Os ydych erioed wedi gwylio Jane the Virgin - sydd wedi cael sgôr o 100% am bob cyfres ar Rotten Tomatoes - byddwch yn deall sut y gall plot cymhleth iawn gyflwyno'r fath gomedi ddifyr. Nid yw'r dychanol, The Marriage of Figaro, yn wahanol. Yn enwog am ei phlot hurt, mae fel rhywbeth allan o telenovela, ac yn enwocach byth am ei ffraethineb hwyliog. Yma, byddwn yn gosod y seiliau fel nad ydych yn gyfan gwbl ar goll, ond byddwn yn gadael y darnau gorau ar gyfer yr amser pan fyddwch yn dod i'w gweld drosoch eich hun.
Ceir y swnllyd Iarll Almavia, sydd â'i fryd ar Susanna, ond mae hi mewn cariad â Figaro; mae'r ddau gariad yn bwriadu priodi ond mae'r Iarll yn cynllwynio i ddefnyddio hen ddefod i gael ei ffordd gyda hi. Mae cynllwynio ac is-gynllwynio yn ogystal â Chynllwyn A, B a C. Mae'r twyllo yn dechrau; wrth i'r cwpl sicrhau cymorth yr Iarlles, sydd wedi cael llond bol ar ffyrdd cellwair ei gŵr, a'r Cherubino hy; gyda'i gilydd maent yn llunio cynllwyn i godi cywilydd ar yr Iarll.
Mae plot A fel a ganlyn; Mae Cherubino yn gwisgo fel merch i swyno'r Iarll, ond mae'r Iarll yn rhwystro hyn pan mae'n ei anfon i ffwrdd i ymuno â'r fyddin; mae plot B yn cynnwys Susanna a'r Iarlles yn cyfnewid dillad er mwyn ceisio datgelu anffyddlondeb yr Iarll. Os nad yw hynny'n ddigon cymhleth, mae plot dirgel ar yr ochr hefyd; mae Marcellina, sy'n hŷn o lawer, wedi benthyca swm sylweddol o arian i Figaro ac ar y cyd â Bartolo, yn cynllwynio gorfodi Figaro i'w phriodi. Mae'r cynllwyn yn cael ei ddifetha pan ddarganfyddir bod Figaro yn fab iddi - tro melodramatig a fyddai'n addas iawn mewn telenovela.
Nid y plot yn unig fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd; mae'r gerddoriaeth hefyd yn hynod fywiog gyda'r aria nodweddiadol, Non piú andrai, a berfformir yn flynyddol yn seremoni Trooping the Colour, sy'n dathlu pen-blwydd swyddogol y Frenhines. Mae'r agorawd hefyd wedi ymddangos mewn rhai o'r ffilmiau mawr, megis The King's Speech ac os ydych erioed wedi gweld y ffilm, The Shawshank Redemption, efallai y byddwch yn cofio'r olygfa lle mae un o'r carcharorion yn llwyddo i chwarae'r ddeuawd, Duettino- Sull'aria i'r carchar i gyd dros yr uchelseinydd, sy'n crynhoi'n gelfydd sut beth yw bod yn ddyn.
Mae gan yr opera hefyd naws wleidyddol; y frwydr rhwng dosbarthiadau cymdeithasol a gyflëir yn swynol drwy hiwmor. Ar un pwynt, er enghraifft, mae'r Iarll yn egluro bod, 'y gweision yn y tŷ yn cymryd mwy o amser i wisgo na'u meistri', mae Figaro yn ateb gan ddweud, 'Achos nad oes ganddyn nhw weision i'w helpu.'
Mae'r cyfan yn gorffen ar nodyn cadarnhaol gyda'r Iarll yn erfyn ar yr Iarlles am ei maddeuant a hithau'n ufuddhau. Mae'r merched hyd yn oed yn byw i adrodd yr hanes, sy'n beth prin ac aruthrol; felly gwnewch y mwyaf ohono a dewch i weld The Marriage of Figaro Opera Cenedlaethol Cymru, y ffordd berffaith o gael gwared ar felan y Flwyddyn Newydd.