Newyddion

Y tu ôl i’r llenni o Rhondda Rips It Up! gyda’r libretydd Emma Jenkins

1 Mehefin 2018

A fyddech chi’n hoffi gwybod mwy am gefndir ein cynhyrchiad Rhondda Rips It Up!? Mae’r libretydd Emma Jenkins wedi ysgrifennu blog diddorol iawn sy’n dechrau drwy edrych ar y cysyniad gwreiddiol tu ôl i’r sioe ac yna yn dilyn y broses hyd at yr ystafell ymarfer.

 Mae stori Emma yn dechrau gyda chomisiynu’r gwaith, ac yn edrych ar sut aeth hi ati i ymchwilio hanes a stori anhygoel, ond anhysbys Margaret Haig Thomas.

Ar hyd y ffordd, mae hi’n darganfod rhai ffeithiau a lluniau gwych ac yn derbyn tystiolaethau gan deulu a chyfoedion Margaret sy’n rhoi darlun unigryw o fywyd y swffragét fel menyw, entrepreneur ac ymgyrchydd.

Mae yna hefyd weledigaethau diddorol i’r ffordd y daeth y cynhyrchiad ynghyd a’r ffordd mae Emma fel libretydd ac Elena Langer fel cyfansoddwr wedi uno i greu cynhyrchiad newydd sbon sy’n cyfuno arddulliau o gerddoriaeth gan gynnwys opera, opereta, neuadd gerddoriaeth, cabaret a chomedi gerddorol.

Os hoffech ddarganfod mwy am Rhondda Rips It Up! yn benodol, neu i ddarganfod sut mae gwaith newydd sbon yn dwyn ffrwyth, dyma gyfle gwych i archwilio beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni.

Cyd-ysgrifennodd Emma Jenkins y libreto ar gyfer In Parenthesis WNO a berfformiwyd yn 2016 ac fe gyfansoddodd Elena Langer Figaro Gets A Divorce a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yr un flwyddyn.