Newyddion

Chris Ball - Oes o Gyfeillgarwch a Chefnogaeth i WNOCC

24 Tachwedd 2026

Teyrnged gan Donald Maxwell

Opera gyntaf Chris Ball oedd perfformiad WNO o Carmen ym 1968, a bu i'r noswaith honno sbarduno oes o gefnogaeth i'r cwmni ac angerdd tuag at ganu a chantorion. Fe wnaeth Chris helpu i sefydlu cangen o'r Cyfeillion yn Birmingham ym 1976, a pharhaodd yn gefnogwr ymroddgar i'r Cyfeillion. Daeth yn Gadeirydd Cenedlaethol gan ddod â'i arbenigedd cyfreithiol a'i eglurder i sefydliad gwasgaredig. Roedd ganddo ddiddordeb ym mhob un o'r canghennau a chofir amdano'n annwyl iawn hyd heddiw am ei ymrwymiad a'i gymorth.

Roedd bod yn frwdfrydig dros opera yn un peth, ond roedd Chris yn mynd llawer pellach na hynny. Roedd ei frwdfrydedd yn seiliedig ar wybodaeth fanwl, ac roedd yn hapus i rannu'r wybodaeth honno gydag unrhyw un oedd yn mwynhau opera. Dros y blynyddoedd, aeth ati i gynnull casgliad anhygoel o femorabilia operatig, a daeth ei dŷ bron yn gysegr i'r ffurf gelfyddydol, gyda llefydd cyfyngedig ar gyfer bwyta a chysgu ymhlith y miloedd o recordiadau. Ac yntau'n hael gyda'i amser a'i wybodaeth, roedd wastad yn mynd gam ymhellach. Ym 1977, cynigiodd lety yn Birmingham i ddau o gantorion WNO oedd ar ymweliad, a datblygodd hynny i fod yn gefnogaeth ariannol a stori anhygoel o ddyngarwch artistig. Dros y degawdau nesaf, bu iddo hefyd ddarparu llety am ddim yn Llundain a Chaerdydd, gan greu bwrsariaethau ar gyfer cantorion mewn ambell conservatoire cerddoriaeth, ariannu gwersi canu, talu am recordiadau ac roedd yn gefnogwr allweddol o'r cynllun Artist Cyswllt gyda WNO.

Nid dim ond cefnogaeth ariannol ddienw neu gefnogaeth anfeirniadol oedd hyn. Roedd Chris eisiau adnabod ei artistiaid 'o' yn bersonol a byddai'n teithio i'r wlad er mwyn gwrando arnynt a chynnig awgrymiadau gofalus ynghylch repertoire. Roedd artistiaid yn gwerthfawrogi ei gefnogaeth, a chafodd hynny ei gydnabod pan fu iddo logi Neuadd Wigmore ar gyfer ei ben-blwydd yn drigain oed. Dyma gyngerdd anhygoel lle bu i hanner cant o artistiaid ymddangos (heb godi ffi!) a ble roedd y cantorion i gyd wedi bod yn ddigon ffodus i gael budd o'i gefnogaeth hael mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Prynhawn unigryw, ond nid bodloni ei falchder ei hun oedd Chris. Fe'i defnyddiodd i annog rhoddwyr eraill i gynnig cefnogaeth ariannol yn benodol ar gyfer artistiaid ifanc. Mae nifer o gantorion sefydledig heddiw yn ddyledus i Chris am roi cymorth iddynt a gair o gefnogaeth ar yr union adeg yr oeddent ei angen, ac fe gofir amdano gyda hoffter a diolchgarwch gan nifer o artistiaid o'r hanner can mlynedd diwethaf.

Being an enthusiast for opera is one thing, but Chris went far beyond that. His enthusiasm was based on detailed knowledge, and he was happy to share that knowledge with anyone who enjoyed opera. Over the years, he assembled an amazing collection of operatic memorabilia, and his house became almost a shrine to the art form, with limited spaces for eating and sleeping amid the thousands of recordings. Generous with his time and his knowledge, he went a step further. In 1977, he offered free accommodation in Birmingham to visiting WNOCC singers, and that mushroomed into financial support and a remarkable story of artistic philanthropy. Over the next decades, he also gave free accommodation in London and Cardiff, created bursaries for singers at music conservatoires, financed singing lessons, paid for recordings and was a key supporter of the Associate Artist scheme with WNOCC.

This wasn’t just anonymous financial backing or uncritical support. Chris wanted to know ‘his’ artists personally and would travel the country to hear them and offer well considered suggestions on repertoire. Artists valued his backing, and that was recognised when he hired the Wigmore Hall for his sixtieth birthday. A remarkable concert when fifty artists appeared (without fee!) and where all the singers had been recipients in some way of his generous support. A unique afternoon, but it wasn’t an ego trip for Chris. He used it to encourage other donors to offer financial support specifically for young artists. Many of the well-established singers today owe a debt to Chris for giving them a helping hand and a supportive word just when they needed it, and he is remembered with affection and gratitude by many artists from the last fifty years.

Chris was proud to say that he was Friends Member number 1. He was that person when the Birmingham branch was founded, but it is a fitting epitaph. He was a true friend of opera, of singers and of WNOCC.