Hoffai Opera Cenedlaethol Cymru ddymuno Pride Hapus i bawb yng Nghymru'r wythnos hon, ac fel rhan o'r dathliadau, roeddem eisiau archwilio themâu rhywedd, rhywioldeb a hunaniaeth rywedd mewn opera.
O fewn opera, ceir traddodiad hirsefydlog o ferched yn canu rolau dynion (gelwir nhw yn rhannau trowsus neu travesti), a'r rheswm am hyn gan amlaf yw bod llais y ferch yn swnio fwy fel gŵr ifanc, a dyna yw'r cymeriad fel arfer. Gellir dod o hyd i enghreifftiau enwog yn Der Rosenkavalier ac Ariadne auf Naxos gan Richard Strauss, The Marriage of Figaro gan Mozart, Hansel and Gretel gan Humperdinck a Faust gan Gounod. Mae croes-wisgo a chuddwisg yn cael eu defnyddio'n aml i guddio hunaniaeth cymeriad, megis Fidelio gan Beethoven (lle mae Leonora yn gwisgo fel dyn i ryddhau ei gŵr) a The Marriage of Figaro gan Mozart (Cherubino yn gwisgo fel merch i osgoi dyletswydd yn y fyddin).
Pe baem yn edrych ar rywioldeb, ystyrir mai'r cymeriad hoyw cyntaf mewn opera yw'r Iarlles Geschwitz, sy'n ymddangos yn Lulu, campwaith gwefreiddiol Alban Berg. Mae Geschwitz yn datgan ei chariad i'r prif gymeriad, yn ogystal ag adrodd y geiriau olaf: 'Lulu! Fy angel!. . . Fe arhosaf yn agos atat ti! Am byth!', ond yn Salome gan Richard Strauss, sy'n seiliedig ar ddrama Oscar Wilde, mae gennym was sydd wedi gwirioni gyda chapten gwarchodlu Herod. Yn yr ugeinfed ganrif, roedd Benjamin Britten yn dominyddu'r maes opera hoyw. O Peter Grimes i Billy Budd ac ymlaen i Death in Venice, bu i Britten ddewis pynciau gydag agwedd hoyw neu draws, amlwg. Ac ni allwn anghofio am Rhondda Rips it Up!, lle mae'r prif gymeriad, Arglwyddes Rhondda, mewn perthynas â Helen Archdale, ar ôl i'w phriodas ddod i ben.
Yn 2019, bu i New York City Opera gomisiynu gwaith newydd sbon yn seiliedig ar derfysgoedd Stonewall yn 1969. Wedi'i chyfansoddi gan Iain Bell (In Parenthesis), gyda libreto gan Mark Campbell, Stonewall, yw'r opera gyntaf i gynnwys cymeriad trawsryweddol, a ysgrifennwyd ar gyfer canwr trawsryweddol. Perfformiwyd y cynhyrchiad am y tro cyntaf fel rhan o fis Pride Efrog Newydd.