Newyddion

Darganfod y Gerddorfa - pam ddylai eich teulu brofi'r ffenomen

20 Mehefin 2019

Beth yw cerddorfa? Os nad ydych erioed wedi profi un o'r blaen, dychmygwch ffrwydrad gyda malurion yn saethu allan o'r canol. Dyna yw cerddorfa mewn gwirionedd ond gydag arweinydd yn hytrach na ffrwydrad ac offerynnau yn hytrach na malurion. O'r awyr dyna fyddwch yn ei weld, ac mae ei sain hyd yn oed yn fwy o wledd arbennig, gyda dros 25 o offerynnau gwahanol, hyd at 100 o berfformwyr a 4 adran wahanol, mae'r gerddorfa yn fyd ynddi ei hun. 

Mae'r term cerddorfa yn deillio o iaith Roeg ὀρχήστρα, yr enw ar gyfer yr ardal o flaen llwyfan a gedwir ar gyfer y Corws Groegaidd; mae'n golygu 'i ddawnsio.' Ac er nad ydych yn cael llawer o ddawnsio mewn cerddorfa os byddwch yn gwylio'r offerynnau yn ofalus maent yn sicr yn edrych fel pe baent yn gwneud union hynny. 

Dengys astudiaethau diweddar fod yna ddirywiad wedi bod ym mhoblogrwydd cerddoriaeth glasurol, er, canfuwyd hefyd fod hyn o ganlyniad i ddiffyg cysylltiad â'r gerddoriaeth pan yn ifanc. Yn wir, mae Thomas Südhof, enillydd gwobr Nobel, yn trafod sut y gall chwilfrydedd naturiol meddwl plentyn fod yn fwy agored i synau newydd, ond mae'n rhybuddio 'y gall y ddealltwriaeth a'r chwilfrydedd cynhenid hwn ddiflannu...mae chwaethau esthetig plant yn ffurfio cyn eu bod yn naw oed.' Dyna pam ei bod hi mor bwysig cael cyngherddau sydd wedi eu hanelu at y cenedlaethau ieuengaf.

Rheswm arall pam y gall pobl ymwrthod rhag mynychu cyngerdd clasurol yw'r pryder na fyddant, efallai, yn deall yr ystyr y tu ôl i'r gerddoriaeth. Fodd bynnag, mae'r arweinydd Leonard Bernstein yn ei gyfres Cyngherddau Pobl Ifanc, What Does Music Mean? yn diystyru'r pryder hwn gan honni, 'Os ydych yn hoffi cerddoriaeth o gwbl, byddwch yn canfod yr ystyron allan drosoch chi'ch hun, drwy wrando arni.' Gofynnodd hefyd i'w gynulleidfa ifanc p'un a yw'n bwysig bod gan gerddoriaeth stori neu a ddylai greu delwedd, gan grynhoi 'mai'r ffordd y mae'n gwneud i chi deimlo sy'n bwysig', os yw'n 'gwneud i ni newid y tu mewn - dyna'r oll sy'n bwysig.' Mae'n ymwneud â'r teimlad y gall dros 100 o offerynnau yn chwarae ar yr un pryd ei roi i chi, ymchwydd pwerus o emosiwn sy'n mynd at galon.

Un arall sy'n frwd dros gyflwyno pobl ifanc i gerddoriaeth glasurol yw Daniel Handler neu efallai eich bod yn ei adnabod yn well fel Lemony Snicket, a'i waith The Composer Is Dead. Mae'n trafod y rheswm y tu ôl i'r prosiect gan honni ei fod; 'yn cyflwyno cerddorfa i bobl na fyddai fel arall yn gyfarwydd â'r cysyniad,' mae hefyd yn hoffi meddwl amdano fel 'cyffur achubol a fydd yn arwain at ddibyniaeth hirdymor ar gerddoriaeth glasurol.' Ac er bod hyn yn ymddangos fel safbwynt eithafol ar y mater ni fyddwch byth yn gwybod oni bai eich bod yn rhoi cynnig arni.

Dywedodd Benjamin Britten sy'n adnabyddus am ei gyfansoddiad Young Person's Guide to the Orchestra, 'mae'n ofer cynnig cerddoriaeth i blant sy'n eu diflasu, neu sy'n gwneud iddynt deimlo'n annigonol neu'n rhwystredig, a all wneud iddynt droi eu cefnau ar gerddoriaeth am byth.' Yn sicr, ni fydd hyn yn digwydd yn ein cyngherddau i'r teulu gyda ffefrynnau fel Harry's World o Harry Potter a'r Habanera o Carmen (byddwch yn ei hadnabod hyd yn oed os nad ydych yn ei hadnabod yn ôl ei henw.)

Pam na wnewch chi ennyn y chwilfrydedd hwn yn eich plant a chi'ch hun a dod â phawb i'n cyngherddau i'r teulu arfaethedig i weld beth yw'r holl stŵr. Peidiwch â phoeni am yr ystyr; gadewch i'r emosiwn gydio ynoch.