Newyddion

Carlo Rizzi a Madam Butterfly

10 Awst 2021

Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i'r llwyfan yn Hydref 2021 a pha ffordd well na gyda chynhyrchiad newydd o Madam Butterfly? Mae ein timau creadigol ac artistig yn brysur yn adeiladu, gwneud ac ymarfer ar gyfer y cynhyrchiad ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd at yr hyn rydym ni'n ei wneud orau - perfformio opera fyw.

Mae Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi yn adnabod opera drasig Puccini yn dda. Yma mae'n rhannu gyda ni'r hyn mae'n ei olygu iddo i weithio ar un o operâu mwyaf y cyfansoddwr.

‘Rwyf wedi arwain Madam Butterfly sawl gwaith yn ystod fy mywyd, ac ni fyddaf yn blino ar wneud hynny. Pam? Oherwydd y ffordd mae Puccini yn darlunio Butterfly gyda'i gyffyrddiadau cerddorol mor onest, diamwys a chlir y bydd bob amser yn teimlo'n fodern ac yn berthnasol i mi.  Yn y sawl cynhyrchiad gwahanol rwyf wedi eu harwain, mae pob cyfarwyddwr llwyfan wedi tynnu sylw at agweddau gwahanol ar bersonoliaeth Butterfly: y ferch ifanc sy'n edmygu'r 'gwaredwr' Pinkerton, y ferch a gafodd ei gadael a'r fam sengl, y person cywilyddus sy'n lladd hi ei hun am nad yw hi wedi gallu cadw 'anrhydedd' yn ei bywyd.

Yn y tair agwedd hon ar gymeriad Cio-Cio-San, gallwn weld yn barod pa mor real a pherthnasol yw themâu'r ddrama hon, a'r ffordd y gall pob cenhedlaeth newydd o ddilynwyr opera uniaethu â nhw.

Ond hoffwn rannu pam, fel cerddor, fy mod i'n credu bod yr opera hon mor emosiynol pwerus. Y gwir yw fod popeth rydyn ni erioed wedi'i weld wedi cael ei amlygu mewn unrhyw gynhyrchiad yno'n barod, ac mae'n cael ei roi i ni drwy'r gerddoriaeth yn gyntaf. Edrychwch ar y frawddeg dorcalonnus a syml yn neuawd yr act gyntaf, gydag unawd feiolin ac ychydig o offerynnau yn unig yn cyfeilio, sy'n cyflwyno geiriau Butterfly ‘Vogliatemi bene, un bene piccolino, un bene da bambino’ (Câr fi gyda chariad bach, fel rwyt ti'n caru plentyn): dyma ochr i Butterfly sy'n ymroi ei hun yn llwyr i Pinkerton, er bod arni ofn gollwng gafael. Wrth wrando ar y gerddoriaeth, does dim amheuaeth mai gwir gariad yw hyn iddi hi, ac wrth ymddiried yn llwyr ynddo, mae hi'n rhoi popeth sydd ganddi.

Yna, wrth fynd ymlaen i'r ail act, pan fydd hi'n rhuthro allan mewn tymer ac yn dychwelyd gyda'r plentyn, gan weiddi ar y Consul ‘e questo? E questo? Questo potrà forse scordarlo?’ (a'r un yma? A'r un yma? Efallai y bydd ef hefyd yn anghofio am ei fab?), nid yw Puccini yn defnyddio harmonïau cymhleth a allai ddisgrifio dioddefaint mam yn dda. Yn hytrach, mae'n rhoi arpeggio cryf yn C fwyaf gyda thrwmpedau a gweddill y gerddorfa. Dyma gerddoriaeth sy'n herio. Mae'n ymwthgar, ac yn portreadu merch sy'n fodlon sefyll yn gadarn yn erbyn pawb, ac sy'n falch o ddangos ffrwyth y cariad o'r act gyntaf.

Yn y drydedd act, rwyf bob amser yn cael ias i lawr fy nghefn wrth arwain geiriau Butterfly i Kate Pinkerton: ‘A lui lo potrò dare, se lo verrà a cercare’ (Rhoddaf y plentyn iddo, ond dim ond os y daw i chwilio amdano). Nid yw am roi ei phlentyn i'r fenyw sydd wedi dod i'w bywyd heb wahoddiad, ac mae'n ei gwthio hi i ffwrdd. Wrth i Butterfly ganu, ceir cyfeiliant gyda chordiau trymion, sy'n cyfleu gorymdaith i ddienyddiad. Mae Puccini yn awgrymu ei bod wedi deall mai'r unig ffordd o gynnig bywyd gwell i'w phlentyn yw diflannu. Cariad balch mam, nid y cywilydd o gefnu, sy'n ei harwain i ladd ei hun. Mae'r hyn oll yn y sgôr gerddorol. Dyma gelfyddyd cerddoriaeth sy'n adrodd storiau ac yn datgelu cymeriadau; dyma hud Puccini ac rwy'n gobeithio ei rannu gyda chi.’