Newyddion

Hanes David a WNO

21 Medi 2017

Ar ôl dathlu pen-blwydd ein Cyfarwyddwr Artistig David Pountney yn 70 oed, a noson agoriadol o From the House of the Dead, mae i weld yn briodol bod perthynas David â WNO wedi dechrau gyda chyfres o operâu Janáček wedi’u cyd-gynhyrchu gydag Opera’r Alban, lle'r oedd David yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau ar y pryd. Gan ddechrau gyda chynhyrchiad o Jenůfa yn 1975, roedd yn nodi dechrau dros 40 mlynedd o gyd-weithio ac yn ddiweddarach, rhaglennu beiddgar gyda WNO.

Y cynyrchiadau eraill oedd yn rhan o’r gyfres hon dros y saith mlynedd ddilynol, i gyd wedi’u cyfarwyddo gan David oedd: The Makropoulos Case, The Cunning Little Vixen, Katya Kabanova, a From the House of the Dead. Mae Vixen yn dal i gael ei pherfformio’n gyson ac fe gafodd From the House of the Dead ei hadfywio am y tro cyntaf ers 1997 yn Hydref 2017. Gyda fersiwn newydd o’r sgôr wedi’i olygu gan John Tyrrell ac awgrymiadau perfformio gan Syr Charles Mackerras, a wnaeth y cynhyrchiad bron yn bremière.

Yn 1996, blwyddyn hanner canmlwyddiant WNO, fe wnaethom gomisiynu opera newydd, The Doctor of Myddfai, gan Syr Peter Maxwell Davies a gyda libreto gan David. Roedd yr opera yn cynnwys caneuon Cymraeg ac yn seiliedig ar chwedl Gymraeg o’r 12fed ganrif. Yn 1998, roedd y cynhyrchiad o Boris Godunov yn nodi dau ben-blwydd: 30 mlynedd ers sefydlu’r Corws proffesiynol a 25 mlynedd o gael Cerddorfa llawn amser wedi’i chontractio’n llawn.

Yn 2013, Lulu fyddai’r cynhyrchiad cyntaf i David ei gyfarwyddo i WNO fel ein Cyfarwyddwr Artistig. Ymhlith y cynyrchiadau eraill iddo gyfarwyddo i ni fel Cyfarwyddwr Artistig mae William Tell, Figaro Gets a Divorce, In Parenthesis a Khovanshchina– a chafodd ei hadfywio yn Hydref 2017.

Trwy gydol ei gysylltiad â WNO, mae cysylltiadau eraill David yn aml wedi dylanwadu ar y gwaith mae’r cwmni yn ei gynhyrchu. Mae nifer o’i gynyrchiadau yn cael eu cynhyrchu gyda’r un timau creadigol – o gyfansoddwyr megis Syr Maxwell Davies ac Elena Langer, i ddylunwyr megis Johan Engels, Ralph Koltai, Raimund Bauer a Marie-Jeanne Lecca ac rydym wedi cyd-gynhyrchu operâu gyda chwmnïau enwog o bedwar ban byd. Fel dywedodd David mewn cyfweliad i wefan Bachtrack yn 2016:

‘Rwy’n ffodus ac yn freintiedig iawn fy mod yn gallu creu prosiectau fel y triawd o operâu Figaro ac In Parenthesis i WNO a chael gwneud ychydig o brosiectau i gwmnïau eraill. Mae gweithio i gwmnïau rhyngwladol eraill hefyd yn fy helpu i sicrhau bod WNO yn aros mewn cysylltiad â’r sîn operatig ehangach – sy’n hanfodol ar gyfer datblygu partneriaethau a chyd-gynyrchiadau.’

Os ydych yn dilyn hynny gyda’i sylwadau mewn erthygl ar y wefan hon yn gynnar yn 2014, rydych wir yn cael syniad o gymaint mae opera yn golygu i David a’i ffydd yn ei pherthnasedd, pan mae cwmnïau fel WNO yn rhoi cyfle iddi anadlu:

'Rwy’n meddwl ei fod yn gyffrous iawn i werth parhaol opera, ac yn gyfiawnhad pwysig dros ei  pharhad fel ffurf gelfyddydol Ewropeaidd pwysig, sydd nid yn unig yn rhoi mwynhad a phleser, ond sydd hefyd yn ennyn ein hemosiynau a'n dychymyg am bynciau sy'n dal i fod yn bwyntiau dadlau hanfodol ac yn bynciau sy'n peri pryder i'r gymdeithas gyfoes, fel yr oeddynt i’r cymdeithasau a'r amseroedd wnaeth eu creu nhw ... mae WNO yn eich annog i beidio â chau opera mewn blwch o hiraeth treftadol, ond yn hytrach cydnabod ei grym i siarad dros gymdeithasau heddiw, yn ogystal ag deffro cymdeithasau'r gorffennol mor rymus. Mae hynny'n allweddol i'w chyfoeth a'i grym fel ffurf gelfyddydol.'