Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn prysur baratoi ar gyfer agoriad ein Tymor Hydref 2024 newydd, a pha ffordd well o ddod â chynulleidfaoedd ynghyd na gydag Il trittico gan Puccini? Dyma rai o’n hoff adegau cerddorol i gadw llygad amdanynt yn nhriawd o operâu Puccini na pherfformir yn aml iawn. Gallwch hefyd ymgyfarwyddo â'r gwaith gyda'n Canllaw cyflym i Il trittico.
Il tabarro
Rhagarweiniad Cerddorfaol
Mae Il tabarro yn agor ar lannau’r afon Seine ym Mharis, ac mae rhagarweiniad cerddorfaol Puccini i’r opera yn sicr yn gosod yr olygfa’n wych: mae siglo anesmwyth yr offerynnau chwyth a llinynnol yn ein hatgoffa o siglo hamddenol y cychod camlas ar y dŵr, ac mae sŵn corn y ceir a chwibanau’r cychod yn ychwanegu lliw i'r darlun.
Deuawd Michele a Giorgetta: Resta vicino a me! (Aros yn agos ataf!)
Yr em wirioneddol yng nghoron Il tabarro yw’r ddeuawd rhwng Michele a Giorgetta sy’n digwydd tuag at ddiwedd y ddrama. Mae'n foment daer a thyner lle mae Michele yn erfyn ar ei wraig i aros gydag ef a chofio amseroedd gwell yn eu perthynas.
Suor Angelica
Suor Angelica: I desideri sono i fiori dei vivi (Dyheadau yw blodau'r byw)
Yn dilyn agoriad hyfryd a thawel clychau’r eglwys a’r Corws yn canu Ave Maria, mae cyd-chwiorydd lleiandy’r Chwaer Angelica yn trafod eu dyheadau. Cyflwyniad lleisiol cyntaf y Chwaer Angelica yw’r foment o ddwyster gyntaf gwirioneddol yn yr opera, wrth iddynt ganu mai eu dyheadau yw ‘blodau'r byw, sydd byth yn blodeuo ym myd marwolaeth’, datganiad deublyg sy'n dechrau gyda’r gerddorfa’n telynegu ac yn anwesu Angelica yn dyner, cyn i’r sain godi’n uchel fel bod modd clywed dyfnder ei gofid. Mae’r chwiorydd i gyd yn ymdawelu, mae awyrgylch yr ystafell yn tynhau yng nghanol gwewyr amlwg y Chwaer Angelica o golli ei mab.
Gianni Schicchi
Teyrnged Rinuccio i Fflorens: Firenze è come un albero fiorito (Mae ein Fflorens yn ddinas falch a hynafol)
Yn anarferol i Puccini, prin yw’r eiliadau gwirioneddol delynegol yn ei opera gomig gyflym Gianni Schicchi. Un funud sy’n rhoi seibiant byr i gecru’r teulu Donati, sydd wedi’u dietifeddu, yw Rinuccio yn tarfu arnynt i’w tawelu.
Mae moment Rinuccio yn aria eang ac angerddol sydd wedi'i chysegru i'w ddinas enedigol, Fflorens, gan ddechrau mewn arddull datganiadol, gorymdeithiol. Ceir interliwd fer o thema O mio babbino caro enwog Lauretta, cyn i Rinuccio fynd ati i ddisgrifio mawredd Afon Arno yn y ddinas a’r dynion a gododd ei sylfeini hanesyddol, Arnolfo Giotto, y Medicis, a’u gwir olynydd, Gianni Schicchi ei hun.
Gwrandewch am yr uchafbwyntiau cerddorol hyn pan fydd Il tritticoyn dychwelyd i Gaerdydd ym mis Medi.
Peidiwch â cholli'ch cyfle olaf i weld cynhyrchiad clodwiw WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 29 Medi, 3 a 5 Hydref, cyn iddo fynd ar daith fel rhaglen ddwbl Suor Angelica a Gianni Schicchi i Landudno, Plymouth a Southampton, gyda pherfformiad cyngerdd arbennig yn Rhydychen yn yr Hydref.