Nid yw Candide yn opera arferol. Byddai rhai yn ei disgrifio fel cyffrous, eraill gwirion bost, ingol neu galonogol. Rydyn ni’n bersonol yn credu bod pob un o’r disgrifiadau hyn yn addas, a mwy! Ond beth sydd gan y cynhyrchiad rhyfeddol a hyfryd hwn i’w gynnig i chi? Beth am edrych yn fanylach.

Antur gerddorol
Mae Candide yn antur ymhob agwedd, ac nid yw’r gerddoriaeth yn eithriad. Wedi’i chyfansoddi gan Bernstein, mae ganddi’r teimlad o sioe gerdd, wrth gadw elfennau o operetta a jazz ar yr un pryd. Mae’r caneuon hefyd yn ysgogi amrywiaeth eang o emosiynau, rhai fel Oh, Happy We ac You Were Dead, You Know yn gwneud i ni wenu a chwerthin, tra bod ariâu fel Nothing More Than This yn creu tristwch dwfn. Gwrandewch am Make Our Garden Grow, diweddglo hardd y daith gerddorol hon, a all ddod â deigryn i’ch llygad.
Adrodd stori weledol
Un o rannau mwyaf unigryw y cynhyrchiad hwn yw’r animeiddiadau, sydd wedi’u creu â llaw gan y darlunydd a’r animeiddiwr Grégoire Pont. Defnyddir y rhain drwy gydol y perfformiad, wedi’u taflunio ar gadwyni sy’n hongian o’r llwyfan, ac yn dod â’r stori’n fyw yn weledol mewn manylder eithriadol. Yn aml, mae’r animeiddiadau hyn yn gweithredu fel propiau hanfodol a rhannnau o’r set, er enghraifft ceir a thai, mae’r perfformwyr yn ymwneud â hwy fel pe baent yn camu i fyd animeiddiedig. Mae wirioneddol yn hudolus!

Gwisgoedd trawiadol
Mae’r gwisgoedd yn Candide yn anhygoel! Maent yn weithiau celf arloesol, wedi ail-bwrpasu a thrawsnewid hen ddillad. Mae un ffrog a wisgir gan Yr Hen Wraig, er enghraifft, wedi’i gwneud yn gyfan gwbl o grysau o siopau elusen. Hefyd, mae ymdeimlad pync yn y gwisgoedd, sy’n herio a chyfuno gyda ffasiwn y 18fed ganrif. Meddyliwch am ddenim, rhwyll, diamante, staesiau ac esgidiau sawdl uchel…
Sglein Broadway
Os ydych chi’n un sy’n hoff o theatr gerdd a dawns, byddwch wrth eich bodd gyda Candide! Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys criw o wyth o ddawnswyr talentog sy’n dod ag egni a swyn ychwanegol i’r perfformiad. Ynghyd â Chorws WNO ac artistiaid gwadd, sydd hefyd ynghlwm â’r dawnsio, maent yn ychwanegu rhywfaint o Broadway i’r cynhyrchiad.
Neges bwysig
Tra bod plot Candide yn ddryslyd ac ar adegau’n wefreiddiol, mae neges bwysig glir wrth ei gwraidd… Mae’r byd yn amherffaith, a hefyd yr hil ddynol, ac rydym oll yn wynebu trafferthion a phoen. Fodd bynnag, dylem geisio gwneud y gorau o’n bywydau, a gofalu am ein gilydd. Mae’r neges hon yn atgof pwerus o’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.
Gyda’r holl gynnwys hyn, bydd Candide yn wefreiddiol i’w gwylio. Ac er nad ydym yn byw yn y Byd Gorau Posibl, rydym ni’n credu ei bod yn ymgeisydd cryf am y teitl y Sioe Orau Posibl!
Fyddwch chi yno i’w gweld? Cewch weld Candide yng Nghaerdydd, Southampton