Wrth i Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru gamu i’w gyfnod mentrus newydd, rydym wedi cydweithio â’r gweithwyr creadigol clodfawr o Gymru, Charlotte James a Clémentine Schneidermann yn Bleak Fabulous, i ail-ddychmygu opera drwy lens gyfoes Gymreig unigryw.

Caiff eu harddull nodweddiadol ei diffinio gan lliw, gobaith a hwyl, gan dynnu ar hunaniaeth, pobl, cymuned a chydweithrediad. Mae delweddau ymgyrch newydd hyn yn sinematig, yn bryfoclyd ac yn hynod nodedig - wedi’u dylunio i herio disgwyliadau o opera ac ehangu ei hiaith weledol.
Gyda delwedd arwr wedi’i chreu ar gyfer pob un o sioeau ein tymor newydd, mae’r delweddau hyn yn adlewyrchu estheteg gyfoes, mentrus a hardd ar gyfer for Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru, i Gymru a thu hwnt. Opera yw’r ffurf gelfyddyd ddeinamig, ac mae WNO ar flaen y gad fel y cwmni opera modern, amrywiol a blaengar ar gyfer yr 21ain ganrif.
Wrth i Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru gamu i’w gyfnod mentrus newydd, rydym wedi cydweithio â’r gweithwyr creadigol clodfawr o Gymru, Charlotte James a Clémentine Schneidermann yn Bleak Fabulous, i ail-ddychmygu opera drwy lens gyfoes Gymreig unigryw.
Dywedodd Clémentine: “Un o’r uchafbwyntiau oedd gweld bron i 20 o fenywod yn cerdded ar y set wedi gwisgo fel priodferched. Roedd yn deimlad swreal, llond y lle o harddwch a hyfrydwch.
“Pan ddaeth bron i 40 o bobl at ei gilydd ar y set, a phawb wedi gwisgo ar gyfer y llun, aeth yr ystafell yn hollol dawel. Roedd pawb wedi’u rhyfeddu gan yr olygfa roeddem wedi ei chreu gyda’n gilydd. Er mai aelodau o staff WNO oedd y modelau'n hytrach nag actorion proffesiynol, fe wnaethon nhw ymgorffori eu cymeriadau’n berffaith, fel eu bod wedi camu allan o oes arall."

Dywedodd Cyd-Gyfarwyddwyr Cyffredinol Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru, Adele Thomas a Sarah Crabtree: “Mae’r tymor 26/27 yn rhyw fath o aileni i WNO. Pan wnaethom ni gysylltu â Charlotte James a Clémentine Schneidermann i fod yn rhan o foment mor bwysig, ni allem gredu eu bod wedi cytuno! Mae eu hymateb i’n briff yn fwy nag y gallem erioed fod wedi breuddwydio amdano. Rydym mor falch o bob un o’n staff, gyda 63 ohonynt yn cael eu cynrychioli yma yn y lluniau hyn ohonynt.
“Wrth i ni nodi 80 mlynedd, nid ydym yn edrych yn ôl - rydym yn camu ymlaen tua’r dyfodol, yn llawn antur, mwynhad ac elfen o chwyldro, gyda’r uchelgais o wneud i opera deimlo’n bwysig, yn gyfoes, ac yn fyw i bawb am yr 80ain mlynedd nesaf a thu hwnt.”

Dywedodd Clémentine: “O’r adran wisgoedd i ddyluniad y set, cawsom gefnogaeth ddiddiwedd a phosibiliadau creadigol.
“Roeddwn i’n arbennig o hoff o'r llwyfan roedd y tîm WNO wedi'i greu ar gyfer The Anonymous Lover a’r gorchuddion melfed, y ffrwythau a’r blodau. Roedd eu gwylio nhw'n yn dod â phopeth at ei gilydd yn wirioneddol ysbrydoledig."
Mae’r cydweithrediad yn cyflwyno Opera Cenedlaethol Cymru, nid yn unig fel cwmni o artistiaid, ond hefyd fel nerth creadigol cyffredin gyda brwdfrydedd o’r newydd. Roedd gweld staff ar draws y sefydliad yn cymryd rhan yn y sesiwn dynnu lluniau’n foment ysbrydoledig y mae pawb ohonom yn falch o’i rhannu. Daeth y profiad â llawer o lawenydd inni, ac ychwanegodd ymdeimlad o berchnogaeth bersonol i dymor yr ydym yn teimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan ohono.
Ychwanegodd Charlotte: “Roedd gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn wych. Mae ganddyn nhw dîm anhygoel o artistiaid yn gweithio y tu ôl i’r llenni, ac roedd cydweithio gyda’u hadrannau gwisgoedd, set, a cholur yn teimlo fel estyniad naturiol o'n harferion ein hunain.
“Mae ein gwaith bob amser ynghlwm wrth wisgoedd cyfnod, elfennau theatrig ac ysblander. Roedd gwneud defnydd o wneuthurwyr a dylunwyr gwisgoedd mor fedrus yn ein galluogi i fynd â hynny gam ymhellach."

Mae gwaith Charlotte James a Clémentine Schneidermann yn cael ei ddathlu yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales ar hyn o bryd, mewn arddangosfa wefreiddiol, a gynhelir hyd at 2027.