Mae’r byd adloniant wedi gwirioni’n lân ar Wicked wrth i bremière y ffilm, sy’n addasiad o sioe gerdd Stephen Schwartz, nesáu. Rhaghanes i The Wizard of Oz yw Wicked ac mae’n adrodd hanes Gwrach Ddrwg y Gorllewin (Elphaba) a Glinda y Wrach Dda cyn i helyntion y stori wreiddiol ddigwydd. Ers rhai wythnosau, mae ein cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wedi cael ei oleuo gan olau gwyrdd er mwyn croesawu cynhyrchiad teithiol y sioe gerdd; ac wrth i Wicked dynnu tua therfyn ei hamser ar lwyfannau Caerdydd, roeddem yn meddwl y byddai’n briodol inni rannu rhai o’n hoff raghanesion o blith y byd opera a thu hwnt.
Os nad oeddech yn gwybod hyn cyn gwylio’r operâu, efallai na fyddech yn sylwi bod cysylltiad i’w gael rhwng straeon The Barber of Seville gan Rossini a The Marriage of Figaro gan Mozart, gan fod y ddwy’n gweithio’n llwyddiannus iawn fel operâu annibynnol. Ond mewn gwirionedd, mae The Barber of Seville yn rhyw fath o raghanes i The Marriage of Figaro, ac mae cymeriadau’r ddwy stori’n gorgyffwrdd. Bydd The Marriage of Figaro yn ymddangos ar ein llwyfannau yn ystod Tymor y Gwanwyn 2025, a bydd y cynhyrchiad yn gyforiog o hiwmor, cerddoriaeth Mozart a’r holl elfennau sy’n perthyn i opera glasurol.
The Phantom of the Opera a Love Never Dies
Mae The Phantom of the Opera gan Andrew Lloyd Webber yn sioe gerdd hynod boblogaidd sy’n adrodd hanes athrylith cerddorol anffurfiedig sy’n aflonyddu ar dŷ opera Paris; ac yn y sioe gerdd ddilynol, Love Never Dies, mae’r prif gymeriad yn dianc i Efrog Newydd i ddechrau bywyd newydd. Os ydych yn gwirioni ar The Phantom of the Opera, does dim rhaid ichi bryderu ynglŷn â dod i wylio un o gynyrchiadau WNO – does dim ysbrydion yn llechu yn ein lleoliadau ni ac ni fydd yr un siandelïer yn syrthio (cyn belled ag y gwyddom!).
Mamma Mia! a Mamma Mia! Here We Go Again
Sioe gerdd sy’n seiliedig ar ganeuon ABBA yw Mamma Mia!. Mae wedi’i lleoli ar ynys yng Ngwlad Groeg ac mae’n siŵr o godi’r ysbryd a’r galon. Yn 2018, cafodd selogion y sioe fwynhau rhaghanes i’r stori lle sonnir am fywyd cynnar Donna (y prif gymeriad) cyn i helyntion y sioe gerdd wreiddiol ddigwydd. Os ydych yn fodlon anwybyddu ambell ddiffyg bach yn y plot, gellir dweud ei fod yn rhaghanes gwych sy’n ychwanegu dyfnder at y stori mewn sioe gerdd hwyliog sy’n llawn dop o gerddoriaeth ABBA a ffasiwn y 70au.
Charlie and the Chocolate Factory a Wonka
Yn 2023, rhyddhawyd y drydedd ffilm sy’n seiliedig ar y llyfr gan Roald Dahl – sef rhaghanes cerddorol sy’n adrodd hanes gwreiddiol Willy Wonka cyn iddo agor y ffatri siocled a welir yn ffilmiau 1971 a 2001. Yn union fel ei rhagflaenwyr, mae’r ffilm hon yn cynnwys cerddoriaeth wych (oeddech chi’n gwybod bod y ffilm wreiddiol yn cynnwys agorawd o The Marriage of Figaro?) ac mae’n llawn lliw, caneuon, gwisgoedd godidog, effeithiau arbennig a siocled.
The Lord of the Rings a The Hobbit
The Hobbit gan JRR Tolkein oedd y llyfr cyntaf yn y gyfres ac fe gafodd y ffilmiau eu rhyddhau ar ôl y drioleg wreiddiol. Mae rhai aelodau o Gorws WNO yn gysylltiedig â phrosiect gyda Volante Opera Productions sy’n cynhyrchu recordiadau o Musical Chapters from The Lord of the Rings after the mythology of JRR Tolkien, a Musical Chapters from The Hobbit after the mythology of JRR Tolkien gan Paul Corfield Godfrey, a fydd yn cael eu rhyddhau yn 2025 a 2026.
Os ydych awydd gwylio rhaghanes, bydd ein cynhyrchiad o The Marriage of Figaro yn dychwelyd i lwyfannau Cymru a Lloegr yn ystod Tymor y Gwanwyn 2025 a gallwch wylio sioeau teithiol Wicked tan fis Ionawr.