Newyddion

Canllaw i The Barber of Seville

19 Awst 2021

Mae The Barber of Seville  yn un o'r ffefrynnau yn repertoire Opera Cenedlaethol Cymru, ac yn un o'r teitlau mwyaf poblogaidd ym myd opera. Mae'r gerddoriaeth yn fywiog a chyfarwydd, mae'r stori'n ddoniol ac yn hawdd i'w dilyn, ac yn cynnwys cymeriadau amlwg y byddwch yn disgyn mewn cariad â nhw.

Awgrymir bod Rossini wedi cyfansoddi The Barber of Seville yn 24 oed mewn 12 diwrnod, gan seilio'r stori ar opera Eidalaidd gynharach a oedd yn deillio o ddrama Ffrengig. Gellir olrhain nifer o'r jôcs yn ôl i gomedi'r hen Rufain.

Mae'n ddilyniant o The Marriage of Figaro, ac yn dangos sut y bu i'r Iarll bonheddig ennill Rosina, ei wir gariad. Fodd bynnag, mae'r opera yn llawer mwy cymhleth na hynny! Y gynsail sylfaenol yw bod uchelwr sy'n glaf o serch (Iarll Almaviva) yn gofyn i'r barbwr, Figaro, ei helpu i geisio llaw ei wir gariad sydd o dan reolaeth ei gwarcheidwad amddiffynnol, Doctor Bartolo (sydd eisiau ei phriodi am ei harian). Mae'r cyfan yn gwbl hurt hyd yn hyn.

Mae Almaviva yn cwrdd â Rosina ac yn syrthio mewn cariad â hi, ond mae ei ymdrechion cyntaf i geisio ei serenadu yn methu. Mae Rosina yn ansicr o'i gymhellion, ac mae Bartolo yn benderfynol o gadw'r ddau ar wahân. Mae Almaviva yn cyflogi Figaro fel gwas iddo, ac yn gofyn iddo dynnu Rosina oddi wrth ei hamddiffynnwr a'i pherswadio i'w briodi.

Mewn ymgais i gael Almaviva y tu mewn i gartref y ferch, mae Figaro yn creu cuddwisg milwr iddo (sy'n methu), ac yna mae'n gwisgo fel dirprwy athro canu Rosina, Don Basilio, sydd yn wael ei iechyd. Yma cawn brofi'r olygfa eillio enwog, lle mae Figaro yn tynnu sylw Bartolo drwy eillio ei farf wrth i Almaviva, yr 'athro cerdd', serenadu Rosina yn ystod ei gwers ganu.

Mae cerddoriaeth Rossini yn canolbwyntio ar leisio athletig sy'n amlygu gallu'r cantorion dawnus; cenir yn ddiymdrech gyda gosgeiddrwydd, gan dynnu sylw at y llais coloratwra a phatrwm anadlu comig. Yma hefyd cawn glywed ei hoff 'gast' cerddorol - y cresendo - adran gerddorol sy'n para munud neu ddwy, yn cychwyn yn dawel cyn cyrraedd sŵn byddarol. Mae dwy enghraifft yn The Barber of Seville: Unawd 'Slander' a genir gan Don Basilio (yn cyflwyno darlun cerddorol o glebran yn lledaenu ymhlith cymuned) a golygfa olaf yr Act Gyntaf, sy'n portreadu cynnwrf a phenbleth ar aelwyd.

Mae gwir gariad yn goresgyn y cyfan yn y diwedd, yn dilyn castiau doniol ein harwr, Figaro a'r cariadfab penderfynol. Dyma'r opera ddelfrydol os ydych yn hoff o hwyl, cerddoriaeth wych a diweddglo hapus.