Er bod y coronafeirws wedi chwalu gobeithion Opera Cenedlaethol Cymru o lwyfannu cynhyrchiad newydd o Bluebeard’s Castle gan Bartók yn ystod ein Tymor yr Haf 2020, hoffem gynnig golwg manwl i chi o'r opera ddiddorol a phwerus hon.
Ystyrir Béla Bartók (1881-1945) yn un o gyfansoddwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Mae Bartók, ynghyd â Franz Liszt, yn cael eu cysidro fel cyfansoddwyr gorau Hwngari.
Roedd Bartók yn ddawn gerddorol werthfawr. Cychwynnodd gyfansoddi yn naw oed, a pherfformiodd am y tro cyntaf i’r cyhoedd pan oedd yn 11 oed. Hyfforddodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Budapest lle cafodd ei ddylanwadu'n fawr gan gerddoriaeth Richard Strauss a Claude Debussy. Yn ogystal, roedd Bartók â diddordeb mewn traddodiadau cerddoriaeth werin Hwngaraidd a Magyar (sipsi), a gwelir y themâu hyn wedi'i phlethu i mewn i'w gerddoriaeth yn aml.
Ysgrifennwyd Duke Bluebeard’s Castle (A kékszakállú herceg vára) rhwng 1911 ac 1917. Y libretydd oedd Béla Balázs, bardd a oedd yn gyfaill i Bartók ac roedd y stori’n seiliedig ar La Barbe-bleue gan Charles Perrault, stori dylwyth teg Ffrengig o'r 17eg ganrif. Ar 24 Mai 1918, perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Hwngaraidd Brenhinol, Budapest. Ystyrir yr opera yn ddarn o Fynegiant Modernydd arwyddocaol. Mae'r stori yn adlewyrchu ar naratif poblogaidd yn theatrau fin de siècle ar draws Ewrop: y brwydr rhwng y ddau ryw - gan fod merched wedi cychwyn herio'r confensiynau o fewn cymdeithas ar raddfa fawr. O fewn Bluebeard ceir tebygrwydd â straeon alegorïaidd eraill am chwilfrydedd merched drwg eu tynged megis Eve, gwraig Lot, Psyche a Pandora. Dywedir fod y gwaith yn hynod bersonol, ac wedi'i wreiddio'n ddwfn ym mherthynas cymhleth Bartók â merched. Yn ogystal, mae'r opera yn cael ei gweld fel astudiaeth o ddyn anniddig: obsesiynol, brwnt a hunan-dosturiol. Mae'r opera wedi'i gosod mewn castell sydd yn cynnwys saith drws sydd dan glo. Mae pob un yn agoriad i hanes personol, ffyrnigrwydd a meddwl cythryblus Bluebeard, a thrwy gydol yr opera mae ei wraig newydd a thrancedig, Judith, yn erfyn am yr allweddau i'w hagor.
Wedi Bluebeard’s Castle, cafodd weddill gyrfa gerddorol Bartók ei heffeithio gan aflonyddwch gwleidyddol, goblygiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf, chwyldroadau a datblygiad comiwnyddiaeth yn Hwngari ac Ewrop. Cafodd ei gynhyrfu'n fawr gan esgyniad yr Almaen Natsiaidd a bygythiad Rhyfel Byd arall ar y gorwel. Yn groes i'r graen, bu iddo ymfudo i America yn 1940. Er iddo gael ei siomi'n fawr gan wleidyddiaeth a sefydliadau ei wlad, parhaodd i fod yn angerddol at ddiwylliant Hwngaraidd a phobl ei famwlad. Er i Bartók ei chael hi'n anodd ymdopi â bywyd yn Efrog Newydd, mae'r gerddoriaeth a gyfansoddodd yno ymysg ei fwyaf poblogaidd ac oesol. Yn 1944 datblygodd lewcemia arno, a dirywiodd ei iechyd yn gyflym. Bu farw yn 1945, yn 64 mlwydd oed.
Bluebeard’s Castle oedd yr unig opera i Bartók ei chyfansoddi, ond mae ei dylanwad yn sylweddol. Mae’r sgôr awr-o-hyd hunllefus a chyffrous yn parhau i fod yn destament i gelfyddyd Bartók hyd heddiw. Wedi dymchwel comiwnyddiaeth yn Hwngari yn yr 1980au hwyr, cafodd gweddillion Bartók eu cludo o'r man y claddwyd yn Efrog Newydd yn ôl i Budapest, lle cynhaliwyd angladd gyhoeddus, i goffau'r cyfansoddwr gwych.