Les vêpres siciliennes oedd y darn olaf yn Nhrioleg Verdi Opera Cenedlaethol Cymru, ac er bod Tymor y Gwanwyn 2020 wedi dod i ben yn fyrbwyll, roedd yn sicr yn gynhyrchiad gwefreiddiol. Nid hawdd yw cynhyrchu opera i'r fath raddfa, bu i ni siarad â rhai aelodau o'r tîm cynhyrchu i ddysgu mwy am yr hyn y gwnaethant ei fwynhau yn yr ymarferion.
‘Yr hyn a fwynheais fwyaf yn ystod yr ymarferion oedd llwyfannu'r golygfeydd oedd yn cynnwys y cast a'r corws cyfan, fel y Tarantella ar ddiwedd yr Ail Act, neu ddiweddglo'r Drydedd Act - roedd yn anhygoel bod mor agos at sain mor anferth a thrawiadol o fewn yr ystafell ymarfer. I mi, yr hyn sy'n ddiddorol am gynhyrchiad WNO o Vêpres yw bod David Pountney wedi penderfynu newid y bale yn y Drydedd Act i ddarlunio cefndir Montfort, y teyrn canolog, sy'n caniatáu i ni gael mewnwelediad pellach i’r cymeriad a’r berthynas heriol gyda’i fab Henri. Mae'r penderfyniad hwn yn dod â deinameg hollol newydd i’r darn, a rhoddodd fwy o ddealltwriaeth i’r gynulleidfa o'r rheswm pam mae Montfort yn gwneud y penderfyniadau a wna, rhywbeth y credaf sy'n aml yn brin yn y genre.’
Emma Doherty, Cyfarwyddwr Staff
‘Roedd gan Vêpres dîm o ddawnswyr ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael bod yn rhan o'u hymarferion. Mae coreograffi Caroline Finn mor ddiddorol a deinamig, ac roedd rheolaeth y dawnswyr dros bob symudiad yn anhygoel. Mae hi bob amser yn hyfryd cael gweithio gyda pherfformwyr talentog o bob disgyblaeth ac mae'r drioleg gyfan hon wedi cynnwys llu o bobl greadigol a pherfformwyr rhyfeddol.’
Suzie Erith, Dirprwy Reolwr Llwyfan
‘Roedd gweithio gyda David Pountney ar yr opera hon yn brofiad rhyfeddol gan y cefais lawer o eglurdeb a strwythur ganddo. Roedd o'n gwybod yr hyn yr oedd ei eisiau o'r adrannau coreograffig ond ar yr un pryd caniataodd i mi gael llawer o ryddid o ran beth fyddai agwedd gorfforol y darnau hynny. Cefais ddilyn dull gwahanol gyda phob un o'r tair adran - roedd yr Ail Act yn cynnwys dawns werin Eidaleg, draddodiadol a chyflym, roedd y Drydedd Act yn cynnwys bale a oedd yn adrodd stori (anarferol a heriol i mi) ac yn y Bumed Act, cefais ryddid i archwilio a chwarae gydag amwysedd. Rwy'n teimlo'n hynod ffodus o fod wedi gweithio ar Vêpres, lle'r oedd cymaint o gantorion a oedd wirioneddol wedi'u cynhyrfu am 'symud' a rhyngweithio gyda'r dawnswyr ar y llwyfan.’
Caroline Finn, Coreograffydd (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru)
Credydau:
Noddwr Trioleg Verdi WNO: Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad yr Eidal
Cefnogir gan Kobler Trust a Syndicet Verdi WNO