Newyddion

Dathlu'r Pasg gyda Mozart

9 Ebrill 2020

Mae Mozart, un o ffefrynnau Opera Cenedlaethol Cymru, yn adnabyddus am fod yn dipyn o bartïwr a does dim amheuaeth y byddai'n defnyddio penwythnos y Pasg fel esgus i ddathlu.Gyda rhai o’r neuaddau cyngerdd gorau yn Ewrop a golygfeydd o'r mynyddoedd sy'n ddigon i lonni'ch calon a'ch cymell i ganu, Salzburg yw’r ddinas Alpaidd ddelfrydol. Felly, pwy oedd Mozart a sut fyddai ef wedi dathlu'r Pasg yn ei dref enedigol yn Awstria?

Disgrifiodd Leopold Mozart ei fab fel 'gwyrth a ganiataodd Duw ei eni'n Salzburg'. Mae'r tŷ lle ganwyd Wolfgang Amadeus Mozart ar 27 Ionawr 1756 bellach yn un o'r amgueddfeydd mwyaf poblogaidd yn y byd. Pan gafodd Mozart ei eni, roedd ei chwaer fawr, Nannerl, eisoes yn bianydd o fri. Cyflwynodd Leopold ei blant dawnus gerbron llysoedd tywysogaidd ledled Ewrop o 1762-1766.

Yn 1769, gwnaethpwyd Mozart yn Konzertmeister Llys Salzburg - golygodd hyn bod bachgen 13 oed yn gyfansoddwr ac arweinydd i dywysog archesgob un o brif dywysogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Bu ei deulu yn byw yn Getreidegasse yn Salzburg am 26 mlynedd, cyn symud i Sgwâr Makartplatz yn 1773.

Offeren yn  C Fwyaf yw un o weithiau mwyaf poblogaidd ac oesol Mozart. Rhoddwyd y teitl 'Offeren y Coroniad' arni yn dilyn perfformiad dan arweiniad Antonio Salieri yn Prague yng nghoroniad Leopold II fel Brenin Bohemia yn 1791, ond perfformiwyd yr Offeren am y tro cyntaf ar Sul y Pasg 1779 yng Nghadeirlan Salzburg. Yr hyfryd a thawel Agnus Dei a ysbrydolodd alaw aria yr Iarlles Almaviva, Dove Sono, yn The Marriage of Figaro gan Mozart.

Roedd Mozart yn byw mewn oes pan oedd dathliadau'n gynyddol ramantaidd a chymdeithasol, ac yn y 18 ganrif byddai'r Pasg yn cael ei ddathlu'n eang. Mae'n debyg mai Cwningen y Pasg yw un o'r symbolau mwyaf adnabyddus o'r gwanwyn ac mae'n deillio o'r traddodiad Almaenaidd. Byddai Cwningen y Pasg (Osterhase) ac wyau'r Pasg wedi bod o gwmpas yn nyddiau Mozart.

Yn Awstria, mae dau fath o wyau'r Pasg - rhai siocled a rhai addurnedig, sef wyau go iawn sydd wedi'u chwythu'n ofalus ymlaen llaw er mwyn cael cragen wag. Yna cânt eu paentio a'u haddurno, cyn eu hongian yn y ffenestri, eu gosod ar blanhigion ac ar glystyrau o frigau i greu Osterbaum (Coeden y Pasg).

Cynhelir Marchnad y Pasg draddodiadol Salzburg yn yr Amgueddfa Awyr Agored, ond byddech yn fwy tebygol o ddod o hyd i Mozart yn Osterfestspiele Salzburg (Gŵyl y Pasg). Yn para deg diwrnod o'r dydd Sadwrn cyn Sul y Blodau hyd at Llun y Pasg ei hun, mae'r ŵyl yn cynnig operau, cyngherddau cerddorfaol a chorawl yn ogystal â cherddoriaeth siambr. Pe byddai Mozart yn fyw heddiw, byddai'n debygol o fod yn rhuthro o gwmpas yn arddangos ei weithiau newydd ac yn serennu fel unawdydd ei goncertos piano ei hun.

Sut bynnag ydych chi'n dathlu - dymuna WNO Frohe Ostern i chi gyd (Pasg Hapus)!