Yn ystod yr haf, lansiodd Opera Cenedlaethol Cymru ddwy gyfres newydd o bodlediadau; The O Word sy'n cael ei chyflwyno gan Gareth Jones, a Cipolwg sy'n cael ei chyflwyno gan Lorna Prichard yn Gymraeg. Ar ôl sgwrsio â Gareth, bu i ni gysylltu â Lorna i ddysgu mwy amdani, ei hoffter o opera a beth i'w ddisgwyl o Cipolwg.
Dywedwch wrthym am eich cefndir a sut y daethoch yn rhan o bodlediad Opera Cenedlaethol Cymru.
Rwy'n gomedïwr a newyddiadurwr llawrydd - roeddwn yn arfer gweithio fel gohebydd newyddion i ITV Wales. Rwyf erioed wedi bod yn gefnogwr brwd o'r theatr, yn enwedig opera. Cefais fy nghyflwyno iddo o oedran ifanc oherwydd roedd fy mam yn ei fwynhau'n arw. Rydym wedi mynychu cymaint o operâu gyda'n gilydd dros y blynyddoedd. Felly, pan ofynnodd WNO a fyddai gennyf ddiddordeb mewn cyflwyno podlediad opera iddynt, roeddwn wedi gwirioni'n lân.
Yn eich barn chi, beth fydd pobl yn ei fwynhau am Cipolwg?
Rwy'n gobeithio y byddwch yn teimlo eich bod yng nghwmni ffrind. Yn gyntaf, rwy'n siarad am opera y bu i mi fynd i'w gweld gyda fy mam neu ffrind (ar hyn o bryd rydym yn gwylio operâu ar-lein). Yna rwy'n cyfweld canwr opera neu rywun sy'n gweithio yn y diwydiant. Gall y sgwrs gynnwys argymhellion Netflix, iechyd meddwl a sut beth yw gweithio yn y celfyddydau. Yn olaf, mae Dramaturg WNO Elin Jones yn gofyn cwestiynau i mi yn seiliedig ar yr opera sy'n cael ei thrafod. Rwyf wedi dysgu sawl ffaith ddiddorol ar hyd y daith.
Dywedwch wrthym am gynhyrchiad opera sydd wedi serennu o'ch safbwynt chi.
Y tro cyntaf, gwelais La traviata. Rwy'n gwybod ei bod yn un boblogaidd, ond sut all unrhyw un beidio â'i hoffi? Gwelais gynhyrchiad WNO David McVicar yn 2009. Euthum gyda fy mam, cariad a'i ffrind. Cefais fy swyno gan Violetta a'i hysbryd, angerdd a bregusrwydd anhygoel. Mae hefyd yn ddewr, yn brwydro salwch y mae'n gwybod y bydd yn ei lladd ac yn mentro ar gariad, dim ond i'w aberthu. Bu i mi lefain bedair gwaith. Ar ôl iddi orffen, rwy'n cofio edrych ar fy nghariad ac nid oedd wedi cynhyrfu o gwbl. Gwyddwn bryd hynny nad oeddem yn gweddu i'n gilydd. Roedd ei ffrind fodd bynnag yn sychu ei ddagrau hefyd - dylwn fod wedi'i ddewis ef.
Pa bennod hyd yma oedd eich uchafbwynt?
Byddwn i'n dweud y bennod gyntaf, pan gefais gwrdd â Carlo Rizzi, mae wedi bod yn arwr i mi ers amser maith. Mae'n ddoniol a chlên. Ond mae pawb yr wyf wedi cwrdd â nhw hyd yma wedi bod yn glên iawn. Mae un soprano ifanc, Fflur Wyn o Bennod Saith, wedi addo mynd â fi o gwmpas rhai o siopau elusen gorau Llundain. Gwnaeth Gwyn Hughes Jones rai argymhellion Netflix a llyfrau gwych ym Mhennod Chwech a chefais gipolwg difyr ar gyfarwyddo opera gan Angharad Lee ym mhennod 10. Rwy'n credu mai'r hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf yw cael mewnwelediad go iawn i sut beth yw gweithio ym myd opera ond hefyd dod i adnabod nhw fel pobl go iawn hefyd.
I wrando ar yr uchafbwyntiau hyn a gwylio'r penodau diweddaraf, gwrandewch ar Cipolwg a chadwch lygad am y penodau nesaf.