Newyddion

Archwilio Bumpus Jumpus Dinosaurumpus

24 Hydref 2022

Mae Chwarae Opera YN FYW y Tymor hwn yn mynd â ni ar daith yn ôl i dir cynhanesyddol.  Yn cynnwys rhai o’n hoff gerddoriaeth ar thema deinosoriaid, mae sioe i’r teulu difyr ac addysgol Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys addasiad cerddorol o stori boblogaidd i blant Tony Mitton Bumpus Jumpus Dinosaurumpus, wedi’i gyfansoddi gan Steve Picket ac yn dwyn y teitl Dinosaurumpus.  Gydag adroddiad gwreiddiol gan y cyflwynydd a’r cerddor Tom Redmond, edrychwn ar sut yr addaswyd y llyfr yn ddarn cerddorol.

‘Enter these pages and read their rhyme and they’ll take you along with them, back in time’ yw llinell agoriadol y llyfr ac mae cerddoriaeth Steve yn bendant yn ysgogi’r awyrgylch hwn.  Defnyddir offerynnau gwahanol i adlewyrchu ystod o gymeriadau, teimladau a lleoliadau.  Mae’r rhythmau yn gwneud i ni deimlo llif y naratif - mae ailadroddiadau cyflym ac ysgogol yn ein tynnu ymlaen tra bod curiad araf a chrwydrol yn ein cadw ar bigau’r drain.  Mae’n rhaid i’r cyfansoddwr jyglo’r holl wahanol elfennau cerddorol i’ch atgoffa o ddelweddau o’r llyfr.

Yn yr achos hwn, cawn ein tywys i leoliad cynhanesyddol o ddeinosoriaid anferth.  Mae’r gerddoriaeth yn dod â hyn yn fyw gyda dwndwr tawel, ysgafn y llinynnau isel, fel pe bai rhywbeth bygythiol yn y pellter.  Dilynir hyn ar unwaith gan symudiadau chwyrlïog gan y delyn a’r picolo sy’n creu delwedd o ysgwyd adenydd pryfed hedfan hynafol.  Ond yn ymuno â’r offerynnau hyn bron yn syth mae’r cyrn, ac mae eu sain fawreddog yn ysgogi anferthwch y creaduriaid sy’n crwydro’r tir.

Dywed y llyfr: ‘There’s a quake and a quiver and a rumbling around.’  Yma eto, mae’r llinynnau’n dechrau’n isel, cyn codi’n sydyn mewn traw ac uchder. Mae’r deinosoriaid yn bendant ar eu ffordd. Gydol yr amser mae yna batrwm rhythmig gan y marimbas a’r timpani sy’n swnio fel offerynnau tarawol hynafol.

Yn dilyn yn fuan wedyn, mae walts annhebygol y Trichorn.  Pwy fyddai’n meddwl bod deinosor yn gallu dawnsio mor urddasol?  Nesaf, daw’r Brontosor, sy’n chwipio’i gynffon anferthol yn ôl ac ymlaen.  Rydym yn clywed hyn yn y gerddoriaeth gyda rholiau gan y drymiau a chlepiau dramatig gan y timpani.  Clec! Cratsh! Bang!

Dechrau’r antur yn unig yw hwn, mae gweddill y darn yn ddosbarth meistr mewn ysgogi’r delweddau o’r llyfr.  Wrth i’r stori ddatblygu, rydym yn cael parti cyfan o ddeinosoriaid.  Ond yn fuan iawn, mae Tyranosor Rex yn cyrraedd y parti heb wahoddiad. A ydy ef eisiau dawnsio gyda’r deinosoriaid eraill?  Neu a yw eisiau eu bwyta nhw?

I gael gwybod, dewch i’n sioe yn Theatre Royal Plymouth ar 30 Hydref 2022 a Chanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 19 Chwefror 2023.