Newyddion

Manteision Canu Corawl

23 Mawrth 2023

Trwy gydol hanes, mae canu corawl wedi bod yn rhan annatod o opera a chreu cerddoriaeth ac mae wedi bod wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud yma yn Opera Cenedlaethol Cymru ers i ni gael ein ffurfio yn y 1940au. Mae ymchwil nawr yn dangos ei fod o les i’ch iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl. Dyma rai o’n hoff resymau pam y dylech gymryd rhan mewn canu corawl.

Mae’n ysgogi’r ymennydd – mae bloeddio canu eich hoff alawon yn gallu helpu i ryddhau cemegau fel endorffinau sy’n rhoi teimlad da a lleddfu straen a gorbryder drwy godi’r hwyliau. Canfuwyd hefyd bod canu corawl o gymorth i wella’r cof ac mae’n cael ei ddefnyddio fel modd hwyliog a therapiwtig o gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, ac mae hynny’n rhywbeth rydyn ni wedi’i weld trwy Gôr Cysur WNO, a lansiwyd gyntaf yn Abertawe yn 2019.

Ymhlith y manteision niferus i iechyd corfforol, mae gwell anadlu ac osgo, defnyddio’r cyhyrau craidd ac annog anadlu dyfnach. Rydym wedi gweld y manteision hyn dros ein hunain trwy raglen Lles gyda WNO sydd wedi profi, hyd yn oed tra bydd rhywun yn canu ac yn cael hwyl, ei bod yn bosib lleddfu symptomau niweidiol COVID Hir drwy osgoi ymateb panig yr ymennydd pan fyddant yn fyr eu gwynt.

Mae ymdeimlad o gymuned a pherthyn yn allweddol i’n llesiant. Mae canu yn gallu’ch helpu chi i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd y byddwch chi’n eu gweld yn rheolaidd, a gallwch chi gyflwyno llawer o ddigwyddiadau newydd i’ch bywyd y gallwch edrych ymlaen atynt, gan gynnwys cyngherddau, cystadlaethau a theithiau, sy’n tueddu i fod yn nodwedd gyson yn y calendr corawl.

Mae’n weithgaredd cerddorol y gall pawb gymryd rhan ynddo, waeth beth fo’ch profiad blaenorol neu’ch gallu. Mae canu gyda’n gilydd yn golygu gwrando ar ein gilydd a gweithio i greu sain gyfunol, ble gallwch chi ganu’n braf heb ofni cael eich barnu. Mae yna nifer o wahanol fathau o grwpiau canu, o Gorau Meibion a chorysau symffonig mawr i gorau capeli, grwpiau a cappella, corau gospel a chymdeithasau theatr gerdd.

Yn bwysicaf oll, efallai, mae canu mewn côr yn ffordd ardderchog o fynegi’ch teimladau a dysgu pethau newydd am eich hunan. Mae’n gallu bod yn ffordd o gysylltu â’ch gwreiddiau hefyd, yn gyfle i fwynhau canu yn eich iaith frodorol a chryfhau eich gwerthfawrogiad o nifer o ddiwylliannau gwahanol. Mae nifer o wledydd yn ystyried bod canu corawl yn rhan hanfodol o’u treftadaeth ddiwylliannol, ac mae Cymru’n un o’r rheiny, gyda’n hanes toreithiog o ganu corawl yn dyddio’n ôl dros ganrifoedd maith.

Gan fod y cysylltiad rhwng corau a Chymru mor gryf, dyna ydy sail Blaze of Glory!, sef cynhyrchiad newydd sbon WNO lle gwelwn gymuned lofaol yn cryfhau yn dilyn trychineb wrth iddynt ailsefydlu’r Côr Meibion lleol.