Newyddion

Cyflwyniad i Má Vlast gan Smetana

8 Tachwedd 2021

Cyfansoddodd y cyfansoddwr Tsiec, Bedřich Smetana, ei gylchred o chwe cherdd symffonig, Má Vlast (Fy Ngwlad) yn 1874 – 79. Bron yn syth ar ôl iddo gychwyn ar y gwaith yn 1874, collodd ei glyw’n gyfan gwbl, ond parhaodd i gyfansoddi, ac yn aml, ystyrir ei ddarnau diweddarach fel ei waith gorau. Cafodd y gylchred gyfan ei pherfformio am y tro cyntaf ym Mhrâg yn 1882.

Mae cerddi symffonig yn ddarnau o gerddoriaeth gerddorfaol sy’n hynod ddisgrifiadol, yn adrodd stori, neu’n portreadu tirlun - fel peintio llun drwy gerddoriaeth. Llythyr garu Smetana i’w famwlad yw’r cerddi yn Má Vlast, yn portreadu tirlun, hanes a chwedlau’r wlad a oedd yn cael ei hadnabod fel Bohemia ar y pryd. Mae’r chwe cherdd, Vyšehrad, Vltava, Šárka, Z českých luhů a hájů, Tábor a Blaník, yn ffurfio cylchred o dros awr o hyd.

Mae Vyšehrad (Y Castell Uchel) yn portreadu castell canoloesol Brenhinoedd Tsiec cynnar Prâg, yn parhau hyd nes ei ddymchwel yn y pendraw.

Mae Vltava, y fwyaf poblogaidd o’r cerddi, wedi’i henwi ar ôl yr afon sy’n llifo drwy Prâg (sydd hefyd yn cael ei hadnabod yn ôl ei henw Almaeneg: die Moldau), a pherfformiodd Gerddorfa WNO’r gerdd mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant yn 2019. Mae’n portreadu llanw a thrai dwy nant sy’n uno i ffurfio prif afon y wlad ar ei thaith drwy goedwigoedd a dolydd, heibio i fynyddoedd a thrwy Prâg.

Mae Šárka yn adrodd hanes merch (Šárka) yn dial ar ei gŵr ar ôl iddo ei thwyllo, ac sy’n addo dial ar ddynion yn gyffredinol – chwedl Tsiec Rhyfel y Forwyn. Awgrymwyd yn aml fod y darn hwn yn benodol, wedi’i ysbrydoli’n sylweddol gan gyfansoddwyr cerddoriaeth ffilm y 1930au ac 1940au.

Mae Z českých luhů a hájů (O Goedwigoedd a Chaeau Bohemia) wedi’i chynnwys yn ein Cyngerdd Clasurol Caerdydd, ddydd Sul 22 Mai 2022. Mae hon yn portreadu darlun, yn ddathliad o dirlun a golygfeydd bywyd gwledig ac arferion Tsiec - fel gŵyl bentref fywiog.

Mae Tábor yn portreadu dinas o’r un enw yn ne Bohemia, lle’r oedd yr Hwsiaid wedi’u lleoli yn ystod Rhyfeloedd yr Hwsiaid (neu Chwyldro Bohemia) ar ddechrau’r 1400au. Mae Smetana’n dyfynu emyn Husaidd yn thema’r darn hwn.

Mae Blaník yn gerdd arall wedi’i hysbrydoli gan chwedl, wedi’i henwi ar ôl mynydd lle, yn ôl bob sôn, roedd byddin ryfeddol Sant Wenceslas yn cysgu, yn barod i ddeffro pan fo angen (yn hytrach na Byddin y Meirw yn Lord of the Rings Tolkein).

Efallai ei bod yn syndod nad oedd Má Vlast wedi’i pherfformio’n llawn yn Proms y BBC tan fis Gorffennaf 2011, o ystyried y ffaith bod y gylchred gyfan wedi’i pherfformio am y tro cyntaf yn ôl yn 1882. Ond eto, mae’n ddarn sydd â hanes cymysg - yn wreiddiol, cafodd perfformiadau ohoni eu gwahardd gan y Natsïaid yn yr hyn a oedd yn cael ei hadnabod bryd hynny fel Tsiecoslofacia (oherwydd ei natur wladgarol amlwg) felly ni chafodd ei pherfformio eto tan 1941 mewn perfformiad ym Merlin gan y Czech Filharmonic. Roedd Má Vlast hefyd yn arwyddocaol yn 1990 ar ôl i’r Chwyldro Melfed arwain at Tsiec yn torri’n rhydd rhag rheolaeth dan gefnogaeth Sofiet, gan alluogi’r etholiadau democrataidd rhydd cyntaf mewn 40 blynedd. Gellir dweud bod y gerdd wirioneddol yn bodloni cyfieithiad arall o’i theitl: ‘Fy Mamwlad’.