Newyddion

April Dalton: Dylunio opera newydd

21 Hydref 2022

Mae'r Tymor hwn yn gweld creadigaeth newydd ddiweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru, Migrations, yn dychwelyd i'r llwyfan, gan ymweld â lleoliadau yng Nghaerdydd, Llandudno, Plymouth, Birmingham, a Mayflower fel rhan o'n taith Tymor yr Hydref. Cawsom sgwrs gyda'r dylunydd April Dalton i gael gwybod rhagor amdani hi a'i phroses greadigol. 

'Mae arna'i bopeth i fy mam-gu a thad-cu. Byddai eu garej yn aml yn cael ei droi'n galeri dros dro gyda'i arwydd ei hun - Lancaster Gallery - wedi'i beintio â llaw yn arddangos creadigaethau fy mrawd a minnau, ble byddai'r cymdogion yn cael gwahoddiad ac yn cogio rhoi cynnig ar eitemau o'n gwaith a'u prynu. Byddai nain yn aml yn gofyn i mi i ddylunio 'casgliad haf' iddi a, gyda hynny a'r cyfuniad o fy mam yn fy nysgu i wnïo, dechreuais wneud dillad 3D hefyd.

Yr hyn sy'n braf i mi am ddylunio gwisg yw'r broses o ddod i adnabod person/cymeriad newydd, p'un ai ydyw yn rhywun sydd wedi bodoli ar adeg arall mewn hanes, neu'n gymeriad newydd ffuglennol. Mae'n rhoi boddhad gweithio ar ddarn manwl a dysgu'r holl waith sy'n mynd i mewn i ddillad y cyfnod, ond mae hefyd yn wych gweithio ar ddarn mwy cysyniadol a sefydlu personoliaethau swreal mewn mannau haniaethol. Fel arfer rwy'n dechrau gyda llawer o ymchwil. Rwy'n dod o hyd i gyfeiriadau o bobl mewn lluniau, llyfrau a ffilmiau. Rwy'n dechrau eu cysodi i greu naws fyrddau i sefydlu hunaniaeth weledol i'r darn. Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn defnyddio collage digidol fel fy null o greu delweddau o wisg, gan roi'r eitemau rwy'n dod o hyd iddynt at ei gilydd. Rwy'n braslunio arnynt a newid y siâp a'r lliwiau i greu rhywbeth newydd. Rwy'n aml yn hoffi gwneud hyn ochr yn ochr â delwedd o'r cast, felly mae fel fy mod yn eu haddasu i berson newydd, neu ryw fath o ail berson. 

Wrth wireddu Migrations, cefais sawl cyfarfod â Syr David Pountney a Loren Elstein. Yr hyn oedd yn teimlo'n bwysig oedd nid yn unig sefydlu hunaniaeth yr unigolyn ac estheteg pob un o'r storiâu, ond hefyd ymwybyddiaeth o unrhyw debygrwydd sy'n eu cysylltu ar draws cyfnodau a diwylliannau, fel ein bod wedi dod o hyd i edau i'w clymu ynghyd. Byddai Loren a minnau bob amser yn diweddaru'r naill a'r llall gyda lliw a dewis o ddefnyddiau tra'r oeddem yn gwireddu'r dyluniadau, fel bod modd i ni deilwra penderfyniadau er mwyn cydweithio. Rwyf hefyd wedi cadw trosolwg o sut oedd pob un o'r darnau yn perthnasu i'r llall, gan ddefnyddio lliw i glymu'r storiâu ynghyd, felly pan mae'r holl gymeriadau ar draws y storiâu yn dod ynghyd yn yr un lle, bu iddynt gysylltu mewn lliw hefyd.

Fy hoff ddarn o wisg yw côt Dawn oherwydd llwyddwyd i gael côt Beaver Lake Cree wreiddiol. Roedd yn arbennig gallu defnyddio eitem ddilys ar y llwyfan. Roedd y gwisgoedd Bollywood yn wych i'w gwireddu mewn cydweithrediad â'r Ensemble Bollywood, gan gymryd cyngor ar sut i dorri trowsus orau ar gyfer y symudiad angenrheidiol a darganfod ffyrdd gwahanol o lapio sari a fyddai'n gadael i Neera barhau i gyflawni'r coreograffi. Roedd y dyn streipen fain yn un hwyliog yn weledol hefyd, gan ei bod yn estheteg wahanol iawn i weddill y sioe. Roedd yn teimlo fwy fel cartŵn grotésg, ac roedd hyn yn ein caniatáu ni i fod yn feiddgar gyda gorffeniad y wisg.