Newyddion

Canllaw i Rigoletto - Anfoesoldeb yn y Tŷ Gwyn

29 Gorffennaf 2019

Os oeddech yn hoff o Jackie (2016) gan Pablo Larraín yna byddwch wrth eich bodd â'n Rigoletto sy'n rhan o Dymor yr Hydref 2019 ac sydd wedi'i osod yn y Tŷ Gwyn yn ystod cyfnod Kennedy. Bydd y siwtiau â ffasiwn maffia a'r natur Amerciana poblogaidd yn dwyn i gof y 60au bywiog ond peidiwch â gadael i hynny eich twyllo chi i feddwl y bydd Rigoletto yn ysgafn a hapus.

O'i ddechrau risqué; sy'n seiliedig ar Le Roi s’amuse gan Victor Hugo a gafodd ei gwahardd ar ôl un sioe ac yna ei gwahardd rhag cael ei haddasu oherwydd cynnwys anfoesol, mae Rigoletto yn parhau i gyffroi hyd heddiw. Yn adnabyddus am ei La donna è mobile’ enwog (Mae Merched yn Anwadal), canzone Dug Mantua; alaw afaelgar y byddwch yn ei chwibanu am ddyddiau wedyn.

I'r rheiny sydd eto i ganfod yr opera hon sy'n hoelio'r sylw, mae gennym grynodeb byr i chi isod, ond rhybuddier chi fod gwybodaeth a all ddifetha'r opera i chi os nad ydych yn ymwybodol o'r plot.

Egyr yr opera gyda chellweiriwr y llys, Rigoletto, a ddirmygir gan wŷr y llys am annog y Dug i hudo eu gwragedd a'u merched. Yna mae'n gwatwar y rheiny sy'n ddioddefwyr i hyn, gan eu gwawdio â chreulondeb anfaddeugar. Monterone yw'r dioddefwr diweddaraf i brofi hyn a rhodda felltith hunllefus ar Rigoletto. Ar ei ffordd adref, mae'n cyfarfod Rigoletto, sydd wedi'i ddychryn gan y felltith, a Sparafucile, asasin sy'n cynnig ei wasanaethau. Mae'r llys sy'n amau bod gan Rigoletto feistres gyfrinachol, yn dechrau cynllwynio yn ei erbyn.

Fodd bynnag, wrth i'r stori fynd rhagddi, canfyddwn ochr newydd i Rigoletto, pan mae ei dafod ffiaidd yn newid yn ofal llethol a thyner i'w ferch gyfrinachol, Gilda, y mae'n ei chadw rhag y llys. Cynhesa'r gynulleidfa at Rigoletto gan ddangos empathi tuag at ei gariad tadol, yn arbennig pan mae'n dweud wrth Gilda am farwolaeth ei mam. Mae galar Rigoletto yn adlewyrchu profiad trasig Verdi o golli'i wraig a phlant gan wneud 'Deh non parlare al misero’ yn un o'r deuawdau mwyaf torcalonnus, a sbardunir gan boen personol Verdi. Mae hefyd yn rhagarwydd annifyr o'r hyn sydd i ddod.

Yna, daw'r Dug o hyd i Gilda drwy guddio y tu ôl i hunaniaeth myfyriwr tlawd. Yna, mae'r ddau yn datgan eu cariad newydd tuag at ei gilydd. Yn fuan ar ôl iddo adael, caiff Gilda ei herwgipio gan wŷr sbeitlyd y llys i gosbi Rigoletto. Wedi iddo sylwi bod Gilda wedi diflannu, âi ati i chwilota amdani yn y palas a chanfod ei bod eisoes wedi'i threisio gan y Dug. Mae'n penderfynu dial ac yn talu'r asasin i ladd y Dug, sy'n cael ei ddenu gan chwaer yr asasin, sef Maddalena. Yna, mae'r tad a'r ferch yn gwylio wrth i'r Dug gael ei hudo ei hun. A hithau wedi torri'i chalon ond yn dal yn ffyddlon i'r Dug, cuddia Gilda ei hunaniaeth, gan gynllunio i aberthu ei hun yn ei le ef.

Mae'r tensiwn cynyddol yn cronni i uchafbwynt erchyll; a chaiff yr hyn y gall Rigoletto ei ddioddef ei roi dan brawf gyda thro ofnadwy, '...wrth i'w ferch Gilda farw yn ei freichiau, trosglwyddir darlun pwerus o ddyn sydd â chymaint o gasineb â chariad' (Rian Evans, The Guardian, 2005). Gadewir y Rigoletto dan farn yn ffigwr Shakespearaidd; ef oedd y testun sbort.

Ystyr cyfieithiad o deitl Hugo, Le Roi s’amuse, yw Y Brenin yn Diddanu ei Hun sef y modd dirdynnol y mae'r opera yn cloi. Y Dug, yn mwmian, yn cerdded i'r tywyllwch heb boen; ddim yn ymwybodol o ba mor agos ydoedd at farwolaeth na bod Gilda wedi aberthu ei bywyd er ei fwyn ef.

Er bod drama wreiddiol Hugo wedi'i osod yn y 1520au, mae dynameg dyn grymus sydd heb fod yn gyfrifol am ei weithredoedd yn dal i fod yn ddilys; mae'n anodd edrych ar y Dug heb weld cyflinellau â gwleidyddiaeth heddiw.

Peidiwch â cholli'r cyfle i weld opera orau Verdi, yn y cynhyrchiad hwn na allwch ei golli, a gadewch i'ch hun ddehongli a yw'r byd wedi newid llawer ers y 1520au ai peidio.