Mae Opera yn enwog am ei thriniaeth dreisgar o gymeriadau benywaidd; mae hyn yn amlach na pheidio yn arwain at y prif gymeriad yn ymddangos fel arwres drasig, y brif ran fenywaidd sy’n ‘dioddef o ddiffyg trasig sydd yn y pen draw yn achosi ei chwymp.’ Nid cymeriad un dimensiwn yn unig yw Carmen ac felly, mewn ffordd realistig iawn, mae ganddi ddiffygion ac mae'n gwneud camgymeriadau. O'r holl feiau hyn ei hystyfnigrwydd yw'r un sy'n arwain at ei chwymp yn y pendraw. Fodd bynnag, y diffyg hwn hefyd sy'n ei hannog i gael ei hystyried yn eicon ffeministaidd; ei gwrthodiad i blygu i gyfyngiadau disgwyliad cymdeithasol yw'r hyn sy'n ei rhyddhau ac yn ei rhwygo i lawr ar yr un pryd.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn diffinio ffeministiaeth fel, 'Mudiad neu ddysgeidiaeth sy’n argymell hawliau cymdeithasol, gwleidyddol, benywod ar sail cydraddoldeb rhywiau'. Mae Carmen yn aml yn cael ei beirniadu am y ffordd y mae hi'n trin menywod eraill yn yr opera fel bod yn anghytûn â gwerthoedd ffeministaidd. Dangosir hyn yn glir yn y ffordd y mae'n ymladd yn ddieflig gyda'i chydweithiwr, ond yr hyn y mae beirniaid i weld yn ei anghofio yw na wnaeth hi fradychu ei chydweithiwr a dweud wrth yr awdurdodau beth ddigwyddodd; Carmen ei hun sy'n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd.
Mae Carmen yn annibynnol yn rhywiol, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol; gwelwn hyn yn y ffordd mae hi'n cefnogi ei hun yn ariannol; o bosib yr unig gymeriad benywaidd dosbarth gweithiol mewn opera sy'n gwneud hynny. Yng nghynhyrchiad diweddaraf WNO fe’i gwelwn yn gwrthryfela yn erbyn y drefn ac yn brwydro dros ei hannibyniaeth, yn arweinydd naturiol, mewn un olygfa mae baner wedi’i stampio â'r gair liberté yn cwympo i lawr y tu ôl iddi yn ei fframio’n berffaith wrth iddi godi ei dryll yn yr awyr. Yn olaf, wedi ei rhyddhau’n gymdeithasol trwy ei safle o fewn y gymuned sipsiwn, mae hi’n gallu cymryd yn rhydd, ‘dros wlad, y bydysawd ac am gyfraith eich ewyllys eich hun.’
Rhyddid rhywiol Carmen yw’r hyn a gynhyrfodd y gynulleidfa wreiddiol ym 1875; mae ei gwrthodiad o ddyn am un arall yn cael ei ystyried yn anfaddeuol, er, trwy lens ffeministiaeth heddiw, mae safonau dwbl anlladrwydd dynion a menywod yn amlwg iawn. Nid yw’n mowldio i ddymuniadau José a dyma pam mae’n rhaid iddi farw; caiff ei llofruddio mewn cynddaredd cenfigennus wrth iddo weld dim ond yr hyn sy'n ddyledus iddo a'r hyn y mae'n credu bod ganddo hawl i'w gael.
Ond yna mae’r arwres drasig bob tro'n marw, a dyma beth mae Cyfarwyddwr Carmen, Jo Davies, yn ei gwestiynu yn ei chyflwyniad, ‘a fyddai diweddglo Bizet yr un peth, neu'n wahanol pe bai’n ysgrifennu'r opera heddiw?’ Yn ffyrnig ac yn ddewr tan y diwedd, hyd yn oed yn ei hiaith, ‘Nid wyf yn fenyw sy'n mynd i grynu o’i flaen,’ mae Carmen yn cyfiawnhau ei hun wrth wrthod dod yn ddioddefwr ymbilgar; yn herfeiddiol heb ofn marwolaeth. Nid oes unrhyw ariâu terfynol i Carmen - pan mae hi'n marw mae'n marw fel y gwnaeth fyw ei bywyd; yn eofn, yn eirwir a heb wylo.
Gallwch ddadlau bod Carmen yn eicon ffeministaidd neu'n arwres drasig ond yn y pen draw mae hi’n perthyn i’r ddwy elfen, oherwydd mewn cymdeithas batriarchaidd sydd i’w weld yn aml yn cosbi'r fenyw sydd am fynd ei ffordd ei hun, oni bai bod y byd yn newid; sut all ein harwresau ddewis ei llwybr ei hun?