Cwrdd â WNO

Emma Doherty

Mae Emma yn gyfarwyddwr wedi'i lleoli ym Manceinion a hi yw Cyfarwyddwr Artistig The Opera Shack, grŵp wedi'i greu i berfformio opera hygyrch mewn lleoliadau anarferol. Mae Emma wedi gweithio gyda National Opera Studio, British Youth Opera, Waterperry Opera Festival, Mahogany Opera a'r Manchester Collective ac ym mis Awst mae hi’n dychwelyd i Waterperry Opera Festival i gyfarwyddo Dido and Aeneas gan Purcell.

Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr Making Manchester (Olympias Music Foundation yn y Royal Northern College of Music; Cyfarwyddwr Cynorthwyol Scoring a Century (British Youth Opera); Cyfarwyddwr Abraham & Isaac (Waterperry Opera Festival)