
Ailadroddiad swynol Rossini o Sinderela yw cynhyrchiad yr hydref hwn o La Cenerentola, a fydd yn eich tywys i fyd lliw candi, llawn ffraethineb, wigiau mawr, gwisgoedd bywiog a chymeriadau hudol. Mae’n wledd i’r llygad a’r glust fel ei gilydd, ac fe’i cefnogir gan Gyfeillion WNO.
Mae gan y cynhyrchiad arbennig hwn o La Cenerentola – a berfformiwyd am y tro cyntaf gan WNO yn ôl yn 2007 yng Nghaerdydd – ofynion penodol a manwl o ran wigiau, colur a gwisg. Fel rheol caiff y darnau gwallt eu creu gan y tîm wigiau a cholur, ond oherwydd lliwiau neon llachar y wigiau, mae rhai wedi cael eu prynu’n arbennig ar gyfer y cynhyrchiad. Mae gan aelodau gwrywaidd y Corws wallt glas brenhinol trawiadol, ac mae gan y ddwy chwaer hyll, Tisbe a Clorinda, wigiau melyn lemwn a phinc llachar.

Mae’r colur hefyd yn hynod arddullaidd, gyda’r dylunydd Joan Guillén yn darparu nodiadau penodol i dîm colur WNO. Mae’r rhain hyd yn oed yn manylu ar siâp a lliw’r aeliau a lliw’r plorod siâp diemwnt ar wynebau’r cantorion, a sut y mae Joan eisiau i’r cymeriadau hyn ddod yn fyw.

Gyda manylion fel y rhain, nid yw’n hawdd cael pawb yn barod mewn pryd. Mae tîm o bedwar o artistiaid wig a cholur WNO yn canolbwyntio ar y saith prif gymeriad i ddechrau, tra mae holl aelodau’r corws yn gwneud eu colur eu hunain gan ddefnyddio lluniau arddangos i greu edrychiad nodweddiadol La Cenerentola. Mae tîm colur proffesiynol WNO yna’n defnyddio’r 30 munud olaf cyn y sioe i dwtio colur aelodau’r Corws a sicrhau bod y wigiau a’r plorod yn y mannau cywir.

Cefnogir cynhyrchiad y tymor hwn o La Cenerentola yn hael gan Gyfeillion WNO. Wrth i ni ddechrau paratoadau ar gyfer ein cynyrchiadau yn 2019-2020 gallai eich cefnogaeth ein helpu i barhau i gynhyrchu operâu ysblennydd yng Nghymru, Lloegr ac ar draws y byd. Drwy gyfrannu £50 yn unig y flwyddyn, gallai eich cefnogaeth hefyd ein helpu i ddarparu cyngherddau cerddorfaol i selogion cerddoriaeth a darparu prosiectau i ysgolion er mwyn meithrin cenedlaethau’r dyfodol o berfformwyr ifanc talentog.
Dewch yn Gyfaill WNO. Byddwch yn rhan o’n stori ni.