Newyddion

Brno a Morafia: ysbrydoliaeth Janáček

15 Mai 2020

'Mae gen i un pleser mawr', dywedodd Janáček mewn llythyr i Gymdeithas Theatr Genedlaethol Brno yn 1916. 'Mae Morafia ei hun yn ddigon o ysbrydoliaeth i mi. Mor gyfoethog yw ei ffynonellau.'

Yn un o gyfansoddwyr operatig mwyaf gwreiddiol yr ugeinfed ganrif gynnar, mae cerddoriaeth Janáček wedi'i gwehyddu yn nefnydd hanes WNO. Cafodd Leoš Janáček ei eni ar 3 Gorffennaf 1854 ym mhentref Hukvaldy yng Ngogledd Morafia, sydd bellach yn rhan o'r Weriniaeth Tsiec. Fel nifer o fechgyn talentog eraill o deuluoedd mawr tlawd, daeth Leoš yn fachgen côr yn 11 mlwydd oed ym Mynachlog Awstinaidd Brno. Ar ôl astudio ymhellach yn Ysgol Organ Prague, yn ogystal ag ysgolion cerddoriaeth Leipzig a Fienna, dychwelodd i Brno a sefydlodd Ysgol Organ yn 1881, a gyfarwyddwyd ganddo hyd at 1919, pan ddaeth yn Ysgol Gerddoriaeth Brno. Sefydlodd Janáček hefyd ei gylchgrawn cerddorol ei hun yn 1884, Hudební listy, lle'r oedd yn ysgrifennu erthyglau ynghylch theori cerddoriaeth ac adolygiadau o operâu'r Theatr Genedlaethol Brno newydd, sefydliad parhaol cyntaf y ddinas ar gyfer dramâu llwyfan ac operâu Tsieceg.

Fel cenedlaetholwyr cerddorol eraill, treuliodd Janáček peth o'i flynyddoedd cynnar yn casglu caneuon gwerin. Mae sawl enghraifft o'i waith cynnar, gan gynnwys ei ail opera, The Beginning of a Romance, a'r Lachian Dances mwy adnabyddus, yn ymgorffori'n uniongyrchol alawon gwerin Morafaidd mewn strwythurau mwy. Roedd rhaglen perfformiad cyntaf Jenůfa yn y Theatr Genedlaethol, Brno ar 21 Ionawr 1904 yn honni ei bod 'yr opera gyntaf sy'n gyson eisiau bod yn Forafaidd’.

O 1919 tan ei farwolaeth yn 1929, František Neumann oedd pennaeth opera yn y theatr, ar ddechrau cyfnod mwyaf cyffrous hanes operatig Brno. Yn ystod 10 mlynedd gyntaf annibyniaeth Tsiecoslofacia cafwyd 101 o operâu, gyda hanner yn newydd i'r repertoire, gan gynnwys 26 o operâu Tsiec. O Katya Kabanova (1921) roedd pob un o berfformiadau cyntaf Janáček yn Brno.

Cyflwynwyd Medal Janáček i'n Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Tomáš Hanus yn dilyn perfformiad o gynhyrchiad WNO o From the House of the Dead yng Ngŵyl Janáček yn Brno yn 2017, sy'n ei gydnabod fel perfformiwr rhagorol yn hyrwyddo gwaith y cyfansoddwr. Dyma ef yn dweud wrthym ychydig am ei dref enedigol, Brno, lle mae'n treulio'r cyfnod clo ar hyn o bryd.

'Brno' - mae'r gair hwn yn anodd ei ynganu - ac nid i bobl nad ydynt yn siarad Tsieceg yn unig. (Tair cytsain!) Pe bawn i'n gyfansoddwr, mae'n debyg na fyddwn yn defnyddio'r gair hwn yn unrhyw un o'm hoperâu. Ond defnyddiodd un o'r cyfansoddwyr operatig gorau erioed, Leoš Janáček, y gair 'Brno' yn ei opera The Cunning Little Vixen. Mae'n ymddangos mewn un frawddeg fer iawn (arferai cerddorion Brno wneud hwyl am y peth, gan ddweud, diolch i Janáček, mai un aria yn unig sydd am Brno, yn cynnwys tri gair: ‘Je v Brně’ - ‘Mae ef yn Brno’).

Pum degawd yn ddiweddarach, byddwn yn mynd heibio i dŷ Janáček yn eithaf aml gyda fy rhieni gan fod fy nheulu yn byw ar yr un stryd - mae'r tŷ bellach wedi ei droi'n Amgueddfa Janáček. Rwy'n cofio fy nheimladau fel bachgen ifanc; pa mor ddiddorol oedd profi cerdded yr un llwybr â chyfansoddwr The Cunning Little Vixen.

Mae’r sefyllfa bresennol wedi rhoi rhywfaint o amser ychwanegol i mi ddod o hyd i dŷ'r Coedwigwr go iawn oThe Cunning Little Vixen (a oedd yn seiliedig ar stori wir a gafodd ei thrawsnewid gan yr awdur Rudolf Těsnohlídek i gyfres gomig ar gyfer papur newydd lleol). Drws nesaf i'r tŷ mae ffynnon Leoš Janáček. Ar y dde, gallwch weld dyfyniad o fonolog olaf y Coedwigwr: ‘Jak je les divukrásný’ (Mor hardd yw'r goedwig...) Yn ystod fy ymweliad, cefais fy synnu'n llwyr gan faint o bobl a ddaeth i'r ffynnon hon i dynnu'r dŵr eithriadol o lân hwn i'w ddyfod yn ôl i'w cartrefi. Am symbolaidd!