Newyddion

Dod yn Brenhines Elisabeth I

19 Mawrth 2019

Elisabeth I oedd Brenhines Lloegr ac Iwerddon o 17 Tachwedd 1558 hyd nes y bu farw ar 24 Mawrth 1603. Yr olaf o bum teyrn teulu'r Tuduriaid, weithiau byddai pobl yn galw Elisabeth yn 'y Forwyn Frenhines', 'Gloriana' neu 'Good Queen Bess'. Mae hi hefyd yn testun i’n Tymor y Gwanwyn 2019, sy'n cynnwys yr adfywiad cyntaf o'n cynhyrchiad clodwiw o Roberto Devereux gan Donizetti.

Ysbrydolwyd y ddrama operatig ffrwydrol ynghylch cariad annychweledig, hapusrwydd gwaharddedig, cenfigen, brad a dialedd gan ddigwyddiad hanesyddol - dienyddiad Roberto Devereux, ffefryn Brenhines Elisabeth I, am fradwriaeth - ond fel yn achos llawer o weithiau'r cyfnod, dim ond sbardun i danio'r dychymyg operatig yw'r hanes go iawn. Mae Brenhines Elisabeth I Donizetti yn dra gwahanol i 'Forwyn Frenhines' y llyfrau hanes; yn hytrach, mae gennym Elisabetta mewn gwisg goch. 

Mae rhan Elisabetta yn enwog am fod yn un anodd iawn, a'r Tymor hwn rydym yn falch tu hwnt o gael croesawu'r rhagorol Joyce El-Khoury fel ein Brenhines. Mae ei dehongliad yn portreadu merch sydd, i ryw raddau, yn debyg i unrhyw ferch mewn cariad. 

She’s a fascinating character to play and I’ve learned a lot about her and actually about myself. She is so dramatic and theatrical in the way she speaks. All of her music is over the top. She’s in constant conflict between Elizabeth the woman and Elizabeth the Queen. Elisabetta is now at the top of the favourite roles to perform. She’s pretty spectacular.

Joyce El-Khoury

Roedd cyfnod y Tuduriaid yn gyfnod afradlon ac roedd balchder mewn ymddangosiad, o bosib, yn brif ffactor. Roedd bywyd y llys yn rhodresgar a byddai pobl yn gwisgo i greu argraff. Fel teyrn, roedd gan Elisabeth ddyletswydd i wisgo'n well na phawb arall - ac mae hyn yn un o brif nodweddion ein cynhyrchiad trawiadol. Wedi'u haddurno â manylion lledr a metelaidd, ni fyddai gyddflin isel Elisabetta, a ysbrydolwyd gan Vivienne Westwood, yn edrych allan o'i lle yn Carmen neu Manon Lescaut. Dyluniwyd ei gwisg gychwynnol i greu'r un ddelwedd â'r un a luniwyd ar gyfer Elisabeth yn ystod ei theyrnasiad - cyfoeth, awdurdod a grym. 

This costume certainly helps you feel like the boss. It’s quite empowering – the red and the leather and of course, the claw. I think it’s an absolutely beautiful design and I would probably wear it in real life.

Joyce El-Khoury

Roedd pobl yn edmygu glamor bythol y Frenhines Elisabeth I. A hithau'n enwog am ei hwyneb welw, roedd croen gwyn yn ffasiynol yng nghyfnod y Tuduriaid gan ei fod yn gwahaniaethu rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd. Yn ei hachos hi, roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel 'mwgwd ieuenctid', ac wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, ychwanegwyd rhagor o haenau o golur i guddio olion heneiddio a chreithiau ar ei hwyneb.  Byddai ei hwyneb, gwddf a dwylo yn cael eu paentio â chymysgedd o blwm gwyn a finegr; byddai ei gwefusau'n cael eu lliwio â phast coch wedi'i wneud o gŵyr gwenyn a lliw planhigyn a byddai ei llygaid yn cael eu hamlinellu â chohl. Diolch i MAC, y brand cosmetigau adnabyddus sydd wedi bod yn cefnogi WNO am fwy na 10 mlynedd, roedd yn bosib i adran golur WNO ail-greu gwedd eiconig Elizabeth ar y llwyfan ar gyfer Elisabetta.

Un arall o nodweddion adnabyddus y Frenhines Elisabeth I oedd ei gwallt eurgoch, gwirioneddol chwyldroadol. 

I think this wig in incredible. When I have it on I feel it gives me a sense of status

Joyce El-Khoury

Roedd lliw gwallt yn fwy na symbol o harddwch neu wedd yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Roedd yn cael ei ystyried yn dystiolaeth o dras Duduraidd go iawn. Er bod ganddi wallt coch naturiol, am y rhan fwyaf o'i bywyd, roedd Elisabeth yn gwisgo wigiau. Drwy arddangos y gwallt coch a etifeddodd gan ei thad, roedd hi'n profi anwiredd y sibrydion o anghyfreithlondeb a fu'n fwrn arni yn ystod ei hieuenctid. Roedd rhesymau cyhoeddus a gwleidyddol hefyd. Coch a gwyn oedd lliwiau San Siôr, nawddsant Lloegr, hefyd. Roedd y gwŷr a liwiai eu gwallt neu farf yn goch, i ddilyn esiampl Elisabeth, yn gwneud mwy na datgan eu teyrngarwch i'r frenhines; roeddent hwy a hithau yn gwneud y pwynt eu bod yn sefyll ar wahân, yn Lloegr Brotestannaidd, i Ewrop Gatholig â'i phobl gwallt tywyll a chroen llai gwelw.

Coch a gwyn oedd brand oes Elisabeth ac mae'r brand hwnnw wedi bod yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus erioed; mae mor hawdd i'w adnabod heddiw ag ydoedd yn ystod cyfnod Elizabeth.

Aethom y tu ôl i'r llenni gyda Joyce El-Khoury i weld y gweddnewidiad o soprano brydferth i Frenhines nerthol.