Newyddion

Così fan tutte: pwy oedd Lorenzo da Ponte?

26 Mawrth 2024

Wrth i WNO deithio o gwmpas y wlad gyda’i gynhyrchiad newydd o Così fan tutte gan Mozart, mae’n rhoi cyfle ini edrych y tu hwnt i’r cyfansoddwr enwog. Yr opera hon oedd yr olaf o blith tair o’r operâu enwocaf a luniwyd ar y cyd gan Mozart a’r libretwr Lorenzo da Ponte, ochr yn ochr â Marriage of Figaro (1786) a Don Giovanni (1787). Er bod enwogrwydd, dramâu, ffilmiau a hanesion yn troelli o gwmpas y cyfansoddwr, mae’r libretwr sy’n gyfrifol am stori Così fan tutteyn llai enwog. 

Y tu ôl i bob opera wych, fel arfer ceir libretwr sy’n ysgrifennu’r stori a’r geiriau. Gall libretwyr gael effaith enfawr ar lwyddiant operâu. Ni châi libretwyr fawr o arian am eu gwaith (yng nghyfnod Mozart, beth bynnag), ac yn aml byddai eu gwaith yn cael ei anwybyddu ac yn cael ei roi yn y cysgod gan y cyfansoddwyr a’u cerddoriaeth. 

Felly, pwy oedd Lorenzo da Ponte? Fe’i ganed yn1749 yn Ceneda, sef geto Iddewig yng Ngogledd yr Eidal, a bu farw yn 1838.Trodd at y grefydd Gatholig ac yna bu’n offeiriad yn Fenis – dinas a oedd yn enwog am ei hanfoesoldeb. Yna, cyfarfu Da Ponteâr merchetwr enwog Casanova, a daeth y ddau yn gyfeillion. Hyd yn oed pan oedd yn offeiriad, llwyddodd i fagu enw drwgiddo’i hun, ac yn y pen draw fe’i cafwyd yn euog o ‘male vita, sef ‘byw yn ddrwg’. Fe’i gorfodwyd i ffoi o Fenis, ac yn y pen draw llwyddodd Da Ponte i’w ail-greu ei hun fel awdur a libretwr llwyddiannus yn Fienna, dan nawdd yr Ymerawdwr Joseph II, gan gydweithio â Mozart. Ar ôl ei lwyddiant creadigol gyda Mozart, collodd Da Ponte ei noddwr.Ffodd drachefn, y tro hwn i Lundain. Aeth yn fethdalwr ac yn y diwedd ymgartrefodd yn Efrog Newydd lle llwyddodd i’w ailsefydlu ei hun, gan weithio fel groser, gwerthwr llyfrau ac athro. Llwyddodd Da Ponte i fyw ei fywyd anhrefnus mewn modd annisgwyl o gonfensiynol: roedd yn byw gydai anwylyd, Nancy Grahl; ef oedd yr Athro cyntaf mewn Llenyddiaeth yr Eidal ym Mhrifysgol Columbia; a helpodd i gyflwyno operâu Eidalaidd i America a chynorthwyodd i adeiladu tŷ opera cyntaf Efrog Newydd. 

Yr hyn sy’n ddiddorol ynglŷn â Da Ponte a libreto Così fan tutte yw’r ffaith bod y libreto yn wreiddiol.Câi libretos y mwyafrif o operâu eu seilio ar nofelau neu ddramâu cynharach, ond ysgrifennwyd y libreto hwn gan Da Ponte, ac fe’i rhoddodd yn wreiddiol i’r cyfansoddwr Salieri; ond ar ôl llwyddiant The Marriage of Figaro, comisiynwyd Mozart i gyfansoddi’r gerddoriaeth.Yr Ysgol i Gariadon oedd y teitl a roddodd Da Ponte i’r libreto (ymddengys mai dyma oedd ei hoff ddewis), a defnyddiodd ddyfeisiau naratif digywilydd a chyfarwydd: cariadon yn profi ffyddlondeb eu partneriaid; defnyddio cuddwisg ac ystrywiau; a bet i ddechrau’r holl firi. Doedd y pethau hyn ddim yn newydd o gwbl i stori serch, ‘dyfod i oed’ fel Così fan tutteYn ddi-os, mae’r opera hon yn adlewyrchu personoliaeth a phrofiadau bywyd ei libretwr bywiog Lorenzo da Ponte, yn yr un modd ag y mae ei cherddoriaeth aruchel yn arddangos doniau Mozart. 

Dewch i weld perfformiadau olaf WNO o Così fan tutte sydd ar daith yn Rhydychen, Bryste a Birminghamy Gwanwyn hwn tan 10 Mai 2024. Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer cynhyrchiad WNO o The Marriage of Figaro yn ystod Tymor 2025.