Newyddion

Dathlu'r Nadolig yn arddull WNO

3 Rhagfyr 2019

Mae Tymor yr Hydref Opera Cenedlaethol Cymru wedi dod i ben ond mae ein gwaith yn parhau wedi hynny. Mae'r Nadolig ar y gorwel ac fel un o'n perfformiadau olaf yn 2019, rydym am sicrhau ein bod yn rhannu peth o hwyl yr ŵyl. Heno ac yfory, byddwn yn cynnal ein cyngerdd Dathliad Nadolig blynyddol lle byddwn ni'n dwyn ynghyd ein teulu estynedig, Opera Ieuenctid WNO a'r Corws Cymunedol, am ychydig o ganu Nadoligaidd.

Mae'r cyngerdd yn cynnwys cymysgedd hyfryd o garolau a chaneuon Nadolig traddodiadol ac yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa ymuno. Cawsom sgwrs gydag aelod o'r Opera Ieuenctid, Megan Jones, sy'n perfformio yn y cyngerdd.

Pa bryd y gwnaethost ti ymuno â'r Opera Ieuenctid?
Ymunais yn 2016 oherwydd fy mod wrth fy modd â chanu clasurol ac roeddwn yn hoff o'r syniad o ymuno â grŵp o bobl ifanc a oedd yn rhannu diddordeb tebyg i mi, ac rwy'n hynod falch fy mod wedi - rwyf wedi cael y profiad gorau.

Fe wnest ti berfformio yn y cyngerdd y llynedd, beth wyt ti'n ei hoffi amdano?
Mae'r cyngerdd wir yn cynnau fy ysbryd Nadoligaidd. Mae'r Opera Ieuenctid yn cael cyfle i berfformio, ond rydym hefyd yn cael cyfle i wylio'r Corws Cymunedol yn perfformio ychydig o ddarnau. Mae siarad â phobl ar ôl y cyngerdd ynglŷn â sut ydym wedi gallu cynnau eu hysbryd Nadoligaidd yn braf hefyd.

Beth yw dy hoff ddarn yr wyt ti'n ei ganu yn y cyngerdd?
Rydym ni'n gwneud darnau hyfryd eleni. Mae gan Glow gan Eric Whitacre alaw arbennig sydd wirioneddol yn darlunio'r gaeaf, tra bo Veni Veni Emmanuel yn llawn llawenydd ac yn gwbl wahanol, yn enwedig gan ei fod yn ddarn digyfeiliant. Fodd bynnag, fy ffefryn yn ddiamod yw 'Do You Hear What I Hear?'. Mae'n un o fy hoff garolau ac mae'r Opera Ieuenctid a'r Corws Cymunedol yn dod ynghyd i greu'r sain hyfrytaf un.


Bydd yr Opera Ieuenctid a'r Chorws Cymunedol yn ymarfer ar wahân ar gyfer y cyngerdd am ddau fis ac yna'n dod ynghyd ar ddiwrnod y perfformiad cyntaf i ymarfer gyda'i gilydd. Cafodd ymarferion y Corws Cymunedol eu harwain gan Feistres y Corws Cymunedol, Kate Woolveridge a'r Répétiteur Sharon Richards, sydd o'r farn ein bod ni i gyd am wledd:

Ysbryd y Nadolig, yn cael ei ganu o'r enaid. Am sain gorawl wirioneddol ryfeddol ac emosiynol a glywaf wrth i mi gyfeilio i Gorws Cymunedol WNO.

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni am noswaith o gerddoriaeth Nadoligaidd, ac os ydych chi'n ystyried cymryd rhan yn nigwyddiadau'r Corws Cymunedol yn y dyfodol, dywed Allan Jones sy'n aelod rheolaidd y dylech 'roi cynnig arni':

'Byddai unrhyw un sydd wrth ei fodd â cherddoriaeth yn teimlo'n freintiedig o gael gweithio gyda rhai o hyfforddwyr canu ac iaith gorau'r byd. Rwyf wedi cael pleser mawr yn canu dan arweiniad Carlo Rizzi a Lothar Koenigs a hyfforddiant Stephen Harris, Tim Rhys Evans, Kate Woolveridge a David Doidge yn ogystal â'r repetiteurs o'r radd flaenaf, Sharon Richards a Nicola Rose. Rwyf wedi mwynhau 12 mlynedd gyda'r Corws Cymunedol yn canu yn Gymraeg, Saesneg, Eidaleg, Ffrangeg, Almaeneg, a Rwseg.'