Newyddion

Carmen y gorffennol a'r presennol WNO

16 Medi 2019

Ymddangosodd opera hynod boblogaidd Bizet, Carmen am y tro cyntaf yn repertoire Opera Cenedlaethol Cymru ym 1947; ein hail dymor yn Theatr Tywysog Cymru. Wrth i ni baratoi i berfformio ein chweched cynhyrchiad newydd; rydym yn edrych yn ôl ar brif ferched WNO, gan ddechrau gyda'r brydferth Zoe Cresswell.



O Rymni, de Cymru, dechreuodd Zoe Cresswell ganu gydag WNO fel amatur. Yn dilyn astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ochr yn ochr â Clara Novello-Davies ac Ivor Novello; roedd hi wedi perfformio ym mherfformiad cyngerdd cyntaf WNO tair blynedd ynghynt.

Heddiw, caiff ei hadnabod fel y Carmen Gymreig - a anododd ei sgôr yn Gymraeg hefyd - wedi chwarae'r rhan yn opera byd-enwog Bizet am lawer o flynyddoedd.

Dychwelodd y cynhyrchiad ym 1949 a dilynodd pedwar cynhyrchiad newydd rhwng 1967 a 1997.


Cynyrchiadau Newydd

1947

1967

1983

1990

1997

2019

Carmen

Zoe Cresswell

Joyce Blackham

Jennifer Jones

Jean Stilwell &
Kate McCarney       

Patricia Bardon &
Clare Shearer

Virginie Verrez


Ymunodd y fezzo-soprano o Brydain, Joyce Blackham ag WNO ym 1967 ar gyfer cynhyrchiad delfrydyddol John Moody. Fel Carmen amlycaf Prydain ei dydd, byddai pobl yn tyrru yn eu cannoedd i weld ei dehongliad o'r eneth danbaid.

Dywedodd un adolygwr ‘Her flagrant sex-kitten act, claws well out and tail a-swish, is just what is needed. When a role is stormed frontally by a singer with neither doubts nor fears, the only thing to do is sit back and applaud.'

Rhychwantodd ei gyrfa yn WNO gyfnod o bedair blynedd lle perfformiodd hefyd Amneris yn Aida a Rosina yn The Barber of Seville.


Ar ôl 13 mlynedd o absenoldeb, dychwelodd Carmen i brif lwyfan WNO ym 1983 pan gyflwynodd Lucian Pintilie gynhyrchiad theatraidd bywiog, ond eto'n 'ddireidus' ar brydiau, a chyffrous, yn serennu'r fezzo-soprano o America, Jennifer Jones fel y brif ferch danbaid. 

Rhannodd y fezzo-soprano o Ganada, Jean Stilwell a'r fezzo-soprano o Iwerddon, Kate McCarney y rôl ar gyfer cynhyrchiad Andre Engel ym 1990 - roedd y cynhyrchiad hwn yn nodi perfformiad cyntaf Jean Stilwell yn Ewrop.

Rhannwyd y rôl am yr eildro ym 1997, pan chwaraewyd y rhan gan y fezzo-soprano o Iwerddon, Patricia Bardon a'r fezzo-soprano o'r Alban, Clare Shearer mewn cywaith â Scottish Opera - y tro cyntaf i'r opera gael ei pherfformio gan WNO yn ei hiaith wreiddiol. 



Carmen ddiweddaraf WNO, yw'r fezzo-soprano o Ffrainc Virginie Verrez, sy'n gwneud ei hymddangosiad cyntaf gyda'r Cwmni ac yn chwarae'r rhan am y tro cyntaf yng nghynhyrchiad newydd Jo Davies oCarmen. Wrth aros yn ffyddlon i'r stori draddodiadol ym mhob ystyr, mae'r cynhyrchiad hwn yn ymchwilio i elfennau rhywiol a chymdeithasol y darn drwy lygaid cyfoes.

Gyda llais sydd wedi cael ei ddisgrifio fel un ‘silvery [and] dark-hued’ ac ‘attractive throughout her range’ gan y New York Times, mae Virgine yn gyn-fyfyriwr Juilliard School Efrog Newydd, a hyd yn hyn, mae hi wedi perfformio gydag Wiener Staatsoper; Opera National de Paris; Glyndebourne a Festival d’Aix-en-Provence. 


Mae ein cynhyrchiad newydd o Carmen yn agor yng Nghaerdydd ar 21 Medi gyda pherfformiadau dilynol ar 28 Medi, 6, 10 Hydref. Bydd y cynhyrchiad yna'n teithio i Plymouth (19 Hydref); Llandudno (29 Hydref, 2 Tachwedd); Birmingham (1, 8 Tachwedd); Rhydychen (19, 23 Tachwedd); Southampton (26, 29 Tachwedd), gyda dyddiadau eraill yn ystod ein Tymor y Gwanwyn 2020, pan fydd y fezzo-soprano o America, Julia Mintzer yn perfformio'r brif rôl.