Gyda’r cynhyrchiad newydd hwn o The Flying Dutchman, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn paratoi i ffarwelio â’n Cyfarwyddwr Cerdd, Tomáš Hanus. Ers ymuno â’r Cwmni yn 2016, mae Tomáš wedi dod ag egni artistig eithriadol a gonestrwydd cerddorol i Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru, gan arwain rhai o’i gynyrchiadau mwyaf uchelgeisiol a chofiadwy. Dros y degawd diwethaf, mae wedi arwain 12 opera ac wedi teithio’n helaeth ledled Cymru, y DU ac Ewrop.

Bydd ei gyfnod yn y swydd yn cael ei gofio’n arbennig am ei gysylltiad dwfn â cherddoriaeth y cyfansoddwr Tsiecaidd Leoš Janáček. Arweiniodd Tomáš adfywiadau o Jenůfa a chynhyrchiad poblogaidd iawn David Pountney o The Cunning Little Vixen, ynghyd â dau gynhyrchiad newydd trawiadol: From the House of the Dead (2018) a The Makropulos Affair (2022). Wedi cael ei wahodd ddwywaith i berfformio yng Ngŵyl Janáček ym Mrno, roedd ymweliadau’r Cwmni yn arbennig o arwyddocaol, o ystyried cysylltiad personol Tomáš â’r cyfansoddwr – gan i’r ddau gael eu geni dim ond ychydig strydoedd oddi wrth ei gilydd.

Tomáš Hanus yn gweithio ar Jenůfa
Ochr yn ochr â’i waith ar Janáček, bu Tomáš yn arwain repertoire eang. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae ei ymddangosiad cyntaf yn y Royal Ballet and Opera gyda War and Peace gan Prokofiev (2019), a chynhyrchiad newydd clodwiw WNO o Peter Grimes gan Britten (2024). Roedd hefyd yn hyrwyddwr brwd o raglen gerddorfaol y Cwmni. Ar ôl arwain Cerddorfa WNO am y tro cyntaf mewn perfformiad pwerus o Symffoni Rhif 4 Tchaikovsky yn 2015, aeth ymlaen i arwain cyngherddau symffonig ledled y DU, o Fangor i Druro, a daeth yn wyneb cyfarwydd yng Nghyfres Gyngherddau Ryngwladol Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant. Yn 2017, arweiniodd y Gerddorfa yn ystod cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Yng Ngŵyl Gerdd Abergwaun ym mis Gorffennaf eleni, bydd ei gyngerdd olaf gyda WNO yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, lle y dechreuodd ei daith gerddorol gyda’r Cwmni, yn nodi diwedd addas i’w waith ar y llwyfan cyngherddau.

Tomáš yn ymarfer Peter Grimes
Daeth un o eiliadau mwyaf arwyddocaol ei gyfnod yn 2023, pan gafodd ei wahodd i agor Gŵyl fawreddog Prague Spring. Wrth arwain MáVlast gan Smetana, daeth Cerddorfa WNO y gerddorfa opera gyntaf erioed i agor yr ŵyl – carreg filltir ryngwladol arbennig.

Gwyl y Gwanwyn Prague, 2023
Yn ogystal â bod yn gydweithiwr cerddorol eithriadol, bydd Tomáš hefyd yn cael ei gofio fel dyn teulu ymroddedig. Bydd y rhai oedd gyda’r Cwmni yn 2019 yn cofio’r cynhyrchiad emosiynol a arweiniodd gyda WNO Youth Opera o Brundibár gan Hans Krása. Yn ogystal â’i gysylltiad teuluol hanesyddol dwfn â’r gwaith hwn, llwyddodd Tomáš i uno ei fywyd gwaith a’i fywyd personol – gan groesawu ei blant (nad oedd ganddynt lawer o Saesneg ar y pryd) i ganu ochr yn ochr ag aelodau’r Opera Ieuenctid.

Opera Ieunectid - Brundibar
Mae Tomáš Hanus yn gadael etifeddiaeth ryfeddol yn Opera Cenedlaethol Cymru, un a ddiffinnir gan angerdd, ymroddiad ac ymrwymiad dwfn i fywyd diwylliannol Cymru. Wrth iddo gychwyn ar ei daith olaf y gwanwyn hwn, rydym yn dathlu ei ddegawd fel Cyfarwyddwr Cerdd gyda The Flying Dutchman. Bydd colled fawr ar ei ôl fel cydweithiwr a ffrind.
Diolch, Tomáš, a phob dymuniad gorau i’r dyfodol.