Newyddion

Don Pasquale ar ei newydd wedd

7 Mai 2019

I baratoi ar gyfer lansiad cynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru, Don Pasquale, yn ddiweddarach y mis hwn, fe wnaethom ddal i fyny gyda’r Arweinydd Stephen Higgins i weld sut aeth i'r afael â'r heriau o wneud opera glasurol Donizetti yn gyfoes. 

Bydd Don Pasquale yn mynd ar daith i theatrau o faint canolig. Pa fath o newidiadau y bu'n rhaid i chi eu gwneud i'r gerddoriaeth?

Nid oedd cerddorfa lawn yn opsiwn, felly un o'r trafodaethau cyntaf a gefais gyda'r Cyfarwyddwr, Daisy Evans, oedd beth allwn ni ei wneud yn lle hynny. Nid oeddem eisiau gwneud opera 'mi wnaiff hyn y tro', felly penderfynom integreiddio'r cerddorion yn y weithred ddramatig. Meddyliom am y syniad o bobl yn clera, cerddorion yn cyd-berfformio ar y stryd ac ati. Y cwestiwn nesaf oedd - pa fath o offerynnau a cherddorion fyddech chi'n dueddol o'u gweld yn dod ynghyd ar strydoedd tref fawr Gymreig fel Caerdydd neu Gasnewydd ar ôl i'r tafarndai gau? Bu i ni daro ar y syniad o biano-acordion, sacsoffon tenor, cwpl o linynnau a thrwmped o fath Miles Davis.

Mae dwy gân fawr i'r corws yn y sioe, felly bydd y chwaraewyr - gan gynnwys minnau - yn rhan o'r corws hefyd. Mae'n ofyniad mawr - yn sydyn roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i gerddorion a oedd yn gallu chwarae offerynnau'n dda ac oedd yn fodlon bod mewn gwisg, actio ar y llwyfan a chanu!

Ai hwn fydd eich tro cyntaf fel actor ac arweinydd ar y llwyfan?
Rwyf wedi rhoi tro arni ychydig o weithiau o'r blaen - ond nid wyf erioed wedi bod mewn sefyllfa lle'r ydym ni fel cerddorion yn rhan mor annatod i'r llwyfannu a dramäwriaeth y sioe. Credaf mai'r prif heriau fydd cynnal cysylltiad â'r band a'r cantorion - am gyfnod helaeth o'r amser gallaf fod y tu ôl i'r brif weithred, sy'n anarferol mewn opera; byddaf yn cyfeilio'r cantorion trwy'r glust, yn hytrach nag eu harwain o'r tu blaen.

Yn ogystal, bydd gennych radio yn y fan cebab. Sut ydych am ei ddefnyddio?
Mae'r bwlch rhwng y llafar a'r canu - y newid gêr os hoffech chi - wastad wedi fy rhyfeddu. Mae llawer o sgôr Don Pasquale o natur adroddgan, ac roeddwn am ddod o hyd i ffordd o gyflwyno'r momentau hyn mewn ffordd gerddorol wrth gynnal dull naturiolaidd llafar bob dydd. Felly meddyliais am y syniad radio - pwy sydd erioed wedi canu neu hymian i hoff gân ar ôl ei chlywed ar hap a damwain ar y radio, neu mewn siop? Gobeithiaf y bydd y cantorion yn cael eu hannog i fynd yn ôl ac ymlaen rhwng y gair llafar a'r testun a genir gan yr hyn maent yn ei glywed o radio Don Pasquale. Mae'r trac sain yr ydym wedi'i greu wedi dod o sgôr wreiddiol Don Pasquale, ond mae wedi'i newid rhywfaint a'i addasu i gyd-fynd â'r sefyllfa y mae'r cymeriadau ynddi.

A fydd y gynulleidfa yn gallu adnabod y Donizetti clasurol sy'n cael ei amlygu drwy'r gerddoriaeth?
Bydd, yn sicr. Mae popeth yn y sioe, o'r ariâu a'r ensembles i'r deunydd i gyd ar y radio yn dod o'r sgôr wreiddiol. Mae'r libreto yn dilyn strwythur y gwreiddiol yn agos iawn, ac mae fy ad-drefniant cerddorfaol am fand stryd yn clera yn ffyddlon i sgôr wreiddiol Donizetti ar gyfer cerddorfa lawn. Mae Don Pasquale yn opera sydd wedi'i chrefftio'n wych - yn ddyfeisgar o ran yr alaw ac yn glyfar o ran y strwythur. Roeddem am gadw'r disgleirdeb hwn yn ein gwaith ailddychmygu.

Beth ydych chi wedi'i fwynhau fwyaf ynglŷn â moderneiddio'r opera glasurol hon a beth oedd eich her fwyaf?
Mae'r pleser wedi bod yn y gwaith o fynd trwy'r darn â chrib mân a meddwl am ddatrysiad i bob senario i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r cysyniad cyffredinol o'r byd yr ydym wedi'i greu. Mae diweddaru darn o opera o'r 19eg ganrif yn llawer mwy na dyfeisio gosodiad a gosod y darn ynddo, gan obeithio bod popeth yn gwneud synnwyr. Daw'r pleser i mi o'r rhyddid i newid y testun a'r gerddoriaeth yn graff, gan gynnal yr ysbrydoliaeth o'r gwreiddiol, er mwyn adrodd y stori mewn ffordd newydd ac arloesol.