Er bod Blaze of Glory! wedi’i gosod yn y 1950au, mae’r byd mae’n ei gonsurio wedi tyfu o draddodiadau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y degawdau blaenorol. Er mwyn deall Cymru’r sioe gerdd, rydym angen edrych ar y grymoedd diwylliannol sydd wedi llunio bywyd bob dydd yng nghymunedau maes glo dechrau’r 20fed ganrif. Datblygodd cerddoriaeth a diwydiant ochr yn ochr â’i gilydd a daeth yn nodweddion diffiniol bywyd cymdeithasol, hunaniaeth a balchder.
Gwreiddiau Corawl Cymru
Gellir olrhain traddodiad corawl Cymru i’r capeli Anghydffurfiol oedd mor amlwg yng Nghymoedd de Cymru. Wrth i grefydd Anghydffurfiol dyfu yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, dirywiodd cerddoriaeth werin draddodiadol a daeth canu corawl yn ganolog i addoliad a hunaniaeth gymunedol. Ffynnodd ysgrifennu emynau, canu cynulleidfaol a chreu cerddoriaeth gystadleuol ochr yn ochr â threfi oedd yn ehangu a chymunedau capeli oedd yn tyfu.
Erbyn diwedd y 19eg ganrif ac ymlaen i ddechrau’r 20fed ganrif , roedd corau meibion wedi dod yn un o allforion diwylliannol mwyaf adnabyddus Cymru. Roedd eu sain wedi’i gysylltu’n agos gyda phobl oedd yn gweithio ac i’r ymdeimlad o undod sydd wedi’i ganfod mewn trefi diwydiannol. Roedd gan bron pob pwll glo eu côr eu hun, gyda’r rhan fwyaf yn cystadlu mewn Eisteddfodau lleol.
Cymru Ddiwydiannol: Gwaith a Chân
Wrth i Gymru ddod yn fwy diwydiannol, yn arbennig felly yn y de, daeth cerddoriaeth yn ddiddordeb amser hamdden oedd yn cael ei rannu ac yn gyfle i roi mynegiant i emosiwn. Roedd bywyd o ddydd i ddydd mewn cymunedau glofaol yn waith corfforol caled ac yn beryglus, ac roedd canu’n cynnig strwythur, cwmnïaeth a rhyddhad.Wedi gwladoli’r diwydiant glo yn 1947, dechreuodd y pyllau glo gyfnod o fuddsoddi o’r newydd a sefydlogrwydd cymharol. Parhaodd glo i fod yn angor economaidd a chymdeithasol i’r Cymoedd yn ystod diwedd y 1940au a dechrau’r 1950au. Roedd cymunedau’n glòs, wedi’u creu gan waith caled, oriau hir ac ymdeimlad cryf o annibynniaeth.
Atgyfnerthodd yr amgylchedd hwn y cysylltiad rhwng diwydiant a cherddoriaeth. Tyfodd y côr meibion eiconig yn uniongyrchol o’r bywyd glofaol. Roedd y corau fel arfer yn cynnwys cydweithwyr, perthnasau, cymdogion a ffrindiau. I lawer, roedd ymarferion a pherfformiadau yn uchafbwynt yr wythnos. Hyd yn oed yn ystod cyfnodau economaidd anodd, parhaodd canu i fod yn ffynhonnell cydymddibyniad a balchder cymunedol.
Cymru Blaze of Glory!
Erbyn yr 1950au, parhaodd y traddodiad corawl i fod wedi’i wreiddio’n ddwfn ym mywyd bob dydd. Parhaodd canu yn y capel, cyfeillgarwch y pyllau glo a’r traddodiad eisteddfodol i ddylanwadu ar y dirwedd ddiwylliannol. Roedd glo yn parhau i ddal cymunedau gyda’i gilydd, ac roedd canu ar y cyd yn parhau i fod yn fynegiant o hunaniaeth Gymreig a pherthyn oedd gyda’r mwyaf eglur. Roedd emynau megis Cwm Rhondda yn llenwi capeli, clybiau a neuaddau cyngerdd, tra oedd cyfansoddiadau newydd yn tynnu ar yr un dreftadaeth emosiynol.
Dyma’r Gymru mae Blaze of Glory! yn ei hatgyfodi. Mae’n gymdeithas wedi’r rhyfel sydd wedi’i hadeiladu ar ddiwydiant ond sydd wedi’i chynnal gan bobl oedd yn codi’u lleisiau gyda’i gilydd.
Bydd yr ysbryd cymunedol hwn yn siŵr o gael gafael ynoch chi. Mae Blaze of Glory! yn dechrau ar 1 Ebrill yng Nghaerdydd, cyn mynd ar daith i Plymouth, Birmingham, Milton Keynes ac Abertawe.