Newyddion

Disney ac Opera

16 Hydref 2023

Mae The Walt Disney Company yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn fis Hydref yma, yn nodi ei ganmlwyddiant ar 16 Hydref. Ers 100 o flynyddoedd, mae Disney wedi bod yn frwd dros rannu straeon, rhywbeth sydd gan Opera Cenedlaethol Cymru yn gyffredin â chawr y byd ffilm. Ond nid dyna’r unig beth rydym yn ei rannu; mae WNO a Disney yn rhannu brwdfrydedd dros gerddoriaeth glasurol.  

Mae cerddoriaeth glasurol yn chwarae rôl bwysig mewn ffilmiau wedi'u hanimeiddio, ac fel y byddech yn ei ddisgwyl, Walt Disney oedd yr arloeswr erioed.  

Ymddangosodd Mickey mewn lliw am y tro cyntaf yn The Band Concert yn 1935, ffilm sy’n adrodd stori band cyngerdd sy’n ei chael hi’n anodd cyrraedd diwedd perfformiad o’r Agorawd i William Tell gan Rossini. Mae’r band yn cystadlu yn erbyn ymyraethau sylweddol, fel corwynt, brwydr â gwenyn, a Donald Duck fel gwerthwr stryd yn chwarae 'Turkey in the Straw'. Cafodd Cerddorfa WNO brofiad llawer mwy llwyddiannus yn perfformio’r darn bachog hwn. 

Yn 1946, ymddangosodd fersiwn Disney o ddarn plant poblogaidd Prokofiev, Peter and the Wolf, fel segment yn y ffilm antholeg,  Make Mine Music. Cafodd ei ail-ryddhau'n ddiweddarach fel ffilm fer unigol yn 1955. Segment arall o Make Mine Music yw hanes teimladwy The Whale who wanted to sing at The Met. Mae Willie y Morfil yn breuddwydio am fod yn ganwr opera, ac rydym yn cael gweld montage o’i freuddwyd o berfformio yn y Metropolitan Opera House – gan gynnwys Pagliacci, Tristan and Isolde, a Mephistopheles. Rhaid bod Wilie ac Idloes Owen, sylfaenydd WNO, yn eneidiau hoff gytûn, oherwydd gwnaethom berfformio ein cynhyrchiad cyntaf o Cavalleria rusticana / Pagliacci yn 1946, yr un flwyddyn ag yr oedd Willie yn breuddwydio am berfformio Pagliacci.

Mae WNO yn gyfarwydd iawn â gwaith Tchaikovsky, wedi perfformio ei ddarnau yn ein cyngherddau clasurol a'i opera Eugene Onegin yn 2018, ac mae Disney hefyd wedi’u hysbrydoli gan y cyfansoddwr o Rwsia. Yn 1959, aeth Disney ati i ychwanegu geiriau at y ‘Garland Waltz' o’r bale Sleeping Beauty gan Tchaikovsky ar gyfer ei ffilm wedi’i animeiddio o’r un enw. Mae gwaith Tchaikovsky hefyd wedi'i gynnwys yn Fantasia’sThe Nutcracker Suite, lle mae detholiadau o’r bale o 1892 i’w clywed fel isgerddoriaeth mewn golygfeydd sy’n portreadu’r tymhorau newidiol. 

Yn amlwg, mae’n rhaid i ni nodi Fantasia wrth drafod Disney a cherddoriaeth glasurol. Wedi'i rhyddhau yn 1940, yr antholeg gerddorol hon oedd trydedd ffilm nodwedd animeiddiedig Disney, ac mae'n cynnwys wyth segment wedi’u hanimeiddio, wedi’u gosod i ddarnau o gerddoriaeth glasurol dan arweiniad Leopold Stokowski.  

Nod Walt Disney gyda Fantasia oedd cyflwyno cerddoriaeth glasurol i bobl a oedd, fel yntau, wedi “cefnu ar y math hwn o beth.” Gyda darnau gan Beethoven, Gershwin a Stravinsky, ymysg eraill, teg yw dweud bod Walt Disney wedi llwyddo yn ei fwriad. The Sorcerer’s Apprentice yw’r trydydd segment, a segment enwocaf y ffilm, a hwn oedd yr unig ran i ddychwelyd yn yr hyn a ddilynodd, sef, Fantasia 2000. Mae’r darlun o Mickey Mouse yn ei wisg goch a het dewin glas wedi dod yn gyfystyr â brand Disney. Mae'r gerddoriaeth sy'n cyd-fynd â’r segment, lle mae Mickey yn ymladd â byddin o fopiau cythreulig, yn adnabyddus yn syth, a pherfformiodd Cerddorfa WNO y darn gan Paul Dukas yn ystod y cyfnod clo. 

A ydym wedi codi’r awydd am ychydig o gerddoriaeth glasurol arnoch chi? Beth am ymuno â ni yn un o’n cyngherddau nesaf? O Gyfres Glasurol Caerdydd, i’r Dathliad Fiennaidd a Ffefrynnau Opera, mae rhywbeth yn sicr o fod at ddant pawb.