Newyddion

Mae Noson yn Fienna yn ôl!

11 Ionawr 2019

Croeso i 2019, ac mewn steil traddodiadol mae WNO yn croesawu’r flwyddyn newydd gyda’n cyngherddau Noson yn Fienna ar hyd a lled Cymru. Bydd Cerddorfa WNO wedi ymweld ag Abertawe, y Drenewydd, Bangor, Caerdydd, Tyddewi a Chasnewydd cyn diwedd mis Ionawr.

Mae’r cyngherddau cyntaf eisoes wedi dod â blas o Fienna i Abertawe a’r Drenewydd, gyda’u cymysgedd o gerddoriaeth gan deulu Strauss, Lehár, Mozart, Weber a Kreisler. Gan gynnwys gwerth dwy ganrif o walsiau cain, polcas chwareus a chaneuon sy’n cyfleu ysbryd ystafelloedd dawns disglair Fienna, ac yna wals orfodol y Blue Danube i orffen y noson.

Rydym yn dod â’n cyngerdd Fiennaidd i Eglwys Gadeiriol Dewi Sant am y tro cyntaf eleni, yn dilyn perfformiadau rheolaidd y Gerddorfa yno fel rhan o Ŵyl Abergwaun, ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno cynulleidfa gorllewin Cymru i’n dehongliad o’r darnau hwyliog, traddodiadol hyn o gerddoriaeth.

Arweinydd y Gerddorfa a’r Meistr Cyngerdd, David Adams, fydd yn arwain o’r feiolín a bydd Artist Cyswllt newydd WNO, Harriet Eyley, yn dod â chân i’r cyngherddau am y tro cyntaf eleni fel unawdydd soprano ar gyfer Bester Jüngling Mozart, Meine Lippen, sie küssen so heiss a Vilja Lied Lehár a Chân Chwerthin Strauss o Die Fledermaus. Mae David hefyd yn perfformio fel unawdydd mewn tri darn o waith byr ar gyfer y feiolín gan Fritz Kreisler, Liebesfreud, Liebeslied a Schön Rosmarin sy’n cael eu hadnabod gyda’i gilydd fel Alt-Wiener Tanzweisen (Hen Alawon Dawns Fiennaidd).

Felly, ymunwch â ni i ddathlu dechrau’r flwyddyn newydd yng nghanol bwrlwm cerddoriaeth Fienna.