Newyddion

Aidan Lang ar WNO yn dychwelyd i’r llwyfan

10 Mehefin 2021

Hir fu’r ymaros. Ar adegau, roeddem yn meddwl tybed a fyddai Opera Cenedlaethol Cymru fyth yn perfformio o flaen cynulleidfa fyw unwaith eto – ond, o’r diwedd, daeth goleuni ym mhen arall y twnnel ac rydym yn teimlo ein bod mewn sefyllfa i gyhoeddi ein Tymor 2021/2022. Ym mis Ebrill, dathlwyd 75 mlynedd ers perfformiad lawn cyntaf y Cwmni ac roedd yn dorcalonnus nad oedd modd dathlu adeg bwysig fel hon gyda pherfformiad byw. Yn union fel y cododd y Cwmni yn wreiddiol o ludw yr Ail Ryfel Byd, mae’n teimlo’n briodol mai lleisiau operatig fydd y rhai cyntaf i’w clywed ar lwyfan odidog Canolfan Mileniwm Cymru wrth i ni ddod o’r argyfwng presennol.

Daeth y flwyddyn ddiwethaf â heriau anghyffredin i WNO a’r byd opera yn ei gyfanrwydd. Y tu ôl i’r llenni, bu llawer o staff WNO yn gweithio ymhell tu hwnt i’w dyletswyddau arferol i helpu i gynnal y Cwmni. I lawer o rai eraill, roedd pethau’n dra gwahanol – blwyddyn o rwystredigaeth bur wrth i’r diffyg gweithgarwch a orfodwyd arnynt eu hatal rhag gwneud yr hyn sydd yn rhoi’r boddhad mwyaf iddynt. I’n cantorion, ein chwaraewyr a’n hamryfal dimau technegol, mae creu cynhyrchiad opera yn fwy na digwyddiad ble maent yn chwarae rhan greiddiol ynddo. Mae’r creu hwn hefyd yn diffinio rhan o bwy ydyn nhw fel pobl. Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn wir am yr artistiaid a’r technegwyr llawrydd a fyddai wedi chwarae rhan mor ganolog yn ein gwaith fel arfer. Bu creu cynnwys yn arbennig ar gyfer ei rannu’n ddigidol yn un peth calonogol ddaeth yn sgil y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddodd hyn gyfle perffaith i ni ddangos bwrlwm gweithgarwch ein tîm Rhaglenni ac Ymgysylltu, na fyddai’r cyhoedd wedi gweld llawer ohono fel arall, fel A Song for the Future. Gallwch ddisgwyl gweld mwy yn yr un cywair dros y blynyddoedd nesaf.

Wrth gynllunio Tymor 2021/22, bu’n rhaid cael cyfuniad synhwyrol o obaith gochelgar, dos cryf o bragmatiaeth a rhyw fymryn o freuddwydio. Hyd yn oed nawr, nid oes gennym ffordd i wybod a fydd rhaid parhau i gadw pellter cymdeithasol, yn yr awditoriwm ac ar y llwyfan. Wrth i gynyrchiadau presennol gael eu canslo fesul un drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ceisio eu hail-raglennu ble bynnag bosibl, fel bod gan artistiaid rywbeth pendant yn eu dyddiadur wrth i ni ddychwelyd, er gwaethaf yr effaith ddomino anochel ar ein cynlluniau yn y dyfodol. Un cynhyrchiad yr oeddem yn awyddus dros ben i’w gadw, ar bob cyfrif, oedd Migrations, a fydd bellach yn cael ei berfformio yng Nghaerdydd yn Haf 2022 ac yna'n mynd ar daith yn Nhymor yr Hydref canlynol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r celfyddydau wedi rhoi sylw arbennig i’r ffordd y mae eu gwaith yn ymwneud â materion cyfoes. A honno’n dibynnu cymaint ar y repertoire sy’n bod, mae opera wedi’i chael hi’n anodd gwneud hynny weithiau. Mae Migrations yn mynd i’r afael o ddifri â’r materion a’r canlyniadau dynol sydd ynghlwm wrth ymfudo ac mae’n argoeli i fod yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn. Yn yr un modd, bydd ein Madam Butterfly newydd yn edrych ar waith Puccini drwy lens gyfoes ac yn amlygu’r themâu pennaf yn y cyfnod hwn.

Mae’n rhyddhad mawr cael dychwelyd. Ynghyd â phob aelod arall o’r Cwmni, edrychaf ymlaen at eich gweld chi gyd yn ôl yn y theatr unwaith eto.