Rydym yn drist iawn i glywed am farwolaeth Abdul Shayek.
Fe weithion ni gyda Abdul pan ymunodd a ni fel Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Migrations, ac fel Cyfarwyddwr ar gyfer ein cyfres o ffilmiau byr, Aralleirio.
'Abdul. Mae pawb a fu ynghlwm â Migrations ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru yn 2021 a 2022 wedi dychryn ac wedi’u tristáu o glywed am dy farwolaeth annisgwyl a sydyn. Fel Cyfarwyddwr Cyswllt y prosiect uchelgeisiol hwn, bu dy frwdfrydedd, dy graffter dadansoddol craff a’th egni brwd yn ysbrydoliaeth i bawb. Gwelsom rym dy ymrwymiad proffesiynol hyd at wirionedd theatraidd, yn ogystal â’th ymlyniad dwfn i’th fywyd teuluol. Cafodd dy ail ferch ei geni yn ystod yr ymarferion, a byddwn ni i gyd yn cofio dy lawenydd, a’th ymdeimlad o foddhad ar yr adeg honno.
Wrth i ni barhau, byddwn yn anrhydeddu dy holl waith, ac yn ei gadw yn ein cof bob amser. Yn rhoi lle i waith newydd taer, cynulleidfaoedd ac artistiaid newydd. Yn hyrwyddo lleisiau a straeon sy’n ysbrydoli cymunedau a chynulleidfaoedd i ymgysylltu ac ail-ddychmygu bywydau, cymdeithasau a’r dyfodol. Yn cyd-greu straeon o wleidyddiaeth, o hunaniaeth, o bosibilrwydd, o deulu ac o gariad. A gwneud hynny yn ofalus.
Estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf i’th wraig Nicole, dy ferched, dy deulu a chymuned ehangach Tara Theatre.
Cwsg mewn hedd, gyfaill'