa ymwthiol ar fwynau, sy'n bygwth eu tir. Yn nes ymlaen, rydym yn teithio'n ôl mewn amser i 1876 i glywed yr hynafgwyr yn trafod Treaty Six, y cytundeb gyda Choron Prydain yn cadarnhau eu hawliau dros y tir dan eu stiwardiaeth.
Ffigwr hanesyddol yw Pero, ac mae Flight, Death or Fog yn canolbwyntio arno ef. Defnyddir ei fywyd gyda theulu marsiandïwyr cyfoethog Pinney i daflu goleuni ar brofiadau caethweision a'u gwerth ariannol. Ond mae Pero'n gorfod ymdopi â brwydrau emosiynol – ei deulu yn ôl yn Nevis y bu'n rhaid iddo eu gadael, a sylweddoli nad yw'n rhydd a'i fod, yn hytrach, yn cael ei drin fel nwydd.
Yn The English Lesson, ffocws Act Un, rydym yn dychwelyd i 2019 a gwelwn lond dosbarth o ffoaduriaid o wahanol rannau o'r byd yn cael eu haddysgu sut i ddweud pwy ydynt ac o lle maent yn hanu. Mae hanes eu bywydau'n llifeirio allan ar ffurf atgofion, fel golygfeydd llawn erchylltra, creulondeb ac ofn, cyn i'r ystafell ddosbarth ein galw'n ôl yno.
Fel y nodwyd uchod, mae darn annibynnol Act Dau, This is the Life!, yn cynnwys hanes Jai a Neera a ddaeth i Brydain i weithio i'r GIG drwy wahoddiad Llywodraeth Prydain. Ond, yn hytrach na'r 'bywyd da' a addawyd iddynt, maent yn sylweddoli eu bod mewn gwlad ranedig lle ceir teimladau cryf yn erbyn mewnfudo.
Caiff yr holl ddarnau eu gwau ynghyd gan gerddoriaeth y cyfansoddwr Will Todd, sy'n cydblethu'r straeon cwbl wahanol ac yn uno eu lleisiau. Gan gofio mai darn o adloniant sydd yma, roedd yn bwysig cydbwyso'r elfennau poenus ag elfennau gobeithiol. Mae cynnwys elfennau fel dawnsio Bollywood, corws plant a chôr gospel yn helpu i gyfleu'r llwyddiannau yn ogystal â'r trychineb yn hanes mudo.