Newyddion

Neges gan Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO

20 Mawrth 2020

Yn dilyn cyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch digwyddiadau cymdeithasol, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio gyda’n lleoliadau partner, a gallwn gadarnhau y bydd amryw o berfformiadau yn ystod ein taith y Gwanwyn a digwyddiadau eraill yn ystod y cyfnod hwn, yn cael eu canslo. Cliciwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y digwyddiadau sy’n cael eu heffeithio. Bydd lleoliadau yn cysylltu â phobol sydd â thocynnau i'r digwyddiadau hyn cyn bo hir.

Fel Cwmni ein nod yw sicrhau bod y byd opera ar gael ar draws y rhanbarthau y teithiwn iddynt, drwy ein perfformiadau a thrwy’r gweithgareddau a ddarparwn mewn ysgolion a chymunedau. Bu’n anodd iawn felly dod i’r penderfyniad hwn i ganslo perfformiadau a digwyddiadau, ond ein prif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch ein cynulleidfaoedd yn ogystal â staff ac artistiaid gwadd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae hyn wrth gwrs yn cael effaith sylweddol ar ein staff hynod o weithgar yn ogystal â’r amryw o artistiaid talentog sy’n teithio o bob rhan o’r byd i berfformio gyda ni, ond rydym yn benderfynol o gadw cerddoriaeth yn fyw a byddwn yn gweithio y tu ôl i’r llenni i ganfod ffyrdd o gyflwyno opera i gymaint o bobl â phosib.

Os ydych chi'n caru opera ac eisiau helpu - yna nawr yw’r adeg y gofynnwn am eich cefnogaeth.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig. Mae cyllido ffioedd ein hartistiaid yn dibynnu’n helaeth ar yr incwm o’r tocynnau a werthwn a’r arian a gawn fel cyfraniad.

Bydd pob cyfraniad a gawn yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn yn mynd tuag at sicrhau y bydd ffioedd ein hartistiaid, ein timau creadigol a’r Corws, Cerddorfa a’r staff anhygoel yn cael eu talu cyn hired ag y gallwn. Ar hyn o bryd, rydym wedi ymrwymo i barchu cytundebau ein hartistiaid gwadd a’n hymarferwyr llawrydd hyd at ddiwedd taith y Gwanwyn ar 9 Mai. Bydd eich cefnogaeth yn helpu i sicrhau goroesiad WNO i’r dyfodol.

Pan fydd perfformiadau’n cael eu canslo, bydd gennych hawl i gael ad-daliad, neu, yn y rhan fwyaf o achosion bydd cyfle i gyfnewid eich tocynnau am berfformiad yn Hydref 2020 neu Wanwyn 2021. Rydym wrthi’n trafod â'n lleoliadau i weld a oes modd ychwanegu opsiwn i chi roi gwerth eich tocyn fel rhodd yn hytrach na chyfnewid tocyn neu gael eich arian yn ôl. Rhowch ystyriaeth i’r opsiwn hwn os gwelwch yn dda oherwydd mi fydd yn elwa’r lleoliad a WNO yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Ni fu cyfnod fel hwn yn ystod ein 75 mlynedd o fodolaeth, pan mae pawb angen ei gilydd. Rydym yn wynebu rhai o’r amseroedd mwyaf cythryblus yn y genhedlaeth hon. Mae cerddoriaeth yn dod â ni at ein gilydd, darparu cysur a chynhesu’r enaid, a bydd angen pŵer cerddoriaeth, theatr a’r celfyddydau arnom i gyd i'n helpu trwy’r cyfnod anodd hwn sydd o’n blaenau.

Bydd pob rhodd neu gyfraniad, mawr neu fach, yn gwneud gwir wahaniaeth felly cyfrannwch nawr.

Am nawr, hoffem ddiolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch amynedd, ac rydym yn cydnabod ymdrechion anhygoel ein cynulleidfaoedd, staff, artistiaid a’r lleoliadau. Edrychwn ymlaen at berfformio o’ch blaen unwaith eto’n fuan iawn.

Aidan Lang
Cyfarwyddwr Cyffredinol