Newyddion

Dewch i adnabod Stacey Alleaume

5 Hydref 2023

I ddathlu dychweliad cynhyrchiad poblogaidd Opera Cenedlaethol Cymru o La traviata i’r llwyfan, cawsom sgwrs â Stacey Alleaume sy’n serennu fel prif gymeriad dewr yr opera, Violetta, yn ei pherfformiad cyntaf erioed yn y DU.

Sut beth oedd eich bywyd cerddorol yn ystod eich plentyndod?

Roeddwn wrth fy modd â cherddoriaeth o oedran ifanc. Pan oeddwn yn saith mlwydd oed daeth arweinwyr côr lleol i ymweld â fy ysgol gynradd. Canodd plant fy ystafell ddosbarth Anthem Genedlaethol Awstralia, a chefais fy ngwahodd ynghyd â rhai o’r disgyblion eraill gyda’r gallu i ganu i fynd i glyweliad am unawd ffurfiol. Roeddwn wedi cyffroi gymaint, gwnes i ymbil ar fy rhieni i adael i mi fynd i’r clyweliad ar ôl i mi gyrraedd adref y diwrnod hwnnw. Roeddwn wedi gwirioni wrth ennill lle yn y côr, a chanais gyda nhw am saith mlynedd. Dyna lle cafodd fy mrwdfrydedd dros gerddoriaeth ei danio ac aeth y daith o nerth i nerth wrth i mi ddod i ddeall bod cael cerddoriaeth yn rhan fawr o fy mywyd yn ffawd. 

A oedd moment arbennig a wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn gantore opera? 

Yn yr ysgol uwchradd, treuliais gyfnod o brofiad gwaith yn Opera Awstralia. Drwy gydol yr wythnos cefais arsylwi ymarferion a gwylio perfformiadau. Cefais fy ysbrydoli gymaint gan yr artistiaid nes i’r profiad gadarnhau fy mod eisiau bod yn gantores opera. 

Beth yw eich hoff rôl operatig hyd yma a pham?

Yn sicr, Violetta o La traviata. Rwyf wedi perfformio’r rôl hon 40 o weithiau hyd yma ac rwy’n parhau i ddysgu pethau newydd amdani ym mhob cynhyrchiad. 

Beth sy’n rhoi boddhad i chi am chwarae rôl Violetta ynLa traviata?

Mae Violetta yn rôl anhygoel i’w phortreadu, yn bennaf gan fod ei stori ar sail bywyd person go iawn, Marie Duplessis, putain llys o Ffrainc. Rwyf wedi mwynhau ymgolli yn y nifer o adnoddau llenyddol sydd ar gael i wirioneddol ddod i ddeall ei bywyd yn llwyr, mewn ymdrech i gysylltu â chymeriad Violetta ar lefel ddyfnach.

Pwy yw'r dylanwad mwyaf ar eich gyrfa gerddorol, a pham?

Nid yw dechrau gyrfa lawrydd ryngwladol o Awstralia yn dasg hawdd, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r cyfarwyddwyr artistig sydd wedi gweld fy nhalent, wedi rhoi contract i mi ac wedi fy nghefnogi. Yn ogystal, mae fy asiantau a’m rheolwyr artistig wedi bod yn eiriolwyr i mi ac yn allweddol wrth agor drysau, gan roi cyfle i mi serennu ar y llwyfan yn y pen draw.

Beth mae'n ei olygu i chi i fod yn perfformio yn y DU am y tro cyntaf?

Mae perfformio mewn gwlad newydd bob amser yn gyffrous, ond bydd y perfformiad hwn yn arbennig iawn gan y bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd â’r cynhyrchiad hwn o La traviata ar daith i saith dinas ledled y DU. 

Ble a/neu pryd ydych chi hapusaf?

Rwyf wrth fy modd pan rwy’n perfformio, ac mae hynny’n fy ngwneud yn hynod o hapus a bodlon. Yn fy swydd rwy’n teithio ac yn treulio cryn dipyn o amser ar fy mhen fy hun, felly rwyf wirioneddol yn trysori’r adegau rwy’n cael eu treulio gartref gyda fy ngŵr a’r ci bach ac yn ymweld â’m rhieni.

I weld Stacey Alleaume wrth ei gwaith, sicrhewch eich bod yn gweld perfformiad o gynhyrchiad clodwiw WNO o La traviata, ar daith yn Llandudno, Bryste, Plymouth, Milton Keynes a Southampton tan 25 Tachwedd 2023.